Os byddwch chi, fel cyflogwr, eisiau i blant weithio i chi yna rhaid i chi ystyried fod rheolau a rheoliadau llym yn rheoli faint o oriau y gallant weithio, pa fath o waith y gallant wneud a’r math o eiddo ac adeiladau y bydd y plant yn gweithio ynddynt. Mae’r rheolau yno i atal y plant rhag cael unrhyw niwed a rhag manteisio arnynt ac i sicrhau nad yw eu haddysg yn dioddef.
Rhaid i blant fod wedi cyrraedd eu pen-blwydd yn 13 cyn gwneud cais.
Yr Awdurdod (Addysg) Lleol yw’r asiantaeth sydd, yn y gyfraith, ag awdurdod dros oruchwylio plant sydd â swyddi rhan-amser ac erlyn unrhyw gyflogwr sy’n torri’r gyfraith. Yn Wrecsam Cynhwysiad Addysg yn Adran Atal a Chynhwysiad y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc sydd â’r cyfrifoldeb hwn.
Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i holl blant (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd islaw terfyn uchaf oedran ysgol gorfodol. (Daw addysg orfodol plant i ben ar y Dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol y byddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 16 ynddi ac nid yw’n gorffen ar eu pen-blwydd yn 16.) Nid yw derbyn Rhif a Cherdyn Yswiriant Gwladol yn arwydd bod plant yn gallu cael swydd lawn-amser a/neu adael yr ysgol.
Rhaid i holl blant oed ysgol sydd â swydd ran-amser yn gweithio i gyflogwr gofrestru gyda’r Awdurdod Addysg a bod â thrwydded waith. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi plant.
Rhaid i’r cyflogwr wneud Asesiad Pobl Ifanc penodol o unrhyw beryglon yn y gyflogaeth a dweud wrth rieni / gwarcheidwaid y plant beth yw’r peryglon hynny (os oes rhai). Rhaid i’r cyflogwr hefyd sicrhau bod y plant yn gwisgo dillad ac esgidiau priodol ac yn cael hyfforddiant a chyfarwyddyd priodol, a bod yswiriant priodol ar eu cyfer.
Cyn pen 7 diwrnod ar ôl i blant ddechrau gweithio rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais Cyflogi Plant i’w llofnodi gan rieni / gwarcheidwaid y plant a’i hanfon at yr Awdurdod (Addysg) Lleol. Mae’r cais hwn yn rhoi manylion y plant, yr oriau gwaith, y gweithle a’r math o waith i’w wneud. Rhaid gwneud asesiad risg a’i drafod gyda’r rhieni / gwarcheidwaid. Yna bydd y rhieni / gwarcheidwaid a’r cyflogwr yn llofnodi’r ffurflen gais.
Nid oes unman yn y ddeddfwriaeth sy’n datgan faint sy’n gorfod cael ei dalu i blant oed ysgol. Caiff hyn ei adael i’w gyd-drafod rhwng y cyflogwr, y plant a’u rhieni / gwarcheidwaid. Fodd bynnag, mae dim tâl o gwbl neu fudd (e.e. gwersi marchogaeth am ddim neu ginio neu nwyddau am ddim) yn dal i gael ei weld fel cyflogaeth.
Dylai unrhyw gyflogwr sy’n yn meddwl am gyflogi plant a heb fod wedi gwneud hynny o’r blaen gysylltu â’r Swyddog Cyflogi Plant yn yr Awdurdod Addysg i gael cyngor.
Dylai cyflogwyr sylwi ar y canlynol:
Dim ond rhai o’r rheolau a rheoliadau cysylltiedig â chyflogi plant yw’r uchod a chi, fel cyflogwr, sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r Deddfau Cyflogi Plant a bod unrhyw blant a gyflogwch yn cael eu cyflogi’n gyfreithlon.