Cyflogi Plant - Gwybodaeth i Rieni / Gwarcheidwaid a Phlant

Fe all plant gael gymaint o fod â swydd ran-amser, nid yn unig oherwydd ennill arian, ond hefyd o weithio gyda phobl eraill mewn amgylchedd gwaith gan eu helpu gyda’u sgiliau cymdeithasol. 

Mae rheolau a rheoliadau llym yn llywodraethu cyflogi plant i’w gwarchod rhag unrhyw niwed na manteisio arnynt ac i sicrhau nid yw iechyd ac addysg y plant yn dioddef. 

Yr Awdurdod (Addysg) Lleol yw’r asiantaeth sydd, yn y gyfraith, ag awdurdod dros oruchwylio plant sydd â swyddi rhan-amser ac erlyn unrhyw gyflogwr sy’n torri’r gyfraith. Yn Wrecsam Cynhwysiad Addysg yn Adran Atal a Chynhwysiad y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc sydd â’r cyfrifoldeb hwn.

Rhaid i blant fod wedi cyrraedd eu pen-blwydd yn 13 cyn cael gwneud cais am drwydded waith.

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i holl blant (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd islaw terfyn uchaf oedran ysgol gorfodol. (Daw addysg orfodol plant i ben ar y Dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol y byddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 16 ynddi ac nid yw’n gorffen ar eu pen-blwydd yn 16.) Nid yw derbyn Rhif a Cherdyn Yswiriant Gwladol yn arwydd bod plant yn gallu cael swydd lawn-amser a/neu adael yr ysgol.

Rhaid i holl blant oed ysgol sydd â swydd ran-amser yn gweithio i gyflogwr gofrestru gyda’r Awdurdod Addysg a bod â thrwydded waith. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi plant.

Rhaid i’r cyflogwr wneud Asesiad Pobl Ifanc penodol o unrhyw beryglon yn y gyflogaeth a dweud wrth rieni / gwarcheidwaid y plant beth yw’r peryglon hynny (os oes rhai). Rhaid i’r cyflogwr hefyd sicrhau bod y plant yn gwisgo dillad ac esgidiau priodol ac yn cael hyfforddiant a chyfarwyddyd priodol, a bod yswiriant priodol ar eu cyfer.

Cyn pen 7 diwrnod ar ôl i blant ddechrau gweithio rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais Cyflogi Plant i’w llofnodi gan rieni /gwarcheidwaid y plant. Mae’r cais hwn yn rhoi manylion y plant, yr oriau gwaith, y gweithle a’r math o waith i’w wneud.

Nid oes unman yn y ddeddfwriaeth sy’n datgan faint sy’n gorfod cael ei dalu i blant oed ysgol. Caiff hyn ei adael i’w gyd-drafod rhwng y cyflogwr, y plant a’u rhieni / gwarcheidwaid. Fodd bynnag, mae dim tâl o gwbl neu fudd (e.e. gwersi marchogaeth am ddim neu ginio neu nwyddau am ddim) yn dal i gael ei weld fel cyflogaeth.

Mae rhagor o fanylion i’w cael oddi wrth y Swyddog Cyflogi Plant yn yr Awdurdod (Addysg) Lleol.

yn ôl i'r brig