Cyflogi Plant - Cyflogaeth a Ganiateir i Blant

Yn Wrecsam dim ond ar gyfer gwaith ysgafn yn y categorïau canlynol y mae hawl cyflogi plant 13 oed:

  • gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
  • dosbarthu papurau newydd, cyfnodolion a deunydd argraffedig arall
  • gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd
  • salonau trin gwallt
  • gwaith swyddfa
  • golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl preifat
  • mewn caffi neu fwyty
  • mewn stablau marchogaeth
  • gwaith tŷ mewn gwestai a gweithleoedd eraill sy’n cynnig llety

yn ôl i'r brig