Cyflogi Plant - Cyflogaeth Waharddedig i Blant

Nid oes hawl cyflogi plant o unrhyw oed:

  • mewn sinema, theatr, discotec, neuadd ddawns neu glwb nos, heblaw mewn cysylltiad â pherfformiad gan blant yn unig.
  • i werthu neu ddosbarthu alcohol, heblaw mewn cynwysyddion dan sêl.
  • i ddosbarthu llaeth.
  • i ddosbarthu olewau tanwydd.
  • mewn cegin fasnachol.
  • i gasglu neu ddidoli gwastraff
  • mewn unrhyw waith sy’n fwy na 3 metr uwchlaw lefel y tir / llawr.
  • mewn cyflogaeth sy’n cynnwys dod i gysylltiad niweidiol â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol.
  • i gasglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws heblaw dan oruchwyliaeth oedolyn.
  • mewn gwaith sy’n cynnwys dod i gysylltiad â deunydd oedolion neu mewn sefyllfaoedd sydd am y rheswm hen neu fel arall yn anaddas i blant.
  • i werthu dros y ffôn.
  • yn unrhyw ladd-dy neu’r rhan honno o unrhyw siop gig sy’n gysylltiedig â lladd da byw, cigyddiaeth, neu baratoi carcasau neu gig i’w werthu.
  • fel gweinydd neu gynorthwy-ydd mewn cae ffair neu arcêd ddiddanu neu yn unrhyw eiddo ac adeiladau eraill at ddiben difyrrwch cyhoeddus trwy gyfrwng peiriannau awtomatig, gemau neu siawns neu sgíl neu ddyfeisiau tebyg.
  • yng ngofal personol trigolion unrhyw gartref gofal preswyl neu nyrsio oni bai fod hynny dan oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol.

Nid yw hyn yn atal plant rhag cymryd rhan mewn perfformiad yn ôl darpariaethau trwydded a roddwyd yn unol â deddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (cyswllt allanol) a'r rheoliadau cysylltiedig.

yn ôl i'r brig