Gwybodaeth i Rieni ac YsgolionMae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn cynnwys tîm o seicolegwyr addysg sydd wedi’u hyffodi’n broffesiynol, athro arbenigol, Cydlynydd Rhaglenni Cynorthwyo Myfyrwyr a chefnogaeth weinyddol a chlercaidd.Y Prif Seicolegydd Addysg yw Mrs Pauline Preston.
Mae seicoleg yn ein helpu ni a phobl eraill i ddeall sut mae plant yn datblygu a dysgu, yn ogystal â sut maent yn meddwl, teimlo ac ymddwyn.
Rydym yn defnyddio seicoleg i:
Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn darparu gwasanaethau i ysgolion ac i blant a phobl ifanc rhwng 0 – 19 oed.
Mae gan bob ysgol fynediad at seicolegydd addysg penodedig (SA) sy’n ymweld ag ysgolion yn rheolaidd. Gall rhieni ddefnyddio’r gwasanaeth drwy drafod gydag ysgol eu plentyn.
Os bydd ysgol yn pryderu ynghylch plentyn unigol, bydd staff yn gweithio gyda rhieni mewn amryw o wahanol ffyrdd er mwyn cefnogi’r disgybl. Yr enw ar hyn yw ‘Gweithredu gan yr Ysgol’ yng n ghyhoeddiad y Llywodraeth: ‘Côd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru’ (cyswllt allanol) a gyhoeddwyd yn 2002.
Os na chaiff pryderon ynghylch plentyn eu datrys, yna bydd yr ysgol yn gofyn a ellir cynnwys y SA yn fwy uniongyrchol gyda chytundeb y rhieni. (Yr enw ar hyn yw Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy’). Cynhelir adolygiadau cynnydd rheolaidd gyda’r rhieni a phawb arall sy’n gysylltiedig.
Rydym yn arfer amryw o ymagweddau:
Joanne Colley
Gweinyddydd
Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Canolfan Erlas
Ffordd Bryn Estyn
Wrecsam LL13 8AZ
Ffôn: 01978 317675
E-bost: educational_psychology_service@wrexham.gov.uk