D.S. Mae gan ein holl ystafelloedd fflipsiartiau, sgriniau, uwchdaflunydd, teledu ac mae peiriannau fideo, gliniaduron a thaflunwyr fideo ar gael ar gais ar gyfer cyflwyniadau Powerpoint. Mae byrddau gwyn rhyngweithiol ar gael hefyd.
Mae Canolfan Erlas yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd ac mae mynediad i’r ystafelloedd ar y llawr isaf a’r llawr cyntaf.
Y Neuadd (Ystafell 1)Mae’r ystafell banelog fendigedig hon yn lleoliad delfrydol ar gyfer hyfforddiant a chynadleddau.
Mae’r paneli pren gwreiddiol yn dangos gwaith crefft flynyddoedd yn ôl a cheir allanfa i’r lawnt ar gyfer adegau egwyl. Mae lle i 18 – 20 eistedd yn yr ystafell hon.
Y Parlwr (Ystafell 2) Lleoliad hamddenol ar gyfer eich cyfarfod. Ystafell â digon o le i 25 eistedd ar ffurf ystafell drafod. Mae maint yr ystafell yn cynnig lle eistedd i 70 o bobl ar ffurf ystafell ddarlith.
Ystafell Biliards (Ystafell 3)Ystafell â phaneli derw gwreiddiol sydd â digon o le i weithio ynddi. Ystafell hyblyg iawn y gellir ei haddasu o ystafell drafod i ystafell ddosbarth i gynnig lle i 30 o bobl, neu 60 ar ffurf ystafell ddarlith.
Ystafell Ysgol (Ystafell 4) Mae’r Ystafell Ysgol yn ystafell gyfarfod olau a chyfforddus sydd â lle i 16. Delfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu gyrsiau hyfforddiant llai.
Ystafelloedd Y DderwenGellir darparu Hyfforddiant Cyfrifiadurol yng Nghanolfan Erlas. Mae ein Hystafell Gyfrifiaduron ar gael i gynnig yr adnoddau uwch-dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer hyfforddiant addas i’r swyddfa gyfoes neu hyfforddiant ysgol; 16 gweithfan, bwrdd gwyn rhyngweithiol, gliniadur a thaflunydd: cyfaddas i DVD/CD
| Amser | Neuadd | Parlwr | Neuadd / Parlwr | Ystafell Filiards | Ystafell Ysgol | Ystafell y Dderwen |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Diwrnod Cyfan | £123.00 | £140.00 |
£217.00 | £103.00 | £63.00 | £161.00 |
| Hanner Diwrnod | £73.00 | £86.00 | £109.00 | £54.00 | £42.00 | £81.00 |
Penwythnos: Gofalwr @ £21.00 (Sad), £26.00 (Sul) yr awr (o leiaf 2.5 awr); Costau glanhau @ £10.00 (os yw'n berthnasol)
Gyda'r hwyr (ar ôl 7pm): Gofalwr @ £14.00 yr awr (o leiaf 2 awr); Costau glanhau @ £10.00 (os yw'n berthnasol)
Ffoniwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am osodiad yr ystafelloedd neu’r cyfleusterau sydd ar gael.
Gosodiad ystafelloedd
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:
Gosodiad ystafelloedd - Fersiwn Word 225Kb ![]()
Gosodiad ystafelloedd - Fersiwn PDF 163Kb ![]()
Gosodiad ystafelloedd - Fersiwn RTF 12.0Mb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |