



Arweiniad newydd yw Dechrau’n Deg ar gyfer plant o 0 oed hyd at eu 4ydd Pen-blwydd, a’u rhieni neu ofalwyr. Mae’n grant penodol Llywodraeth Cynulliad Cymru i Awdurdodau Lleol hyd at 2010/2011. Bydd Dechrau’n Deg yn digwydd ar draws rhannau o Gymru gan gynnwys rhannau penodedig o Wrecsam.
Mae Dechrau’n Deg yn rhoi nifer o wasanaethau am ddim i deuluoedd sydd â hawl:
Rhywfaint o ofal plant sesiynol ar gyfer plant 2 i 3 oed – mae hyn yn golygu bod plant cymwys yn gallu mynd i leoliad gofal plant Dechrau’n Deg am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 42 wythnos y flwyddyn. Mae’r holl sesiynau’n hwyl ac am ddim, ac mae 2 ganolfan Gymraeg ar gael.
Mae’r staff yn gymwysedig dros ben ac mae Athro neu Athrawes Dechrau’n Deg yn cefnogi’r Lleoliad.
Mwy o Ymweliadau Iechyd – mae hyn yn golygu mwy o gefnogaeth a chysylltiad â’ch Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg. Mae tîm o weithwyr iechyd proffesiynol sydd hefyd yn ychwanegu at y gwaith hwn gan gynnwys Therapydd Lleferydd, bydwraig a gweithwyr cefnogi teuluoedd.
Cyrsiau a chyfleoedd magu plant ar gael – mae hyn yn golygu y bydd nifer o gyrsiau am ddim ar gael i rieni cymwys i’w cynorthwyo fel rhieni. Maent yn hwyl ac ar gael i grŵp neu un i un yn y cartref. Un o’r prif gyrsiau ar gael yw rhaglen y Blynyddoedd Anhygoel. Cwrs 12 wythnos yw hwn sy’n rhoi sgiliau i rieni ddelio ag unrhyw ymddygiad heriol yn eu plant.
Mae’r elfen hon yn ymwneud â helpu rhieni ddatblygu sgiliau sylfaenol eu plant. Dau gwrs byr yw Iaith a Chwarae a Rhif a Chwarae lle gall rhieni a phlant gael hwyl gyda staff y Tîm Iaith a Chwarae. Mae modd cael y ddau gwrs hyn yn y cartref hefyd.
Mae holl deuluoedd cymwys wedi derbyn llythyr a thaflen yn dweud wrthynt fod ganddynt hawl. Byddant hefyd wedi cael ymweliadau gan eu Hymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg fydd wedi egluro mwy am Dechrau’n Deg.
Gallwch ffonio’r Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg ar 01978 317668 neu Dîm Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg ar 01978 265395 neu 01978 823716.