Y Cyfnod Sylfaen

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn gwricwlwm newydd i blant 3-7 oed. Mae’n rhoi Lles y plentyn yng nghalon y Dysgu a’r Addysgu. Bydd y Cyfnod Sylfaen yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol drwy ei gwricwlwm sail sgiliau sy’n briodol i ddatblygiad y plentyn.

Daw’r Cyfnod Sylfaen â chysondeb a pharhad cynyddol i addysg Plant mewn cyfnod hanfodol yn eu datblygiad.

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais mawr ar gael Plant i ddysgu trwy wneud. Bydd Plant Ifainc yn cael mwy o gyfleoedd i gael profiadau personol drwy chwarae a chymryd rhan yn weithredol. Byddent yn cael amser i ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando ac i ddod yn hyderus yn eu galluoedd Darllen ac Ysgrifennu. Bydd Mathemateg yn fwy ymarferol fel bod plant yn gallu gweld sut mae problemau’n cael eu datrys a pha mor bwysig yw Mathemateg yn eu bywydau pob dydd. Bydd mwy o bwyslais ar ddealltwriaeth y Plentyn ynglŷn â’r ffordd mae pethau’n gweithio ac ar ganfod gwahanol ffyrdd o ddatrys problemau.

Bydd y cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddysgu trwy brofiad, cyfranogaeth weithredol a datblygu’r canlynol yn y plentyn:

  • Sgiliau a dealltwriaeth
  • Datblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol
  • Agweddau positif tuag at ddysgu fel eu bod yn ei fwynhau ac eisiau parhau i ddysgu drwy gydol eu bywydau
  • Hunan-barch a hunanhyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a ffurfio perthnasoedd newydd
  • Sgiliau creadigol a medrau mynegi ac arsylwi
  • Gweithgareddau yn yr awyr agored lle cânt brofiad personol o ddatrys problemau go iawn a dysgu am gadwraeth a chynaliadwyedd.

Mae’r Fframwaith Cyfnod Sylfaen yma’n gosod y Cwricwlwm o dan saith Maes Dysgu. Ymhob Maes Dysgu mae’r rhaglen addysg yn nodi’r hyn y dylid ei ddysgu i blant a’r Canlyniadau, sef y safonau perfformiad a ddisgwylir gan y plant.

Dyma’r Meysydd Dysgu:

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol
  • Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebiad
  • Datblygiad Mathemategol
  • Datblygiad y Gymraeg
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol

Daw’r Cyfnod Sylfaen yn weithredol dros bedair blynedd fel a ganlyn:

  • 1 Medi 2008 i bob plentyn 3 i 4 oed yn y Cyfnod Sylfaen
  • 1 Medi 2009 i bob plentyn 4 i 5 oed yn y Cyfnod Sylfaen
  • 1 Medi 2010 i bob plentyn 5 i 6 oed yn y Cyfnod Sylfaen
  • 1 Medi 2011 i bob plentyn 6 i 7 oed yn y Cyfnod Sylfaen.

O’r dyddiadau hyn, mae’r Cyfnod Sylfaen yn cymryd lle’r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol ar gyfer Cyfnod Allweddol 1.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r adran Addysg Gynnar ar 01978 317666.

yn ôl i'r brig

Cyswllt i