
Croeso i Gynllun Ysgolion Iach Wrecsam
Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn rhan integrol o wasanaeth Plant a Phobl Ifanc Bwrdeistref Sirol Wrecsam, o fewn yr Adran Atal a Chynhwysiad.
Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo a diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc drwy weithgareddau hyrwyddo iechyd a rhaglenni mewn Ysgolion
Mae ysgol sy’n hyrwyddo iechyd yn un sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gamau gweithredu cadarnhaol fel polisïau, cynlluniau strategol a datblygu staff mewn perthynas â’i chwricwlwm, ei hethos, ei hamgylchedd corfforol a’i chysylltiadau â’r gymuned.
Lansiwyd Cynllun Ysgolion Iach Wrecsam yn 2002 ac mae’n aelod o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru. Achredwyd y cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2003. Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng iechyd ac addysg, sy’n cydnabod bod manteision cilyddol i iechyd a chyraeddiadau pobl ifanc.
Mae’r cynllun yn ymroddedig i gefnogi ac annog twf a gweithrediad y fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) mewn ysgolion, yn ogystal â sicrhau bod blaenoriaethau iechyd cenedlaethol yn cael eu hystyried i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach ym mywyd beunyddiol yr ysgol.
Trwy sefydlu amgylchedd iach yn yr ysgol, bydd y gwelliannau i iechyd a lles y disgyblion yn cael eu hadlewyrchu mewn safonau addysgol uwch. Mae’r gwaith o hyrwyddo iechyd mewn ysgolion yn gyfuniad o addysg iechyd o fewn y cwricwlwm a’r holl gamau eraill y mae ysgol yn eu cymryd i amddiffyn a gwella iechyd y rheiny sydd yno. Mae’r gymuned ehangach yn cael ei chynnwys wrth gynllunio, gweithredu, arfarnu a dathlu.
Yn Wrecsam mae tîm o swyddogion sy’n ymroddedig i gefnogi ysgolion yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun ysgolion iach.
Cefnogir ysgolion yn y gwaith o ddatblygu camau gweithredu i ddiwallu eu hangenion penodol, a gynllunir gyda meini prawf a dulliau monitro ac arfarnu clir. Hwylusir gwaith rhwydweithio lleol rhwng ysgolion ac asiantaethau proffesiynol ac mae cyfleoedd hyfforddi ar gael i staff. Mae arian ychwanegol ar gael i gefnogi Ysgolion Iach ar ffurf grantiau e.e. grantiau bwyd a ffitrwydd a hefyd ffynonellau arian lleol ar gyfer datblygu prosiectau.
Fel arfer mae ysgolion yn cynnal asesiad bob blwyddyn a chânt eu hachredu gyda phlac deilen werdd am bob blwyddyn y maent wedi cymryd rhan yn y cynllun yn llwyddiannus. Dyfernir plac i ysgolion mewn dathliad a gynhelir yn yr hydref.
Y Cynllun Deg Pwynt
Mae Ysgolion Iach yn Wrecsam yn dilyn cynllun a gyfeirir ato fel y Cynllun Deg Pwynt, sy’n nodi naw maes iechyd, yn ogystal â digwyddiad hybu iechyd pwysig. Ymhlith y rhain mae:Cymunedau, Maeth, Iechyd staff, Iechyd emosiynol, Yr Amgylchedd a Diogelwch, Gweithgaredd Corfforol, Ysmygu, Cyffuriau ac Alcohol ac Addysg Rhyw a Pherthnasau.
Gofynnir i ysgolion sy’n cymryd rhan ddatblygu camau gweithredu ar bob un o’r themâu iechyd a hynny dros gyfnod dechreuol o dair blynedd. Asesir tystiolaeth o bob gweithgaredd a datblygiad bob blwyddyn.
Bydd y cynllun ar waith am gyfanswm o naw mlynedd, ac yn y chwe blynedd ar ôl hynny rhoddir sylw i un thema bob blwyddyn. Gofynnir i ysgolion ddangos bod y gwaith yn gynaliadwy a bod hybu iechyd wedi dod yn rhan integrol o’r ysgol o ddydd i ddydd. Mae anghenion a blaenoriaethau lleol yn sail i’r broses o gyflawni pob pwynt.
Cynllun Gweithredu Blas am Oes 2008
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun Gweithredu Blas am Oes 2008 - Fersiwn PDF 551Kb ![]()
Bocsys Bwyd Mwy Iach
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Bocsys Bwyd Mwy Iach - Fersiwn PDF 152Kb ![]()
Cynllun 10 Pwynt Ysgolion Iach CBSW
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun 10 Pwynt Ysgolion Iach CBSW - PDF version 710Kb ![]()
Cyfeiriad:
Cynllun Ysgolion Iach Wrecsam
Canolfan Erlas
Ffordd Bryn Estyn
Wrecsam
LL13 9TY
Ffôn: 01978 317689
Ffacs: 01978 317607
Ebost: healthyschools@wrexham.gov.uk
Is-adran Hybu Iechyd Cynulliad Cymru www.healtheschool.org.uk
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
www.food.gov.uk
NSPCC
www.nspcc.org.uk