Gynllun Ysgolion Iach Wrecsam

Croeso i Gynllun Ysgolion Iach Wrecsam

Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn rhan integrol o wasanaeth Plant a Phobl Ifanc Bwrdeistref Sirol Wrecsam, o fewn yr Adran Atal a Chynhwysiad.

Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo a diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc drwy weithgareddau hyrwyddo iechyd a rhaglenni mewn Ysgolion


Beth yw Ysgol Iach?

Mae ysgol sy’n hyrwyddo iechyd yn un sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gamau gweithredu cadarnhaol fel polisïau, cynlluniau strategol a datblygu staff mewn perthynas â’i chwricwlwm, ei hethos, ei hamgylchedd corfforol a’i chysylltiadau â’r gymuned.

Lansiwyd Cynllun Ysgolion Iach Wrecsam yn 2002 ac mae’n aelod o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.  Achredwyd y cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2003.  Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng iechyd ac addysg, sy’n cydnabod bod manteision cilyddol i iechyd a chyraeddiadau pobl ifanc.

Mae’r cynllun yn ymroddedig i gefnogi ac annog twf a gweithrediad y fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) mewn ysgolion, yn ogystal â sicrhau bod blaenoriaethau iechyd cenedlaethol yn cael eu hystyried i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach ym mywyd beunyddiol yr ysgol.

Trwy sefydlu amgylchedd iach yn yr ysgol, bydd y gwelliannau i iechyd a lles y disgyblion yn cael eu hadlewyrchu mewn safonau addysgol uwch.  Mae’r gwaith o hyrwyddo iechyd mewn ysgolion yn gyfuniad o addysg iechyd o fewn y cwricwlwm a’r holl gamau eraill y mae ysgol yn eu cymryd i amddiffyn a gwella iechyd y rheiny sydd yno.  Mae’r gymuned ehangach yn cael ei chynnwys wrth gynllunio, gweithredu, arfarnu a dathlu.

yn ôl i'r brig


Sut y cefnogir ysgolion?

Yn Wrecsam mae tîm o swyddogion sy’n ymroddedig i gefnogi ysgolion yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun ysgolion iach.

Cefnogir ysgolion yn y gwaith o ddatblygu camau gweithredu i ddiwallu eu hangenion penodol, a gynllunir gyda meini prawf a dulliau monitro ac arfarnu clir. Hwylusir gwaith rhwydweithio lleol rhwng ysgolion ac asiantaethau proffesiynol ac mae cyfleoedd hyfforddi ar gael i staff. Mae arian ychwanegol ar gael i gefnogi Ysgolion Iach ar ffurf grantiau e.e. grantiau bwyd a ffitrwydd a hefyd ffynonellau arian lleol ar gyfer datblygu prosiectau.

Fel arfer mae ysgolion yn cynnal asesiad bob blwyddyn a chânt eu hachredu gyda phlac deilen werdd am bob blwyddyn y maent wedi cymryd rhan yn y cynllun yn llwyddiannus. Dyfernir plac i ysgolion mewn dathliad a gynhelir yn yr hydref.

yn ôl i'r brig


Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni

Y Cynllun Deg Pwynt

Mae Ysgolion Iach yn Wrecsam yn dilyn cynllun a gyfeirir ato fel y Cynllun Deg Pwynt, sy’n nodi naw maes iechyd, yn ogystal â digwyddiad hybu iechyd pwysig. Ymhlith y rhain mae:Cymunedau, Maeth, Iechyd staff, Iechyd emosiynol, Yr Amgylchedd a Diogelwch, Gweithgaredd Corfforol, Ysmygu, Cyffuriau ac Alcohol ac Addysg Rhyw a Pherthnasau.

Gofynnir i ysgolion sy’n cymryd rhan ddatblygu camau gweithredu ar bob un o’r themâu iechyd a hynny dros gyfnod dechreuol o dair blynedd. Asesir tystiolaeth o bob gweithgaredd a datblygiad bob blwyddyn.

Bydd y cynllun ar waith am gyfanswm o naw mlynedd, ac yn y chwe blynedd ar ôl hynny rhoddir sylw i un thema bob blwyddyn. Gofynnir i ysgolion ddangos bod y gwaith yn gynaliadwy a bod hybu iechyd wedi dod yn rhan integrol o’r ysgol o ddydd i ddydd. Mae anghenion a blaenoriaethau lleol yn sail i’r broses o gyflawni pob pwynt.

Bwyd a Ffitwydd

Byrbrydau mewn ysgolion

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Byrbrydau mewn ysgolion - Fersiwn PDF 627Kb

Cynllun Gweithredu Blas am Oes 2008

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Cynllun Gweithredu Blas am Oes 2008 - Fersiwn PDF 551Kb

Bwyd a ffitrwydd mewn ysgolion 07-08

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Bwyd a ffitrwydd mewn ysgolion 07-08 - Fersiwn PDF 113Kb

Bocsys Bwyd Mwy Iach

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Bocsys Bwyd Mwy Iach - Fersiwn PDF 152Kb

Cyffredinol

Canllaw Gynradd 08

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Canllaw Gynradd 08 - Fersiwn PDF 226Kb

Canllaw Uwchradd 08

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Canllaw Uwchradd 08 - Fersiwn PDF 223Kb

Cynllun 10 Pwynt Ysgolion Iach CBSW

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Cynllun 10 Pwynt Ysgolion Iach CBSW - PDF version 710Kb

yn ôl i'r brig


Contact information

Manylion Cyfeiriad, Telefon ac E-bost

Jonathan Miller, Rheolwr Iechyd a Lles

Claire Broad, Swyddog Ysgolion Iach

Alan Williams, Cydlynydd Ysgolion Iach ac Addysg Gyffuriau

Penny Keen, Nyrs Ysgol

Cynorthwy-ydd Ysgolion Iach

 

Cyfeiriad:

Cynllun Ysgolion Iach Wrecsam

Canolfan Erlas

Ffordd Bryn Estyn

Wrecsam

LL13 9TY

Ffôn: 01978 317689

Ffacs: 01978 317607

Ebost: healthyschools@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig


Dolenni

Is-adran Hybu Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru www.healtheschool.org.uk
      
Sefydliad Prydeinig y Galon
www.bhf.org.uk

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
www.food.gov.uk

Yr Adran Iechyd
www.dh.gov.uk/ên/Publicationsandstatistics/index.htm

NSPCC
www.nspcc.org.uk

yn ôl i'r brig

yn ôl i'r brig

Cyswllt i

Addysg