Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Talpiau TG

 

Ym mis Chwefror lansiodd ITeC Wrecsam ei ddewislen o gyrsiau Talpiau TG.  Mae’r cyrsiau hyn wedi’u llunio i gynnig cyrsiau byr a fforddiadwy sy’n para ½ diwrnod am sut i ddefnyddio TGCh.  Mae’r cyrsiau’n wahanol i gyrsiau cyfrifiaduron traddodiadol gan eu bod wedi’u llunio i ganolbwyntio ar yr hyn yr ydych chi eisiau ei wybod.  Mae profiad wedi dangos i ni bod rhai pynciau’n cael eu cynnwys mewn cyrsiau sy’n para diwrnod nad ydynt o fudd i bawb sy’n bresennol.  Gan ystyried hyn mae’r cyrsiau Talpiau TG wedi’u llunio i ganolbwyntio ar dasgau.

Ceir rhestr isod o rai o’r cyrsiau sydd ar gael:

Microsoft Word

  • Popeth sydd angen ei wybod am bostgyfuno
  • Mynd i’r afael â thablau
  • Sut i greu adroddiadau proffesiynol
  • Cofnodion, llythyrau a memos

Microsoft Excel

  • Sut i ddechrau ar fformwlâu a swyddogaethau
  • Fformwlâu a swyddogaethau i fynd â chi i’r lefel nesaf
  • Popeth sydd angen ei wybod am graffiau
  • Taclau a swyddogaethau ar gyfer dadansoddi data

Microsoft Access

  • Creu ymholiadau ac adroddiadau sylfaenol

Microsoft Windows

  • Rheoli ffeiliau

Un o brif fanteision y cyrsiau Talpiau TG yw eu bod ar gael yn y bore, y prynhawn ac yn gynnar gyda’r nos.

Bydd yr holl gyfranogwyr yn cael mynediad at ein deunyddiau hyfforddi rhyngweithiol a llawlyfrau’r cyrsiau ar-lein. Dyma rai sylwadau gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau:

‘Cwrs defnyddiol iawn ac mae mynediad at wefan deunyddiau dysgu rhyngweithiol ITeC Wrecsam yn gymorth mawr.’

‘Ymarfer dysgu sylfaenol da.  Bydd y taflenni gwaith a’r llawlyfrau rhyngweithiol ar-lein yn gymorth mawr i mi yn y gwaith.’

Am fwy o wybodaeth a rhestr lawn o’r cyrsiau, ffoniwch ITeC Wrecsam ar 01978 367100.

 
English
 

Cyswllt i

Gwybodaeth
Cwrsiau
Newyddion
Cynhaliaeth
Hyfforddiant
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Prif Tudalen ITeC
Tudalen Cartref ITeC
Tudalen Cartref Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint