Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) trwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), yn tynnu ar Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), yn rhoi arian i ITeC Wrecsam i hyfforddi pobl gyflogedig mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol, heb gost uniongyrchol i chi na’ch cyflogai (yn amodol ar gymhwyster).
Mae cyflogeion, sy’n cael eu hybu a’u cefnogi i wella eu cymwysterau gan eu cyflogwyr, yn fwy brwdfrydig ac mae canlyniadau’n dangos bod allbynnau uwch a gwell safonau gwaith yn cael eu cyflawni.
Gall ITeC Wrecsam helpu eich cyflogeion gael Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) Lefelau 1, 2 a 3 yn y meysydd canlynol – Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethu’r Cwsmer, Technoleg Gwybodaeth (ITQ) ac Arwain Tîm (Lefel 2 yn unig), Adwerthu, Warysau a Dosbarthiad, Gweithrediad Canolfan Gysylltu ac, ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu, Cynorthwyo Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion (STLS) trwy eu cofrestru naill ai fel Prentisiaid Modern Sylfaen (PMS) neu fel Prentisiaid Modern (PM).
Caiff Fframweithiau CGC eu hennill wrth i’r cyflogeion gasglu tystiolaeth o gymhwysedd yn y gweithle gyferbyn â chasgliad o safonau cydnabyddedig ledled y wlad. Maent yn cael cymorth un o Aseswyr ITeC Wrecsam sy’n ymweld â’r gweithle ac yn gweithio gyda’r cyflogeion. Yn ychwanegu at y Fframweithiau mae Sgiliau Allweddol a Thystysgrifau Technegol. Bydd disgwyl i’r cyflogeion ddod i ITeC Wrecsam ar un diwrnod y mis ar gyfartaledd, ar y mwyaf. Mae’n cymryd rhwng 15 a 24 mis i gael CGC – yn dibynnu ar y llwybr. I gael rhagor o fanylion, dilynwch y ddolen i CYRSIAU.
Mae ITeC Wrecsam yn rhan o Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac, ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru/APADGOS, rydym yn ymrwymo i hyfforddi’r gweithlu lleol a gwella’r economi lleol.
Rydym ni yn ITeC Wrecsam, rhan o Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn haeddiannol falch o safon y gwasanaeth a roddwyd gennym ac y daliwn ei roi i bobl a chymuned fusnes ardal Wrecsam.
Os hoffech ddysgu mwy am y cyrsiau, cysylltwch â ni ar 01978 367100, Ffacs 01978 367111, e-bost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk.