Canolfan Technoleg Gwybodaeth (ITeC) Wrecsam

“Cynnig sgiliau, cyfleoedd a dewisiadau i helpu i chi gyflawni eich llawn allu”

Fel rhan o Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sefydlwyd ITeC Wrecsam yn 1983 fel sefydliad yn talu amdano’i hunan gyda phrif ddiben o gyfrannu at adfywio a chefnogi seilwaith economaidd-gymdeithasol yr ardal.

Ar y dechrau roedd ITeC Wrecsam yn targedu ei gymorth a gwybodaeth arbenigol ar ymladd effeithiau gwaethaf y dirwasgiad ar y pryd. Fe sefydlodd a chyflwynodd raglenni hyfforddi – gan ddefnyddio cyfrifiaduron ac electroneg – i ddiwallu anghenion y rhai oedd eisiau ailhyfforddi ac ateb galwadau newidiol masnach a diwydiant lleol. Ers hynny, mae ITeC Wrecsam wedi datblygu i fod yn gyfrannwr sefydledig ac uchel ei barch at barhad adfywiad yr ardal, gan ddatblygu ei bortffolio o gyrsiau a rhaglenni i ateb y gofynion newidiol busnes lleol – ar y cyd â nodau strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ers ei ddechreuad, mae ITeC Wrecsam wedi talu amdano’i hun yn llwyr, gan reoli contract blynyddol sylweddol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) trwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) – sy’n tynnu ar Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). O ganlyniad, daw’r holl raglenni mewnol a seiliedig ar waith sy’n cael eu cynnig gan ITeC Wrecsam heb unrhyw gost uniongyrchol naill ai i’r unigolyn neu, pan fo hynny’n briodol, i’r cwmni neu sefydliad sy’n eu noddi.

Bu’r pwyslais yn ITeC Wrecsam erioed ar ansawdd a chafodd hyn ei gydnabod yn 1992 gyda chyflawni ISO 9001 yn cael ei ddilyn gan ddyfarniad Buddsoddwr mewn Pobl yn 1994.

Caiff aelodau staff ITeC Wrecsam eu hannog i fanteisio ar ddatblygu proffesiynol parhaol er mwyn yn aros ar y blaen i’r newid parhaol yn eu sector. Mae hyfforddi staff hefyd yn ymgorffori’r lliaws mentrau dan arweiniad y Cyngor gan gynnwys ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac anabledd, anffafriaeth, cynaliadwyedd, materion amgylcheddol a dinasyddiaeth fyd-eang, gan sicrhau bod holl ddysgwyr yn cael eu trin yn deg, yn ôl eu hanghenion unigol, ac yn cael profiad o gwricwlwm ehangach a mwy boddhaus.

O ran Dysgwyr mewnol, yn ieuenctid ac oedolion, er bod hyfforddiant yn dal yn seiliedig ar Dechnoleg Gwybodaeth, bu symudiad sylweddol mewn pwyslais yn y rhaglen Meithrin Sgiliau12 wythnos. Erbyn hyn mae’n canolbwyntio ar barodrwydd ar gyfer gwaith, sef chwilio am swydd, gan gynnwys ysgrifennu braslun gyrfa a thechnegau cyfweld, un o’r Sgiliau Allweddol priodol, cymhwyster TG Lefel 1 a chymorth gyda sgiliau rhifedd a llythrennedd.

Yna caiff pob ymdrech ei wneud i gael lleoliad gwaith neu brofiad gwaith i’r dysgwr Meithrin Sgiliau. Gall llwyddo yn y lleoliad arwain at swydd fwy parhaol gyda’r cyfle i ddilyn Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) perthnasol.

I’r rhai mew cyflogaeth, mae ITeC Wrecsam yn dal i ymestyn a datblygu ei ddewis o Fframweithiau Sylfaen a Phrentisiaeth Fodern. Ar hyn o bryd mae’r fframweithiau – Sgiliau Allweddol, CGC II a III a Thystysgrifau Technegol – yn cynnwys: Technoleg Gwybodaeth, Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethu’r Cwsmer, Arwain Tîm, Cefnogi Dysgu ac Addysgu, Warysau a Dosbarthiad, Adwerthu a Gweithrediad Canolfannau Cysylltu (trin galwadau). Maent yn gwbl noddedig, yn amodol ar gymhwyster, ac yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno i gyd-fynd ag anghenion busnes sefydliad y Dysgwr.

Caiff rhaglen o gyrsiau seiliedig ar TG, gan gynnwys y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) ei chynnig hefyd i gleientiaid masnachol am brisiau cystadleuol ac am ddim, dan amodau, i’r rhai hynny a gofrestrwyd ar Fframweithiau.

Mae ITeC Wrecsam yn haeddiannol falch o’r gwasanaethu â gwerth ychwanegol y mae’n eu cynnig i’w Ddysgwyr ac i sefydliadau cyfrannog. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd proffesiynol, cymorth ac arwyddion at Sgiliau Sylfaenol – maes lle mae ITeC Wrecsam yn awyddus arbennig i gynyddu ei gyfraniad – a chynorthwyo gyda recriwtio mewn cwmnïau lleol.

Dros y 6 blynedd diwethaf rhaid ystyried rhaglenni Prentisiaethau Modern Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, menter a hyrwyddwyd i ddechrau gan ITeC Wrecsam, fel un o’r prif storïau llwyddiant. Mae rhyw 100 o bobl ifanc wedi elwa ar y rhaglen hon, gyda mwyafrif y “doniau cartref” hyn yn symud ymlaen i swyddi llawn-amser yn y Cyngor a, thrwy ITeC Wrecsam, yn cyflawni cymwysterau CGC III.

Mae ITeC Wrecsam yn ymroddi i chwilio am gyfleoedd ychwanegol yn barhaol i wella ei wasanaeth i bobl a chymuned fusnes Wrecsam.

Rydym yma i helpu ac os na allwn ei wneud yn uniongyrchol, yna fe wyddom am rywun sy’n gallu!

Gwasanaethau ITeC Wrecsam - Crynodeb

  • Fframweithiau CGC II a III wedi’u cyllido’n llawn mewn Technoleg Gwybodaeth (ITQ), Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethu’r Cwsmer, Adwerthu, Warysau a Dosbarthiad, Gweithredu Canolfan Gysylltu
  • Ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu – Fframweithiau CGC Lefelau II a III mewn Cynorthwyo Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion
  • Fframwaith CGC II mewn Arwain Timau
  • CGC I mewn Technoleg Gwybodaeth (ITQ), Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethu’r Cwsmer, Adwerthu, Warysau a Dosbarthiad, gweithredu Canolfan Gysylltu. Hefyd Tystysgrifau Technegol ar lefel briodol. I gyd yn amodol ar gymhwyster
  • Rhaglen Meithrin Sgiliau mewnol, pob oed, gan gynnwys lleoliad gwaith – yn amodol ar gymhwyster
  • Gwasanaethau â gwerth ychwanegol i wella cyflogadwyedd ein cleientiaid
  • Ymgeiswyr sy’n barod ar gyfer gwaith
  • Cyrsiau masnachol TG am brisiau cystadleuol.

Os hoffech ddysgu mwy am y cyrsiau, cysylltwch â ni ar 01978 367100, Ffacs 01978 367111 neu e-bost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Positive About Disabled People Investors in People

yn ôl i'r brig