Mae ITeC Wrecsam yn darparu nifer o Brentisiaethau Sylfaen Modern a Phrentisiaethau Modern seiliedig ar waith – PMS a PM.
Mae prentisiaethau’n rhaglenni dysgu seiliedig ar waith sy’n gydnabyddedig ledled y wlad ac sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr wella eu sgiliau trwy gyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant.
Ffurfiwyd fframweithiau prentisiaeth o dair elfen:
Noddwyd y fframweithiau’n llawn gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd, yn ei thro yn tynnu ar Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Mae Prentisiaethau Modern Sylfaen yn ymgorffori CGC 2, cywerth â 4–5 TGAU graddau A–C.
Mae Prentisiaethau Modern yn cynnwys CGC 3, cywerth â dwy Safon Uwch.
Dyfarniadau cydnabyddedig ledled y wlad yw’r rhain, seiliedig ar ddangos cymhwysedd yn y gweithle gyferbyn â safonau y cytunwyd arnynt ledled y wlad. Caiff tystiolaeth ei chasglu mewn sawl ffordd gan gynnwys asesiad a hyfforddiant yn y gweithle, datganiadau tystion, trafodaeth broffesiynol ac adroddiadau. Bydd aseswyr gyda chymwysterau galwedigaethol yn ymweld â’r ymgeisydd yn y gweithle i asesu’r dystiolaeth o gymhwysedd a gasglwyd.
Amrywiaeth o sgiliau gweithredol y mae modd eu cymhwyso i gyfoethogi’r profiad gwaith. Mae chwech o Sgiliau Allweddol – y mae modd eu cyflawni ar lefel briodol:
Mae’r rhain yn rhan annatod o’r holl Fframweithiau CGC sy’n cael eu cynnig gan ITeC Wrecsam. Maent yn mesur gwybodaeth greiddiol y Fframwaith CGC sy’n gysylltiedig â hwy.
Os hoffech ddysgu mwy am y cyrsiau, cysylltwch â ni ar 01978 367100, Ffacs 01978 367111 neu e-bost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |