ITeC Wrecsam – Denu a hyfforddi staff

Denu a hyfforddi staff

Beth bynnag yw maint eich busnes, gall y ddwy eitem hun fod yn ddrud a mynd ag amser. Yn ITeC Wrecsam, rydym yn gallu cynnig gwasanaeth di-dâl all ategu a gwella effeithiolrwydd eich prosesau denu a hyfforddi staf.

Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad mewn denu a hyfforddi rhai 16–18 oed ar gyfer amrywiaeth o swyddi a hyfforddiaethau TG, gweinyddu busnes a gwasanaethu cwsmeriaid.

Daw ymgeiswyr am swyddi staff gweinyddol iau a than hyfforddiant o gronfa fewnol o frasluniau gyrfa myfyrwyr sydd naill ai’n dilyn ein rhaglen Meithrin Sgiliau neu ar brofiad gwaith, ar ôl cwblhau rhan ddechreuol y rhaglen.

Yn dibynnu ar eich gofynion, gallwn gynorthwyo gydag archwilio hanes ymgeiswyr, eu brasluniau gyrfa ac, os yw hynny’n briodol, gallwn gynnal cyfweliadau “sgrinio” dechreuol. Yna gallwch eu cyfweld yn eich eiddo ac adeiladau eich hun. Dan amodau, gallem gefnogi ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfnod arbrofol gan roi amser ychwanegol i chi asesu eu haddasrwydd.

Unwaith y sicrhawyd swyddi, gall ITeC Wrecsam ddarparu cefnogaeth hyfforddiant wedi’i gyllido’n llawn yn rhinwedd Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) priodol.

Mae’r hyfforddiant Fframwaith CGC hwn ar gael i’ch holl weithwyr presennol, heb ystyried oed, yn amodol ar feini prawf mynediad.

Os hoffech ddysgu mwy am y cyrsiau, cysylltwch â ni ar 01978 367100, Ffacs 01978 367111 neu e-bost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Positive About Disabled People Investors in People

yn ôl i'r brig