ITeC Wrecsam – Yn helpu i chi fynd yn ôl i weithio

Helpu gwneud bywyd ychydig yn llai anodd

Yn ITeC Wrecsam rydym yn deall pa mor anodd y gall y llwybr yn ôl i weithio fod. Boed hynny’n fater o gael sgiliau cyfrifiadurol newydd, diweddaru hen sgiliau cyfrifiadurol, newid gyrfa’n llwyr neu, efallai, ddychwelyd i weithio ar ôl egwyl i fagu’r teulu.

Gallwn helpu i chi benderfynu sut orau i ddilyn eich llwybr dewisedig trwy roi’r sgiliau angenrheidiol i chi, fel chwilio am swydd, technegau cyfweld, Sgiliau Allweddol a Sgiliau Technoleg Gwybodaeth (TG).

Mae ein cyrsiau wedi cynorthwyo cannoedd o bobl yn llythrennol yn y gorffennol, llawer ohonynt bellach wedi symud ymlaen i swyddi llawn-amser gyda chwmnïau lleol ac yn symud ymlaen eto i gymwysterau uwch.

Mae ein staff yn brofiadol, brwdfrydig ac ymroddedig i gynorthwyo pobl gyrraedd eu llawn allu. Ar ein cwrs 12 wythnos gallwn roi’r sgiliau i chi fydd yn gwneud gwahaniaeth wrth wneud cais am swyddi neu wrth ystyried menter fusnes newydd, gan agor cyfle yr oeddech yn meddwl oedd ar gau i chi o’r blaen.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am y cwrs Meithrin Sgiliau cwbl noddedig, cysylltwch ag ITeC Wrecsam ar 01978 367100 i ofyn am fanylion a threfnu trafod yn anffurfiol sut allwn ni helpu i chi gyrraedd eich llawn allu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y cyrsiau cwbl noddedig hyn ar sail TG, cysylltwch ag ITeC Wrecsam ar 01978 367100 i ofyn am fanylion a threfnu trafod yn anffurfiol sut allwn ni helpu i chi gyrraedd eich llawn allu.

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Positive About Disabled People Investors in People

yn ôl i'r brig