ITeC Wrecsam - Meithrin Sgiliau

Cwrs Hyfforddi "Meithrin Sgiliau"

Nod y cwrs yw helpu’r rheiny dros 16 oed sy’n ddi-waith i ddod o hyd i waith.  Mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddiant Chwilio am Swydd, Sgiliau Allweddol a Thechnoleg Gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Office.  Bydd gofyn i chi wneud o leiaf 4 wythnos o brofiad gwaith gyda chwmni neu sefydliad lleol.  Y gobaith erbyn diwedd y cwrs yw y bydd gennych leoliad llawn amser ac y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster NVQ priodol.

Y Cwrs

Bydd ein cwrs hyfforddi "Meithrin Sgiliau" yn rhoi’r canlynol i chi:

  • Cymhwyster chwilio am swydd yn seiliedig ar greu CV, dod o hyd i gyfleoedd gwaith, llenwi ffurflenni cais, technegau cyfweliad a gorffen gyda chyfweliad ffug.

  • Sgìl allweddol.

  • Cymwysterau technoleg gwybodaeth – Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewrop (ECDL) a Thystysgrif mewn Prosesu Testun – ar lefel briodol.

  • Cefnogaeth gyda rhifedd a llythrennedd.

  • Profiad gwaith – am gyfnod o 4 wythnos.

Mae’r cwrs yn un llawn amser o 8.45am hyd 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45am hyd 1.00pm ar ddydd Gwener.  Cewch egwyl o 15 munud yn y bore a’r prynhawn a 45 munud i ginio.  Bydd y cwrs yn para uchafswm o 12 wythnos.

I bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, telir lwfans presenoldeb o £50 yr wythnos bob 4 wythnos.
I’r rheiny dros 18 oed sydd wedi’u cofrestru â’r Ganolfan Byd Gwaith, telir £10 yr wythnos ar ben unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu hawlio – yn amodol ar gymhwyster.

Os ydych yn teithio ar fws, trên neu mewn car mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael costau teithio hefyd, ond rhaid i chi dalu’r £5 cyntaf bob wythnos tuag at eich costau.

Mae gennym ffreutur gyda pheiriant diodydd oer a phoeth ond bydd angen i chi ddod â’ch cinio eich hun.  Rydym yn disgwyl i ddysgwyr wisgo’n daclus – dim jîns, esgidiau rhedeg, capiau pêl fas ac ati.  Mae presenoldeb rheolaidd a phrydlondeb yn hanfodol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o’r cwrs.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd o Stryt y Brenin yn dod heibio i’n safle.

Cymhwyster

Rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn, wedi gadael yr ysgol neu’r coleg ac ar gofrestr Gyrfa Cymru (16-18) neu fod dros 18 oed ac ar gofrestr y Ganolfan Byd Gwaith.

Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech wybod mwy, ffoniwch 01978 367100, Ffacs 01978 367111, e-bost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk

 

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Positive About Disabled People
BSI
Investor in People

yn ôl i'r brig