NGfL Cymru

Cyfarwyddyd ysbrydoledig

Mae GCeD Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei ddatblygu drwy bartneriaeth unigryw sy'n cynnwys holl AauALl Cymru, CBAC, learnthings ltd a BT a gellir cael mwy o fanylion ar www.ngfl-cymru.org.uk

Amcan y prosiect yw cynnig ystod ymarferol a defnyddiol o adnoddau dysgu ac addysgu TGC, deunyddiau cefnogi a gwybodaeth i ysgolion, athrawon a disgyblion. Athrawon sy'n ysgrifennu adnoddau GCeD Cymru ar gyfer athrawon ac ag anghenion disgyblion mewn golwg. Mae'r flaengaredd hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni yng Nghymru ddatblygu gwefan ddwyieithog sy'n cefnogi llawer o agweddau'r Cwricwlwm Cymreig.

Mae meysydd allweddol y ddarpariaeth yn perthyn i (cliciwch ar y cysylltiadau i weld enghreifftiau):

•  Mynediad am ddim i adnoddau dysgu ac addysgu ar-lein sy'n addas ar gyfer pob ystod oed

•  Adnoddau bywiog a diddorol a gategoreiddir yn ôl cyfnod allweddol a phwnc

•  Adnoddau bwrdd gwyn rhyngweithiol

•  Cynlluniau gwersi a thaflenni gwaith

•  Adnoddau sy'n cefnogi'r Cwricwlwm Cymreig

•  Enghreifftiau o arfer da

•  Adnoddau yn Saesneg, Cymraeg ac yn ddwyieithog

Ar y cyd â:

•  Cysylltiadau â gwefannau addysg defnyddiol

•  Fforymau cynadledda a thrafod ar-lein

•  Cronfa ddata o holl ysgolion Cymru

A gwybodaeth:

•  Am flaengareddau cenedlaethol

•  Ar gyfer rhieni

Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn a fydd yn sicrhau y gall holl ddisgyblion Cymru gael budd o ddatblygiad technoleg yn y dosbarth.

Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech wneud unrhyw sylwadau, cysylltwch ag info@ngfl-cymru.org.uk neu ffoniwch 029 20265177.

Cofiwch mai chi sy'n berchen ar GCeD Cymru - ewch i www.ngfl-cymru.org.uk i wybod mwy.

yn ôl i'r brig