Bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn plentyn i ysgol feithrin a gynhelir ar ddechrau'r flwyddyn ysgol os yw'r plentyn wedi dathlu ei b/phen-blwydd yn 3 oed ar neu cyn 31 Awst yn y flwyddyn galendr honno.
Darperir addysg feithrin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar sail 5 sesiwn x 2½ awr yr wythnos fesul plentyn.
Gall rhieni fynegi dewis am unrhyw ysgol beth bynnag yw pellter yr ysgol o'r cartref. Fodd bynnag, nid yw mynegi dewis yn gwarantu y bydd lle ar gael yn yr ysgol honno.
Mae addysg feithrin yn ddarpariaeth statudol ond nid yw'n orfodol ac nid oes gan rieni hawl i apelio dan ddeddfwriaeth addysg os nad ydynt yn llwyddo i gael lle meithrin.
Mae ffurflenni cais am le mewn ysgol feithrin ar gael gan benaethiaid ysgolion meithrin/babanod/cynradd o fis Ionawr bob blwyddyn. Gellir gofyn i rieni ddarparu dogfennaeth swyddogol yn dangos dyddiad geni eu plentyn.
Wrth benderfynu ar yr "ysgol agosaf briodol", bydd yr Awdurdod yn derbyn cyfeiriad cartref disgyblion yn unig ac nid, er enghraifft, cyfeiriad gwarchodwr plant neu nain a thaid. Mae'n bosibl y gofynnir i rieni ddarparu dogfennau swyddogol yn dangos eu cyfeiriad cartref. Cynghorir rhieni y gellir tynnu lle ysgol yn ôl os yw'r wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol.
Bydd yr Awdurdod yn cynnig cludiant i ysgol feithrin dim ond mewn amgylchiadau eithriadol.
Yn achos gormod o geisiadau am leoedd, ymdrinnir â'r ceisiadau fel a ganlyn: