Rhaglen Cynorthwyo Myfyrwyr Wrecsam (SAP)

Croeso i SAP Wrecsam (Rhaglen Cynorthwyo Myfyrwyr). Mae SAP yn rhaglen gynhwysfawr yn yr ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 4 – 19 oed.

Pwrpas SAP yw creu lle diogel yn Ysgolion Wrecsam lle y gall disgyblion rannu teimladau, meddyliau a phryderon am eu bywydau a rhoi cymorth wrth iddynt geisio mynd i’r afael ag unrhyw anawsterau a allai rwystro eu datblygiad, addysg a chyfleoedd bywyd.

Cheryl Watkins M.A. yw sylfaenydd y rhaglen a Chyfarwyddwr Gweithredol SATI (Student Assistance Training International). Mae hi wedi bod yn datblygu’r rhaglen yn fyd-eang dros y 30 mlynedd diwethaf. Yn Wrecsam rydym wedi bod yn gweithio gyda Cheryl ers 2001 ac rydym yn falch o ddweud mai ni yw’r unig Awdurdod Lleol y tu allan i UDA sydd wedi cael trwydded gan Cheryl, i hyfforddi fel hyfforddwyr.

Dyfyniadau o’r hyfforddiant.

Dywedodd dau unigolyn ifanc:

“Mae’r grŵp cymorth wedi fy helpu i fod yn fwy agored. Mae wedi fy helpu i gyflawni mwy e.e. cael mwy o hyder, peidio ag ofni rhoi cynnig ar bethau newydd.”

“Roedd o gymorth mawr ac yn ddefnyddiol gwybod bod gan rai pobl yr un problemau."

O ran yr hyfforddiant dywedodd hwyluswyr sy’n oedolion:

“Mae’n galluogi athrawon i barchu holl anghenion ein disgyblion, nid yn unig y rhai academaidd.”

“Mae’n newid eich bywyd ac yn caniatáu i chi weld eich hun ac eraill mewn ffordd newydd – mae hefyd yn gwneud i chi sylweddoli pa mor bwysig yw helpu ein plant fel y gallant ddysgu.”

yn ôl i'r brig