Newyddion Diweddaraf mis MawrthMae’r gwaith ar y wyddonfa deulawr newydd a’r cyfleuster TG wedi’i gwblhau erbyn hyn.
Mae’r adeilad newydd yn cydymffurfio â BREEAM (Dull Asesiad Amgylcheddol BRE) sef y dull blaenllaw a ddefnyddir yn helaethach nag unrhyw un arall i gynnal asesiad amgylcheddol ar adeiladau. Mae’n pennu’r safon ar gyfer arfer gorau ym maes dylunio cynaliadwy a bellach hon yw’r safon diwydiant a ddefnyddir i ddisgrifio pa mor llwyddiannus yw adeilad yn amgylcheddol.
Bydd yr adeilad newydd yn cael sgôr “Rhagorol” gan BREEAM, sef 76.6%.
Arwynebedd safle’r ysgol drwyddo draw yw 4.3 hectar, ac arwynebedd llawr yr ysgol drwyddo draw fydd 1,773 metr sgwâr a chyfanswm arwynebedd llawr yr adeilad newydd fydd 964 metr sgwâr. Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys mannau tramwy o 182 metr sgwâr a man storio o 63 metr sgwâr.
Y costau adeiladu sylfaenol yw oddeutu £2,190 fesul metr sgwâr. Y gost gwasanaeth yw oddeutu £1,035 fesul metr sgwâr. Cost y gwaith allanol yw oddeutu £28 fesul metr sgwâr. Yn y diwedd canran y defnydd cymunedol a wneir o’r ysgol fydd oddeutu 15%.
Rhagwelir bod 42,900 kW awr/y flwyddyn, 24.2 kW awr/m2 o drydan yn cael ei ddefnyddio
Rhagwelir bod 12,400 kW awr/y flwyddyn, 7.0 kW awr/m2 o danwydd ffosil yn cael ei ddefnyddio
Ynni adnewyddadwy – cyfraniad thermol o bympiau gwres yn unig. Dim cynhyrchu ar y safle (PV-CHP)
Rhagwelir bod 1.014 m3/y disgybl y flwyddyn o ddŵr yn cael ei ddefnyddio a bod 0.505m3/y disgybl/y flwyddyn (50%) yn cael ei adennill.
Mae dyluniad yr adeilad yn cynnwys cronni dŵr glaw, pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli haul a chyfuniad o dechnoleg gwres a phŵer.
Fe osodwyd peipiau haul ar goridor y llawr cyntaf er mwyn cael cymaint o oleuni naturiol ag y bo modd yn yr adeilad.
Bydd ecoleg y safle’n cael ei hybu trwy lunio pwll yno, plannu prysglwyni a darparu mannau i fywyd gwyllt. Bydd y cynllun a luniwyd gan Marches Ecology yn cael ei roi ar fynd ar ôl i’r holl waith adeiladu gael ei gwblhau.
Mae 99% o’r gwaith wedi’i wneud, ac mae’r dodrefn wrthi’n cael eu gosod yn yr ystafelloedd dosbarth. Disgwylir i’r cyfleusterau newydd gael eu cwblhau erbyn dechrau’r gwanwyn.
Mae’r gwaith brics a blociau bron wedi ei gwblhau ac mae’r ffenestri wedi eu gosod. Cwblhawyd y to yn ogystal â’r llawr gwaelod. Mae’r gwaith draenio hefyd wedi ei gwblhau a bydd y gwaith arwisgo yn dechrau ddiwedd mis Medi.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar y Bloc Gwyddoniaeth a TG. Mae gwaith adeiladu’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf wedi’i gwblhau ac mae’r bricwaith yn cael ei wneud bellach. Rhoddwyd cychwyn ar y gwaith to ac mae’r gwaith gosod draeniau wedi’i gwblhau.
Ar hyn o bryd mae’r rhaglen 4 wythnos ar ei hôl hi ac fe ofynnwyd i’r contractwr geisio cyflymu pethau er mwyn cadw’n wastad â’r amserlen wreiddiol.
Cwblhawyd y ffrâm ddur a’r gwaith draenio. Hefyd gorffennwyd sylfaen y coridor cysylltu, ac mae’r bricwaith wedi dechrau. Mae’r prosiect ychydig ar ei hôl hi ac mae’r contractwr yn cyflymu’r rhaglen i adennill amser. Mae gwaith diogelu prif adeilad yr ysgol rhag tân yn gyflawn.
Dechreuodd gwaith adeiladu ystafelloedd gwyddoniaeth a chyfleuster TG deulawr ar safle ac mae disgwyl iddo gael ei orffen erbyn yr Hydref. Y contractwr a benodwyd yw cwmni lleol Read Construction o Frymbo.
Bydd y labordai blaenorol yn yr ysgol yn cael eu hailwampio hefyd i’w defnyddio fel ystafelloedd dosbarth cyffredinol.
Mae’r ysgol eisoes wedi elwa ar fuddsoddiad sylweddol gan gynnwys coridor cysylltu newydd, ailwampio toiledau a thrwsio to fflat. Bu gwelliannau i’r ffreutur hefyd gan ei gweddnewid yn ardal olau ac ysgafn sy’n ymfalchïo mewn sgriniau digidol technoleg uwch yn dangos y fwydlen sydd ar gael.
Mae’r gwaith yn rhan o’r rhaglen Cyfnod 2 Ysgolion Uwchradd sy’n cynnwys dwy ysgol arall, Ysgol Maelor yn Llannerch Banna ac Ysgol Darland yn yr Orsedd, fydd i gyd yn elwa ar dros £20 miliwn o welliannau yn y deuddeg mis nesaf.
Gwnaed arolwg ecolegol gan Marches Ecology ac ni weldwyd dim problemau ar y safle.