Ysgol Darland, Yr Orsedd

Newyddion Diweddaraf mis Mehefin

Mae’r adeilad Gwyddoniaeth bellach wedi ei gwblhau ac mae wedi ei enwi’n Ganolfan Griffin. 

Mae gan yr adeilad newydd sgôr BREEAM o 73.98%.  Cost sylfaenol yr adeilad oedd  £953m2, roedd y costau gwasanaethau yn £560m2 a chost y gwaith allanol yn £78m2e.

Mae’r arwynebedd gros yn 1896m2 ac mae ardal gyfan y safle yn 0.260H.  Mae’r ardal addysgu’n 820m2 â cheir cylchrediad o 376m2 yno.  Mae gan yr adeilad ardal i storio sy’n 69m2.

Bydd 10% o diroedd yr ysgol a15% o adeiladau’r ysgol ar gael i’r gymuned.

Rhagwelir y defnyddir 26.85 kWh/m2 o drydan a 1.092 m3/disgybl/blwyddyn o ddŵr.

Rhagwelir y bydd 0.507m3 fesul disgybl fesul blwyddyn o’r dŵr a ddarperir yn  ddŵr glaw (50%).

Newyddion Diweddaraf mis Rhagfyr

Mae’r gwaith ar y safle yn parhau a dylai’r ysgol gael dechrau defnyddio’r cyfleusterau newydd ddiwedd Ionawr.  Mae’r dodrefn yn cael eu gosod yn yr ystafelloedd dosbarth ar hyn o bryd a gall y staff weld a chael naws yr ystafelloedd newydd.  Mae’r staff a’r llywodraethwyr wedi ymweld â’r safle a bwriedir trefnu ymweliad arall ddechrau Ionawr.  Roedd yr argraffiadau cyntaf yn gadarnhaol iawn, ac maen nhw’n edrych ymlaen at symud i’r cyfleusterau newydd.

Newyddion Diweddaraf mis Medi

Mae’r adeilad newydd ar amser ac yn mynd rhagddo’n dda. Mae’r gwaith rendro ar y tu allan bron wedi ei gwblhau ac mae’r ffenestri bellach yn cael eu gosod. Unwaith i’r gwaith rendro gael ei gwblhau caiff y sgaffald ei dynnu gan ganiatáu cwblhau’r gwaith allanol.

Mae pob un o’r gwasanaethau newydd wedi eu gosod ar y safle newydd yn ystod yr haf ond bu peth aflonyddwch gan i’r pŵer gael ei ddiffodd am 4 diwrnod.

Cwblhawyd ailwampio’r cyn ystafell ddosbarth gwyddoniaeth yn ystafell staff newydd yn ystod y gwyliau, a bellach mae gan y staff un ystafell ganolog i ymgynnull ynddi.

Newyddion Diweddaraf mis Awst

Mae Turturod Torchog wedi penderfynu nythu ar adeiledd dur y bloc gwyddoniaeth newydd!. Fe gyrhaeddodd y Turturod wythnos neu ddwy yn ôl a bellach maent yn magu dau gyw. Oherwydd hynny mae’r prif gontractwr, Harry Fairclough, wedi gosod cadwyn 5 metr o amgylch safle’r nyth er mwyn sicrhau nad oes neb yn tarfu arno. Nid yw'n ymddangos y bydd y Turturod yn tarfu llawer ar y gwaith wrth iddo fynd rhagddo mewn lleoedd eraill ar y safle. Yn ôl pob tebyg bydd y cywion wedi magu plu mewn wythnos neu ddwy ac felly gellir parhau â’r gwaith ar y llecyn hwnnw.

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar y Bloc Gwyddoniaeth. Rhoddwyd cychwyn ar y gwaith ar lawr cyntaf y muriau blociau mewnol, ac mae gwaith gosod y to ar fynd hefyd. Yn ystod gwyliau'r haf bydd ffosydd y cyfleustodau'n cael eu tyllu.

Mae’r gwaith arall ar fynd hefyd. Mae'r gwaith diogelwch rhag tân wedi cael ei gwblhau yn yr ysgol bresennol. Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo er mwyn darparu gwell mynedfa i bobl anabl fynd at y brif fynedfa a'r cantîn. Mae'r draeniau tu allan wedi cael eu cwblhau bron, ac mae hynny'n cynnwys tanc cronni dŵr glaw.

Mae’r prosiect yn cadw at ei amserlen gyda’r bwriad o’i gwblhau erbyn mis Ionawr 2011

Y Diweddaraf ar Brosiect Darland Mehefin 2010

Erbyn hyn gorffennwyd gwaith ar y ffordd fynediad ac mae trefniadau mynediad ar wahân ar gyfer y contractwyr ar y safle’n gweithio’n dda. Mae’r gwaith dur yn gyflawn ac mae gwaith wedi dechrau ar y llawr cyntaf a’r draenio.

Manylion y Prosiect

Dechreuodd gwaith ar godi adeilad gwyddoniaeth newydd a dwy ystafell TGCh ym mis Mawrth 2010 a dylid ei orffen ym mis Ionawr 2011. Bydd yr adeilad newydd yn cartrefu chwech o labordai gwyddoniaeth a dwy ystafell TGCh.

Dyluniwyd yr adeilad newydd yn ecolegol, gan gynnwys storio gwres naturiol a chasglu dŵr glaw. Ar bwys y safle adeiladu mae Grŵp Ecolegol yr ysgol yn gweithio ar hyn o bryd ar safle cae ecoleg newydd, lle gall myfyrwyr o’r ysgol gymryd rhan mewn gwaith maes fel rhan o’u gwersi gwyddoniaeth.

Hyd yma mae’r gwaith wedi gweld cwblhau’r ffrâm ddur a grisiau concrid. Erbyn hyn mae gwaith ar y draenio dan yr adeilad a’r llawr cyntaf ar fin dechrau. Y cam nesaf fydd dechrau’r bricwaith fydd yn arwain ar osod concrid y llawr isaf.

Mae gwaith gwella yn yr ysgol eisoes yn cynnwys ailwampio toiledau, trwsio a phaentio gwaith coed, to newydd, ymestyn ffens derfyn yr ysgol ac addasiadau i’r uned AAA ac adleoli ystafell y Pennaeth.

Ymwelodd aelodau Grŵp Ecolegol yr ysgol â’r safle’n ddiweddar a’r bwriad yw cynnal ymweliadau misol drwy gydol y cyfnod adeiladu. Caiff rhieni glywed am y cynnydd trwy daflen newyddion sy’n cael ei chynhyrchu gan yr ysgol.

Harry Fairclough Construction (cyswllt allanol) fydd yn gwneud y gwaith ac mae’n rhan o’r rhaglen Cyfnod 2 Ysgolion Uwchradd sy’n cynnwys dwy ysgol arall, Ysgol Maelor yn Llannerch Banna ac Ysgol Bryn Alun yng Ngwersyllt, fydd i gyd yn elwa ar dros £20 miliwn o welliannau yn y deuddeg mis nesaf.

Darganfu arolwg ecolegol a wnaeth Marches Ecology dystiolaeth o weithgaredd dyfrgwn mewn ffos ger y safle. Mae dyfrgwn yn anifeiliaid naturiol chwilfrydig a gallant fynd i mewn i’r safle yn ystod y nosweithiau. Gan fod y safle’n weithle gall beryglu’r dyfrgwn. I atal hyn codwyd ffens fydd yn cael ei thynnu unwaith ar ôl gorffen y gwaith.

Mae Harry Fairclough Construction wedi ymgymryd â lleihau effeithiau mgylcheddol yn ystod y broses adeiladu a bydd yn darparu rhestr o unrhyw fesurau cynaliadwy’n gymdeithasol neu’n economaidd a gyflawnwyd yn ystod y gwaith.

yn ôl i'r brig