Ysgol y Parc yn Llai

Diweddariad Mawrth

Trosglwyddwyd yr adeilad newydd ar 10 Chwefror 2012. Mae’r Babanod bellach yn defnyddio’r cyfleusterau newydd ac mae’r staff a’r disgyblion yn mwynhau eu hadeilad newydd.

Mae disgyblion yr ysgol Iau bellach wedi symud i gyn ysgol y Babanod tra bydd eu hysgol nhw’n cael ei hailwampio.  Mae’r gwaith hwn i’w gwblhau erbyn mis Awst 2012.

Newyddion Diweddaraf mis Ionawr

Mae’r gwaith wedi mynd rhagddo’n arbennig o dda ers y diweddariad diwethaf.  Mae gorchudd y to a’r cladin ar y waliau bron iawn wedi’u cwblhau.

Yn fewnol, mae’r parwydydd a’r gwres dan y lloriau wedi cael eu cwblhau.  Mae gorffeniadau’r lloriau a’r gwaith addurno yn mynd rhagddynt, ynghyd â gosod cyfarpar iechydol, gosodion y gegin a’r dodrefn gosod.

Mae’r ardaloedd y tu allan yn mynd rhagddynt yn dda, gyda tharmac wedi’i osod a’r canopïau allanol wrthi’n cael eu gosod ar hyn o bryd.  Mae tyweirch wedi gael eu gosod a dechreuwyd ar y gwaith o blannu’r ardaloedd tirweddu.

Mae’r adeiladu newydd i fod i gael ei gwblhau erbyn 10 Chwefror 2012.  Bydd y babanod yn symud i’r adeilad newydd dros y gwyliau hanner tymor er mwyn dechrau’r tymor newydd yno.

Bydd y disgyblion iau yn symud i hen adeilad y babanod yn gynnar ym mis Mawrth 2012, fel bod modd adnewyddu’r hen Ysgol Iau, a’r dyddiad cwblhau arfaethedig yw mis Gorffennaf 2012.

Y Newyddion Diweddaraf - Tachwedd 2011

Mae’r gwaith adeiladu’n mynd rhagddo’n dda yn yr ysgol.  Erbyn hyn mae’r holl waith ar y to wedi’i gwblhau i raddau helaeth, a rhoddwyd cychwyn ar y gwaith mewn perthynas â’r bondo.  Dechreuwyd gosod cladin ar y waliau, a rhoi fframiau ar y parwydydd mewnol.  Mae ffenestr to’r atriwm, sy’n ymestyn ar hyd y coridor crwm drwyddo draw, yn cael ei gosod ar hyn o bryd.

Mae Ffordd yr Ysgol, y tu blaen i’r ysgol gynradd, ar gau i’r cyhoedd nawr a chafodd y rhan ddeuffordd sydd ar ôl, ei throsglwyddo a’i hagor ar gyfer diwrnod cyntaf y tymor ym mis Medi.  Fe wnaeth y contractwr, Harry Fairclough Construction, ddarparu swyddogion traffig er mwyn cynorthwyo’r staff ar eu diwrnod cyntaf yn ôl, wedi’r gwyliau.

Mae’r gwaith allanol yn dal i fynd rhagddo’n dda a bydd haen waelod o darmac yn cael ei gosod ar y mannau allanol yn y dyfodol agos.

Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu yn unol â safonau BREEAM ac fe ragwelir mai’r defnydd ynni a dŵr ar gyfer safle’r adeilad newydd fydd hyn: 

Trydan 54 kWh/m2 = 60,543 KWh/y flwyddyn

Gwresogi 38 kWh/m2 = 42,598 kWh/y flwyddyn

Y dŵr a ddefnyddir fydd 5.4m3/yr unigolyn/y flwyddyn (63% ohono o ganlyniad i gronni dŵr glaw)

Awst 2011

Mae’r gwaith ar y safle’n mynd rhagddo’n dda, ac mae ffurf yr adeilad bellach i’w weld gyda ffrâm ddur wedi ei gwblhau ar 8 Gorffennaf 2011.  Yr wythnos nesaf dechreuir ar waith y to a bydd gwaith i osod y llawr gwaelod yn dilyn hyn.

Mae’r staff yn defnyddio’r maes parcio newydd sy’n gwahanu buarth yr ysgol a cherbydau ac mae hyn yn gweithio’n dda.  Mae’r contractwr Harry Fairclough Construction, yn gweithio’n dda gyda’r ysgol ac mae’r prosiect ar amser ar hyn o bryd.

Y Newyddion Diweddaraf - Mai 2011

Mae Harry Fairclough Construction wedi eu dewis i gwblhau’r gwaith adeiladu ac dechrewyd ar y gwaith ar y safle eisoes.

Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu estyniad newydd i’r ysgol iau bresennoler mwyn darparu lle i ddosbarth i fabanod a dosbarth i’r plant cyn-oed ysgol.  Bydd yr ysgol bresennol yn cael ei hailwampio a’i hadnewyddu i ddarparu cyfleusterau ac ystafelloedd dosbarth newydd.  Bwriedir cau Ffordd yr Ysgol sydd o flaen yr ysgol iau bresennol yn barhaol er mwyn gwneud ardal ar gyfer iard chwarae ychwanegol a mynediad diogel i gae’r ysgol.  Cedwir y coetir a’r ardal ‘cynefin’ sydd ar dir yr ysgol bresennol a gellir mynd ato o’r ysgol newydd ar hyd llwybr y tu ôl i’r Ganolfan Iechyd.

Gobeithir cael ‘Ardderchog’ yn asesiad BREEAM, a rhagwelir sgôr cyn-asesu o 75.13%.

Bydd yr estyniad newydd yn grwm i ‘feddalu’ yr effaith ar y stryd a chaniatáu i’r ardaloedd y tu allan lifo o amgylch ymyl yr adeilad.  Dyluniwyd yr adeilad newydd i fod ar ddau lefel i ddefnyddio’r gogwydd naturiol ar y safle.  Bydd cyflwyno pympiau gwres yr awyr yn gwresogi’r adeiladu newydd ynghyd â phaneli solar i greu trydan.  Cesglir dŵr glaw i’r gyflenwi tanc tanddaearol i’w ddefnyddio i weithio’r toiledau.    Bydd defnyddio ffenestri to gwydr lefel uwch a phibelli heulwen yn galluogi i olau natural gyrraedd yr ardaloedd mewnol.    Gwneir y mwyaf o awyr naturiol drwy ddefnyddio dalwyr gwynt.

Arwynebedd gros llawr yr estyniad newydd yw 990m2, a bydd y safle cyfan yn 1.92 hectar.  Bydd ardal y ddwy ysgol o fewn yr ysgol iau wedi ei hadnewyddu.  Ceir neuadd (168m2) a neuadd stiwdio (67.6m2).  Bydd ardal gyfan yr estyniad newydd yn 230m2 a’r maint y lle i storio pethau yn yr estyniad newydd yw 55.2m2.' - Cost sylfaenol y gwaith adeiladu fydd oddeutu £/m2 - £1585/m2, Costau gwasanaethu oddeutu £/m2  - £520/m2 a gwaith allanol - cyfanswm cost o £460,000.

Mae’n fwriad bod 53.5% o diroedd yr ysgol ar gael i’w defnyddio gan y gymuned, ynghyd ag 17.5% o adeiladau’r ysgol.

Mae’r Contractwr wedi ymrwymo i gymryd mesurau i leihau’r effaith amgylcheddol fel a ganlyn:

Er mwyn lleihau / atal unrhyw lygredd i’r dŵr gan weithgareddau a wneir yn Ysgol Gynradd Llai, bydd y Contractwr yn ymdrechu i:

  • Tarfu cyn lleied â phosibl ar y tir a gadael gorchudd o dyfiant lle bo modd.
  • Rheoli llwch gan ddefnyddio man tampio
  • Gorchuddio sgipiau a lorïau sy’n cario llwythi o ddeunydd adeiladu ac mewn tywydd poeth, tampio gyda lefelau isel o ddŵr.
  • Gorchuddio pentyrrau o ddeunyddiau adeiladu lle maen nhw’n debygol o redeg i ffrydiau dwr neu draeniau.
  • Defnyddio paent, toddyddion a deunyddiau peryglus eraill nad ydynt yn wenwynig lle bo modd.
  • Gorchuddio ac amddiffyn pob draen ar y safle.

Er mwyn lleihau / atal unrhyw lygredd arall o weithgareddau yn Ysgol Gynradd Llai, bydd yn ymdrechu i:

  • Reoli llwch gan ddefnyddio man tampio
  • Gorchuddio sgipiau a lorïau sy’n cario llwythi o ddeunydd adeiladu ac mewn tywydd poeth, tampio gyda lefelau isel o ddŵr.
  • Defnyddio paent, toddyddion a deunyddiau peryglus eraill nad ydynt yn wenwynig lle bo modd.
  • Peidio â llosgi deunyddiau ar y safle.
  • Lleihau’r llygredd sŵn drwy ymdrin â deunyddiau’n ofalus.Mae gennym gyfleuster storio mawr ac felly’n derbyn llwythi mawr yn hytrach na nifer uwch o lwythi bychain.
  • Mae gennym Gynllun Teithio Gwyrdd sy’n annog gweithredwyr i leihau eu hallyriadau carbon drwy amrywiol ddulliau o deithio i’r gwaith.

 Er mwyn lleihau eu defnydd ynni a dŵr ar y cynllun hwn, bydd y Contractwr yn:

  • Sicrhau bod pob tap wedi ei ddiffodd ar ôl ei ddefnyddio yn y cyfleusterau lles ac mewn pwyntiau dwr ar y safle.
  • Defnyddio’r dŵr sydd ei angen i wneud y gwaith yn unig.
  • Diffodd goleuadau yn y cyfleusterau lles pan na ddefnyddir yr ystafell.
  • Peidio gadael batris yn gwefru am fwy na gwefr lawn neu adael gwefrwyr yn y plwg heb fatri ynddynt.
  • Tynnu’r plwg ar olau tasg pa nas defnyddir.

Bydd y Contractwr hefyd yn annog y canlynol:

  • Rhannu Lifft
  • Beicio i’r gwaith
  • Cerdded i’r gwaith
Trafnidiaeth Gyhoeddus

Diweddariad Ionawr

Mae tendrau wedi eu gwahodd ar gyfer y prif waith gyda dyddiad i’w dychwelyd erbyn diwedd mis Ionawr.  Dylai’r gwaith ar estyniad i ddosbarth y babanod a rhai cyn oed ysgol, gychwyn ym mis Chwefror.  Bydd gwaith ar faes parcio’r staff yn cychwyn ym mis Ionawr a dylai fod wedi ei gwblhau erbyn Mawrth.

Dylai ysgol y babanod fod ar agor i staff a disgyblion ym mis Chwefror 2012  a dylai’r adnewyddu a gynlluniwyd ar gyfer yr ysgol iau fod wedi ei orffen erbyn mis Tachwedd 2012.

Diweddariad mis Tachwedd

Mae’r cynlluniau i wella’r ysgol wedi eu cymeradwyo gan adran cynllunio Cyngor Wrecsam.  Mae swyddogion adran Rheoli Asedau y Cyngor yn gweithio ar y cynlluniau manwl a’r pecyn tendro ar hyn o bryd, a disgwylir i’r broses gwahodd tendrau ddechrau yn gynnar ym mis Rhagfyr. 

Os aiff popeth yn unol â’r amserlen gallai’r gwaith ar y maes parcio ddechrau mor fuan â mis Chwefror y flwyddyn nesaf.  Gallai’r gwaith adeiladu yn adran y babanod ddechrau ym mis Mawrth, a disgwylir i’r prosiect cyfan gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2012.

Diweddariad mis Tachwedd

Mae’r cynlluniau i wella’r ysgol wedi eu cymeradwyo gan adran cynllunio Cyngor Wrecsam.  Mae swyddogion adran Rheoli Asedau y Cyngor yn gweithio ar y cynlluniau manwl a’r pecyn tendro ar hyn o bryd, a disgwylir i’r broses gwahodd tendrau ddechrau yn gynnar ym mis Rhagfyr. 

Os aiff popeth yn unol â’r amserlen gallai’r gwaith ar y maes parcio ddechrau mor fuan â mis Chwefror y flwyddyn nesaf.  Gallai’r gwaith adeiladu yn adran y babanod ddechrau ym mis Mawrth, a disgwylir i’r prosiect cyfan gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2012.

Newyddion diweddaraf Awst 2010

Mae’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol wedi cael eu cyflwyno bellach, ac mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn eu cylch nawr. Bydd y cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Wrecsam yn yr Hydref. Mae’r cynlluniau’n cynnwys adnewyddu adeilad presennol yr Ysgol Gynradd, estyniad newydd i’r dosbarth babanod a’r dosbarth cyn-ysgol a gwelliannau i’r diogelwch a’r fynedfa yn Ffordd yr Ysgol.  Cynulliad Cymru sydd wedi darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid.

Bydd y gwaith adnewyddu a’r adeilad newydd yn dilyn Dull Asesiad Amgylcheddol BRE (BREEAM), sef y safon flaenllaw a ddefnyddir fwyaf er mwyn cynnal asesiad amgylcheddol ar adeiladau.

Os rhoddir sêl bendith ar y cynlluniau yna fe ddylai’r gwaith ddechrau ar y safle yn yr Hydref er mwyn ei gwblhau ar gyfer Tymor yr Hydref 2012.  Caiff y gwaith ei wneud fesul dau gam; y cam cyntaf fydd yr estyniad newydd a bydd yr ail yn golygu adnewyddu, ar raddfa fawr, adeilad yr Ysgol Gynradd bresennol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi £4.5 o gyllid ar gael ar gyfer ysgol newydd yn Llai. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn brysur yn paratoi cais cynllunio i’w gyflwyno i Adran Gynllunio Cyngor Wrecsam.

Yna bydd ymgynghori cyn cymeradwyo neu wrthod.

yn ôl i'r brig