Ysgol Maelor

Newyddion Diweddaraf mis Ebrill

Mae’r gwaith yn yr ysgol, gan gynnwys y Neuadd Chwaraeon newydd, yr adnoddau llyfrgell newydd, y man astudio gyrfaol a’r ystafelloedd Addysg Anghenion Arbennig, oll wedi’i gwblhau erbyn hyn.

Newyddion Diweddaraf mis Rhagfyr

Mae’r neuadd chwaraeon wedi’i gwblhau yn awr ac yn cael ei ddefnyddio gan y myfyrwyr a’r staff.  Dechreuodd y gwaith o droi’r hen gampfa a’r cawodydd/ystafelloedd newid yn llyfrgell newydd, ardal astudio/gyrfaoedd ac ystafelloedd Anghenion Addysg Ychwanegol yn awr.  Disgwylir i’r gwaith hwn gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2011. 

Newyddion Diweddaraf mis Medi

Bu cynnydd ardderchog ar y safle ac mae’r gwaith yn parhau gan bwyll. Mae gosod y paneli tryloyw Kalwall, a ddaw â golau dydd naturiol i’r neuadd chwaraeon ei hun bellach wedi ei gwblhau. Mae’r gwaith carreg terfynol, y plastro a theilio, a’r gwaith allanol gan gynnwys y ffensio yn mynd rhagddo’n dda.

Cwblhawyd y maes parcio newydd i staff yn ystod gwyliau’r haf, ac roedd yn barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd ym mis Medi.

Mae tri gaeafle ar gyfer y madfallod cribog wedi eu llunio yn yr ardal bywyd gwyllt ar ymyl y safle yn unol ag argymhellion yr ecolegwyr. Er mwyn darparu llecynnau i’r madfallod aeafu/llochesu mae’r twmpathau yn cynnwys rwbel, deunydd rhydd a phridd o’r safle.  Mae’r ecolegydd hefyd wedi cynnal gweithdai gyda’r ysgol er mwyn esbonio’r camau sydd yn y cynllun i ddiogelu a datblygu’r bywyd gwyllt ar safle’r ysgol.

Newyddion Diweddaraf mis Awst

Mae’r gwaith ar y Neuadd Chwaraeon yn mynd rhagddo’n dda. Ar hyn o bryd mae’r Contractwr yn gweithio ar y gwaith maen, mae gorchudd y to wedi’i gwblhau bron ac mae’r system chwistrellu yn cael ei gosod. Mae’r gwaith draeniau, y tu mewn a’r tu allan, wedi’i gwblhau. Yn ystod yr wythnos nesaf bydd y gwaith yn cychwyn ar osod y gwres dan y llawr, ffenestri newydd a gosod cladin ‘Kalwal’.

Mae gwaith arall yn mynd rhagddo hefyd. Fe osodwyd y sylfaen ar gyfer y cyrtiau tenis newydd a rhoddwyd hadau glaswellt ar y llecynnau tirlun sydd bellach yn dod yn eu blaen yn iawn. Ac am ei bod hi’n wyliau haf mae boeler newydd yn cael ei osod ar hyn o bryd.

Mae’r prosiect yn dal i gadw at ei amserlen er mwyn ei gwblhau ym mis Tachwedd 2010.

Y Diweddaraf ar y Prosiect Mehefin 2010

Mae’r ffordd fynediad newydd yn gweithio’n dda a bydd yn cael ei hwyneb terfynol tua diwedd y contract. Cliriwyd ardal y cwrt tennis newydd ac mae’n barod ar gyfer gwaith pellach. Cwblhawyd, ffrâm ddur a draenio’r neuadd chwaraeon. Dechreuwyd y bricwaith a’r blocwaith ac mae ar y gweill hyd at y codiad cyntaf. Dechreuwyd gorchuddio’r to. Ar hyn o bryd mae’r prosiect ar amser.

Manylion y Prosiect

Mae’r prosiect yn cynnwys adeilad newydd ar gyfer Neuadd Chwaraeon yng nghefn y safle, fydd yn darparu gwell cyfleusterau chwaraeon i’r ysgol a’r gymuned leol. Hefyd yn rhan o’r cynllun hwn mae ffordd fynediad newydd, cylch troi a chilfannau ar gyfer bysiau ysgol o flaen cae presennol yr ysgol, i ddarparu mannau gollwng a chasglu diogel ar gyfer disgyblion ar dir yr ysgol.

Paveaway Building Contractors (cyswllt allanol) fydd yn gwneud y gwaith ac mae’n rhan o raglen Cyfnod 2 Ysgolion Uwchradd sy’n cynnwys dwy ysgol arall, Darland yn yr Orsedd a Bryn Alun yng Ngwersyllt, fydd i gyd yn elwa ar dros £20 miliwn o welliannau yn y deuddeg mis nesaf.

Adeiladwaith ffrâm ddur unllawr yw’r Neuadd Chwaraeon newydd gyda chrymdoeau a phaneli lled dryloyw uchel ar y rhan fwyaf o weddluniau, i ddarparu golau naturiol i bob man, gyda bricwaith islaw. Bydd gorffeniad y drysau allanol a darnau bwrw’r colofnau yn las, i gyd-fynd â phaneli ffenestri ac ati adeiladau presennol yr ysgol.

Mae dyluniad yr adeilad yn cynnwys casglu dŵr glaw, pympiau gwres o’r awyr, a thechnoleg gwres a phŵer cyfunedig. Er mwyn gwarchod yr adeilad rhag difrod diangen, mae’r gweddluniau’n cynnwys paneli isaf o fricwaith a gorchuddion ar holl golofnau dur. Caiff paneli lled dryloyw eu defnyddio’n uchel ar holl furiau, er mwyn gadael cymaint o olau naturiol i’r adeilad ag y bo modd. Caiff pibelli haul eu defnyddio hefyd i adael golau naturiol i rannau mewnol a dalwyr gwynt i ymgorffori awyru naturiol yn y dyluniad.

Gwnaed gwaith gwella eisoes yn yr ysgol sy’n ymfalchïo bellach mewn toiledau a ailwampiwyd, ffenestri llawr cyntaf newydd, to newydd ar yr adeilad gwyddoniaeth, ffenestri blaen newydd, system echdynnu newydd yn y gegin a maes parcio newydd a gwaith iechyd a diogelwch.

Nododd arolwg ecolegol a wnaed gan Marches Ecology fadfallod dŵr cribog ar y safle. Bu raid cael trwydded oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru i ganiatáu i’r gwaith fwrw ymlaen. Er mwyn sicrhau eu diogelwch codwyd ffens allgáu amffibiaid i gadw’r madfallod o’r safle a chwiliwyd yr ardal adeiladu i sicrhau nad oedd dim madfallod mewn perygl yn ystod y gwaith adeiladu.

Bydd yr adeilad newydd yn cydymffurfio â BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol BRE) (cyswllt allanol) sef y dull asesu amgylcheddol arweiniol a mwyaf cyffredin ar gyfer adeiladau. Mae’n gosod safon arferion gorau gorau dylunio cynaliadwy ac mae wedi dod yn safon y diwydiant sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio perfformiad amgylcheddol adeilad. Bydd gan yr adeilad raddfa BREEAM ragorol o 78%.

Cyfanswm arwynebedd y safle yw 7.4 hectar gydag arwynebedd llawr crynswth o 1323 m2 a 745m2 o ofod addysgu gydag arwynebedd cylchredeg fel coridorau yn 138m2 a 91.8m2 o storfeydd. Bydd y gymuned leol yn defnyddio tua 75% o diroedd yr ysgol ac 85% o’r neuadd chwaraeon. Cost adeiladu sylfaenol y Neuadd Chwaraeon yw £978 y metr sgwâr a phris addasu’r gampfa bresennol yn llyfrgell newydd ar ddiwedd yr adeiladu fydd £349 y metr sgwâr. Costau gwasanaethu yw £439 y metr sgwâr ac mae gwaith allanol yn costio £97 y metr sgwâr.

Y defnydd o drydan a ragwelir yw 60,776 awr kW y flwyddyn, 48.9 awr kW y metr sgwar a’r defnydd o danwydd ffosil a ragwelir yw 12,400 awr kW y flwyddyn, 9.98 awr kW am bob metr sgwar. Yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle yw 17,562 awr kW, 14.14 awr kW y metr sgwar. Y gwres a phŵer cyfunedig a gynhyrchir ar y safle yw 42,457 awr kW y flwyddyn, 0.118 metr ciwb i bob disgybl bob blwyddyn.  Yr adenilliad dŵr a ragwelir yw 23%.

Mae Paveaways wedi ymgymryd â lleihau effeithiau amgylcheddol yn ystod y broses adeiladu a bydd yn darparu rhestr o unrhyw fesurau cynaliadwy yn gymdeithasol neu economaidd sy’n cael eu cyflawni yn ystod y gwaith.

yn ôl i'r brig