


Mae'r ysgol y bydd eich plentyn yn mynd iddi'n gweithredu gwasanaeth bwyta heb arian. System yw hon dan reolaeth y dechnoleg ddiweddaraf, sy'n osgoi'r angen i fod ag arian parod. Bydd pob disgybl yn cael cyfrif unigryw iddynt hwy ym mis Medi.
Caiff y bawd neu fys ei sganio a hwn wedyn yn cael ei droi'n rhif digidol unigryw i bob disgybl ac ar gadw gan y system. Ni fydd delwedd o ôl bys yn cael ei gadw ar y system ar unrhyw adeg. Yna bydd y cyfrif yn cael ei ddefnyddio trwy roi bawd / bys ar sganiwr digidol.
Na fydd, mae modd rhoi PIN 4 digid unigryw i'w ddefnyddio'n hytrach.
Mae 2 ffordd o wneud hyn:
Nid oes unrhyw leiafswm neu uchafswm i'w gredydu i'r cyfrif cyn gallu ei ddefnyddio. Fodd bynnag, rhaid bod arian yn y cyfrif i allu prynu bwyd.
Caiff sieciau eu hannog oherwydd ei fod yn golygu nad oes angen i'r disgybl fod ag arian parod. Dylai sieciau fod yn daladwy i CBSW ac NID yr ysgol. Wrth dalu gyda siec fe wyddoch fod yr arian yn cael ei wario ar fwyd a diod yn yr ysgol. Mae i'w rhoi yn y blwch sieciau yn yr ystafell fwyta.
Cyn y gloch gyntaf yn y bore, yn egwyl y bore ac yn ystod amser cinio. Cofiwch roi arian yn eich cyfrif o flaen llaw cyn prynu bwyd. Rhowch eich bawd ar y sganiwr neu roi eich PIN 4 digid unigryw drwy'r fysell a thalu eich arian.
Rhowch eich bawd ar y sganiwr neu roi eich PIN 4 digid unigryw drwy'r fysell ar y peiriant ailbrisio a bydd hyn yn dweud wrthych faint sydd yn eich cyfrif.
Mae terfyn gwariant o £4.00 bob dydd y gallwch ei newid trwy ddweud wrth y cogydd cyfrifol yn ysgrifenedig.
Caiff y lwfans ei gredydu i'ch cyfrif yn union cyn amser cinio i adael i chi brynu'ch pryd. (Os nad yw'n cael ei ddefnyddio, ni fydd y lwfans hwn yn cael ei ddwyn ymlaen i'r diwrnod wedyn). Os ydych eisiau prynu bwyd neu ddiod ar amser chwarae bydd angen i chi ychwanegu credyd at eich cyfrif naill ai trwy arian parod neu siec. (Bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen i'r diwrnod wedyn os nad yw'n cael ei ddefnyddio).
Beth sy'n digwydd os na chafodd fy lwfans cinio am ddim ei gredydu i'm cyfrif?
Dywedwch wrth y cogydd ar unwaith, a fydd yn cadarnhau gyda'r brif swyddfa i weld:
Mae adroddiadau wythnosol ar gael ar ddatganiad y cyfrif ac mae disgrifiadau o'r bwyd a brynwyd i'w cael o swyddfa'r cogydd (dim gwasanaeth post ar gael).
Bydd angen i chi weld aelod o'r staff i awdurdodi a thalu am bryd – rhaid talu hyn yn ôl yn llawn y diwrnod wedyn.
Mae'r system yn caniatáu rhwystro, fydd yn nodi unrhyw eitemau nad yw'r plentyn yn cael eu bwyta naill ai o ddewis neu fel mater o raid. Mae angen i'r rhiant / gwarcheidwad gadarnhau hyn yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth i’r Rhiant / Gwarcheidwad,
Mae'n debyg y gwyddoch bod holl ysgolion uwchradd yn ardal CBSW erbyn hyn yn gweithredu systemau cinio di-arian gan ddefnyddio technoleg fiometrig. Mae'r system hon yn defnyddio olion bysedd biometrig i adnabod pob disgybl ac, felly, mae angen cymryd sgan o olion bawd pob plentyn yn ystod y diwrnod neu wythnos drosglwyddo gyffredin ym mis Gorffennaf.
Isod fe welwch yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am y system a'r manteision sydd i'w ddisgwyl o hyn.
Manteision y system newydd
Sut mae'r myfyrwyr a'r staff yn cael eu hadnabod gan y system?
Unwaith y bydd y sganiad bys wedi'i gymryd mae'n cael ei droi'n rhif yn awtomatig a'r rhif hwnnw'n cael gadw ar y system gyferbyn ag enw'r plentyn. Ni chaiff delweddau o olion bysedd eu cadw ac nid oes modd ail-greu ôl bys o'r rhif. (Gwelwch yr adran Cofrestru Biometrig i gael rhagor o fanylion)
Os na fydd unigolion yn dymuno defnyddio agwedd fiometrig y system, mae modd rhoi PIN iddynt ar gais.
Sut defnyddir y System Adnabod Fiometrig i gael pryd o fwyd?
Wrth y ddesg dalu mae sganiwr croenol. Pan ddymuna'r myfyriwr dalu am y pryd, y cyfan sydd raid iddo'i wneud yw gosod ei fawd / fys ar y sganiwr; wrth wneud hyn, fe ddaw cyfrif yr unigolyn hwnnw i'r golwg. Ar ddangosydd, bydd gweithredwr y derfynell (terminal) yn gweld llun, enw, dosbarth cofrestru a balans arian cyfredol daliwr y cerdyn a ddelir o fewn y system. Bydd yr eitemau bwyd a ddewiswyd yn cael eu mewnbynnu i'r system o'r derfynell sgrin gyffwrdd ac fe fydd gwerthoedd y cynnyrch a chyfanswm y balans i'w gweld ar y dangosydd. Yn achos unigolion a fydd yn defnyddio PIN, y cyfan fydd rhaid iddynt ei wneud fydd rhoi eu rhif i weithredydd y derfynell, ac fe ddaw'r cyfrif i'r golwg.
Sut mae'r arian yn cael ei roi yn y system?
Ar ffurf 'Siec' yn daladwy i C.B.S. Wrecsam am unrhyw gyfnod. h.y. Tymor - 1/2 Tymor - Mis neu Wythnos - Neu swm o arian penodol o'ch dewis eich hun.
DS: er mwyn galluogi cogydd yr ysgol i adnabod y cyfrif cywir i dalu siec i mewn iddo, byddwch cystal ag ysgrifennu enw llawn a grŵp cofrestru'r myfyriwr ar gefn y siec neu ar yr amlen y rhoddir y siec ynddi. Os yw'r taliad i'w rannu rhwng dau fyfyriwr, rhowch enw llawn a grwp cofrestru'r ddau er mwyn medru eu hadnabod.
Ar ffurf arian parod (arian papur/darnau arian) mewn Unedau Ailbrisio (Revaluation Units) sydd yn yr ystafell fwyta.
Sut mae'r Uned Ailbrisio yn gweithio?
Yn gyntaf, mae'r myfyriwr yn gosod ei fawd / fys ar y sganiwr sydd wedi ei osod ar yr Uned Ailbrisio. Bydd y system yn adnabod yr unigolyn ac yn dangos ei enw a balans cyfredol ei gyfrif a ddelir o fewn y system.
Yr ail gam - mae darnau arian/papur arian yn cael eu rhoi i mewn i'r slot. Bydd pob balans arian cynyddrannol i'w weld ar y dangosydd. Y cyfan sydd raid ei wneud yw pwyso'r botwm gwyrdd ynghyn i gwblhau'r trafodyn.
Sut gallwch wirio eich balans cyfredol a ddelir ar y system?
Wrth ddefnyddio'r Uned Ailbrisio, gallwch fynd at eich cyfrif drwy osod eich bawd / bys ar y sganiwr neu drwy fewnbynnu eich PIN; does dim angen rhoi arian i mewn. Daw eich manylion i'r golwg ar y sgrin. Pan fyddwch wedi gorffen, pwyswch y botwm gwyrdd.
Os talwn am nifer benodol o brydau ysgol, oes modd ei wario mewn un diwrnod?
Nac oes. Bydd terfyn gwario eang o £4 y dydd yn cael ei osod i bob myfyriwr ac ni fydd yn bosib prynu uwchben y terfyn hwnnw.
Bydd yr ysgol yn gosod terfynau gwario unigol i ddisgyblion os dymunir.
Sut mae'r system yn trin myfyrwyr sydd â hawl i Fudd-dal Prydau am Ddim?
Mae'r system yn gweithio yn union yr un fath i bob myfyriwr boed yn talu neu â hawl i brydau ysgol am ddim. Bydd y swm a ddyrennir i'r pryd ysgol am ddim yn cael ei fewnbynnu i'r system gan y meddalwedd bob dydd, a dim ond yn ystod yr egwyl ginio y bydd ar gael.
Wedyn bydd y system, bob dydd, yn caniatáu i'r swm sydd ei angen ar bob myfyriwr unigol gael ei ddyrannu i falans cyfredol ei arian parod. Bydd unrhyw danwario, neu ginio a gollir yn cael ei adnabod gan y system ac ni fydd yn cael ei ychwanegu at falans y diwrnod wedyn.
Gall y myfyriwr roi arian ychwanegol at ei falans yn y system drwy ddefnyddio'r Uned Ailbrisio. Wrth wneud, gall wario mwy ar ei ginio ysgol ar unrhyw ddiwrnod nag a ddyrennir gan lwfans ei bryd o fwyd am ddim. Gan mai dim ond ar ginio ysgol y gellir gwario'r lwfans hwn, gall arian ychwanegol a gyflwynir i'r system gael ei ddefnyddio am frecwast neu fyrbrydau amser egwyl hefyd.
Bydd enw pob myfyriwr sydd yn derbyn y budd-dal hwn yn aros yn anhysbys.
Sut yr anogir 'Bwyta Iach'?
Ar ôl i'r system newydd fod yn gweithredu am dipyn, gobeithiwn hyrwyddo yn bellach "bolisi bwyta'n iach" yr ysgol. Pan fydd y bwyd yn cael ei ddewis a'i werthu trwy'r system fe fydd hefyd yn cofrestru pwyntiau ar gyfer cinio ysgol iach, gytbwys a maethlon. Fe fydd hyrwyddiadau'n cael eu rhedeg gyda gwobrau'n cael eu rhoi i'r myfyrwyr sydd a'r sgôr uchaf.
Beth a olygir wrth reolaeth ddietegol?
Mae gan y system y gallu i wahardd cynnyrch neu grwp o gynhyrchion penodol rhag cael eu gwerthu i unigolyn drwy gydol y dydd neu ar adegau penodol. Os bydd gan fyfyriwr alergedd bwyd neu os yw'n ddiabetig, gellir gwahardd gwerthu'r cynhyrchion hyn iddo. Bydd yn amhosib iddo brynu'r cynhyrchion hyn trwy'r system. Daw rhybudd ar y sgrin i rybuddio gweithredydd y ddesg dalu.
A fyddwn yn gallu cael unrhyw wybodaeth ar sut mae'r system yn cael ei defnyddio?
Gellir cael adroddiadau o'r system, a rydd wybodaeth gynhwysfawr ar bob agwedd ar y defnydd a wneir ohoni gan bob myfyriwr unigol yn ogystal â gwasanaeth pob dydd. Gall yr adroddiadau hyn fod am ddiwrnod penodol neu rhwng unrhyw ddau ddyddiad a ddymunwch. Bydd y dyddiad a'r amser i'r funud arnynt a gellir eu cael o'r gegin. Yn anffodus, ni allwn gynnig gwasanaeth trwy'r post.
Ymhlith yr adroddiadau sydd ar gael, mae'r rhain, sydd:
Mae olion bawd a bysedd pob unigolyn yn unigryw. Bydd y system Fiometrig ddi-arian yn storio dim ond darn o'r ôl bawd – bys ar ffurf rhif unigryw ac nid ar ffurf llun.
Bydd rhif unigryw pob plentyn yn cael ei storio ar weinyddwr canolog. Gwneir hyn drwy sganio'r bys neu'r bawd gyda sganiwr electronig di-osgoi, sydd yn pasio goleuni dros y bys neu'r bawd. Bydd yr un sganiwr yn cael ei osod yn y peiriannau Ailbrisio lle mae'r myfyrwyr yn rhoi darnau arian / arian papur i mewn ac wrth y desgiau talu lle maen nhw'n nôl eu bwyd.
Bydd yr ôl yn cael ei storio ar ffurf rhif, ar ffurf set o rhwng 20 a 50 o gyfeirnodau, unigryw i ôl yr unigolyn. Ym mhob cyfeirnod mae tri rhif sydd yn gyfesurynnau X ac Y ac yn ongl cromlin. Nid yw'r system hon yn storio llun y bys a sganiwyd. Yr unig ddefnydd y gellir ei wneud o'r cyfesurynnau a storiwyd, yw cael darn o ôl yr unigolyn i gyd-fynd â'r databas ac ni ellir eu defnyddio at ddiben ail-lunio ôl bys na bawd.
Bydd y rhifau'n cael eu dal ar ddata-bas SQL diogel ar y gweinydd. Dim ond gydag awdurdod yr ysgol y gellir mynd at y databas hwn, a dim ond y rhai hynny y mae gofyn iddynt weinyddu'r system a ganiateir.
Bydd data penodol yn cael ei ddal ar y system er mwyn ei gweithredu hi yn y modd priodol. Bydd y data hwn yn cynnwys enw, dosbarth, ffotograff, balans cyfrif a hawl i fwyd eich plentyn. Bydd y data yn cael ei drin o dan ganllawiau Deddf Diogelu Data a dim ond yn cael ei ddefnyddio gan bartïon â chysylltiad uniongyrchol â'r ysgol. Bydd mynediad at y wybodaeth hon yn cael ei reoli yn llym iawn gan gegin yr ysgol yn unig.
Os oes gennych gwestiwn ynghylch yr uwchraddiad hwn, byddwch cystal â chysylltu â Steve Jones ar 01978 298736 neu Vanessa Heritage-Smith ar 01978 298745 o’r Gwasanaeth Prydau Ysgol a fydd yn hapus i’w hateb.
Gwasanaethau Biometrig Cinio Heb Arian
Gwasanaethau Biometrig Cinio Heb Arian - Fersiwn Word 50Kb ![]()
Gwasanaethau Biometrig Cinio Heb Arian - Fersiwn PDF 53Kb ![]()
Gwasanaethau Biometrig Cinio Heb Arian - Fersiwn RTF 57Kb ![]()
Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, ffoniwch yr Adran Addysg ar 01978 294791.
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |