Prydau Ysgol am Ddim

Gwybodaeth Bwysig i Rieni/Gwarcheidwaid.

A oes gan eich Plentyn hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim?

Mae gan y plant hynny y mae eu rhieni’n derbyn y taliadau cymorth ychwanegol, hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion cynaledig yng Nghymru:

  • Cymhorthdal Incwm (IS)*
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (IBJSA)*
  • Cymorth o dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Nodded 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (IR)
  • Credyd Treth Plant, cyn belled â nad oes gennych yr hawl i gael Credyd Treth Gwaith a’ch bod yn cael cyfanswm incwm blynyddol sy’n llai na’r terfyn a bennwyd gan y HMRC
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth

*Mae plant sy’n derbyn IS neu IBJSA drwy eu hawl eu hunain, hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

yn ôl i'r brig

Sut Ydw I'n Gwmeud Cais?

Trwy lenwi’r ffurflen gais amgaeedig a’i hanfon at Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG. Mae’n hanfodol bwysig llenwi pob adran yn y ffurflen hon yn enwedig felly rhan 1 sy’n dangos beth yw enw llawn, dyddiad a rhif Yswiriant Gwladol yr hawliwr (hawlwyr).

Fel arall, os ydych chi eisoes yn derbyn Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth y Cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam byddwch cystal â ffonio’r adran Gwasanaethau Cymorth ar 01978 297413 er mwyn trafod a ydych chi’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Efallai y bydd yr Awdurdod yn holi’r Asiantaeth Budd-daliadau, ar-lein, er mwyn cadarnhau pa fudd-daliadau yr ydych yn eu cael.

yn ôl i'r brig

Beth fyddaf i’n ei wneud os bydd fy hawl i fudd-dal yn dod i ben?

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod, ar unwaith, i’r Gwasanaethau Cymorth os bydd eich budd-dal cymhwysol yn dod i ben neu’n peidio â chael ei gynnig ichi mwyach. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod inni, bydd yn rhaid ichi dalu pris llawn unrhyw brydau ysgol y bydd eich plentyn (plant) yn eu cael o’r dyddiad y daeth eich budd-dal i ben.

yn ôl i'r brig

Gwybodaeth ychwanegol

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gymorth mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim, byddwch cystal â chysylltu â’r adran Gwasanaethau Cymorth ar 01978 297413 neu dewch draw i Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG.

yn ôl i'r brig

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim - fersiwn Word 43Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim - fersiwn PDF 20Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim - fersiwn RTF 61Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig