Efallai nad yw paratoi cinio pecyn i'ch plentyn mor gost effeithiol ag y tybiwch. Gyda chostau bwyd yn codi'n barhaus, mae'n werth ystyried manteision dewis y Cinio Pecyn Iach sy'n cael ei baratoi gan y gwasanaeth arlwyo cinio ysgol.
Mae Cinio Pecyn Iach Ysgol yn cynnwys:
Mae pob Cinio Pecyn Iach Ysgol yn cael ei gadw mewn amodau oer priodol nes bydd ei angen amser cinio.
Os oes gan eich plentyn hawl i bryd am ddim, gellir darparu cinio pecyn ar gais.
Gall y Cinio Pecyn Iach Ysgol roi pryd iach a chytbwys i’ch plentyn. Mae pob cinio yn cydymffurfio â’r canllawiau maethol a gall gynnig y maetholion pwysig sydd eu hangen ar blant i dyfu, a datblygu yn eu blynyddoedd cynnar.
Rhowch gynnig ar Ginio Pecyn Iach Ysgol am yr un pris â chinio ysgol. Gellir gofyn am ginio pecyn o flaen llaw, neu gellir eu dewis wrth y cownter amser cinio.