Gwybodaeth am Fwyta Di-arian mewn Ysgolion Cynradd

Nid yw’r gwasanaeth bwyta di-arian ar gael ym mhob ysgol gynradd yn Wrecsam.

Rheolir y system hon gan y dechnoleg ddiweddaraf.

Mae gan bob disgybl gyfrif unigol sydd â rhif adnabod 4 digid unigryw a roddir i rieni/warcheidwaid i’w ddefnyddio gyda’r peiriant adbrisio.

Gellir talu am brydau fel a ganlyn:

  • Gyda siec - ysgrifennwch enw a rhif dosbarth eich plentyn ar gefn y siec a’i rhoi yn y blwch sieciau a leolir ger y fynedfa, fel rheol. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. A fyddech gystal â nodi na ddylai sieciau gynnwys unrhyw daliadau ar gyfer gweithgareddau eraill e.e. nofio. Rhaid talu’r ysgol yn uniongyrchol ar gyfer y rhain.
  • Gydag arian parod - defnyddiwch y darnau arian canlynol: 5c, 10c, 20c, 50c, £1, £2 a phapurau £5, £10 neu £20. Gellir talu’r rhain yn uniongyrchol i gyfrif eich plentyn gan ddefnyddio’r peiriant adbrisio a leolir ger y blwch sieciau, gyda’ch rhif adnabod unigryw (os byddwch yn anghofio’r rhif hwn, gellir ei ail-anfon atoch).

Manteision

  • Ni fydd unrhyw wahaniaethu i ddisgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, gan y byddant yn derbyn cyfrif unfath. Bydd gwerth y pryd bwyd yn cael ei ychwanegu at y cyfrif bob dydd.
  • Mae’n cael gwared ar y baich o ddod o hyd i newid bob dydd.
  • Gellwch wneud cais am gyfriflen a disgrifiad o’r bwyd a brynwyd.
  • Mae llai o berygl o golli arian.
  • Mae’r system yn gwneud y wybodaeth yn fwy hygyrch i chi.

Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, ffoniwch yr Adran Addysg ar 01978 298745.

yn ôl i'r brig