Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol

 

Mae Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio'n barhaus i ddarparu amrywiaeth eang o ddewisiadau iach er mwyn bodloni rhai o ofynion maethol plant sy'n tyfu ac yn datblygu.

Mae'r Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol mewn ysgolion cynradd yn cynnig bwydlen dau gwrs am bris penodol sydd â dewis dyddiol o ddau brif gwrs neu datws pob wedi'u llenwi a salad neu becyn cinio, ynghyd â phwdin ffres neu ffrwythau ffres a iogwrt.

Cynigir dewis o lysiau bob dydd, ynghyd ag amrywiaeth o wahanol garbohydradau gan gynnwys reis a phasta. Dylai sglodion fod ar gael unwaith yr wythnos yn unig.

Mae prydau ysgol yn rhoi cyfle ardderchog i blant roi cynnig ar fwydydd newydd yn gynnar yn ystod eu blynyddoedd datblygol. Tra bydd y staff arlwyo'n gwneud pob ymdrech i annog plant i ddewis prydau iach, mae'n bwysig bod rhieni ac ysgolion yn rhoi eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i annog plant i wneud dewisiadau iach, a chan hynny, gwneud y newidiadau angenrheidiol i arferion bwyta plant.

Yr her i bawb sy'n arlwyo prydau ysgol yw paratoi bwyd y bydd y disgyblion yn ei fwynhau ac yn ei fwyta, sydd hefyd yn hybu arferion bwyta da.

Pam dylech ddewis pryd ysgol i'ch plentyn?

  • Prydau ffres a maethlon sy'n defnyddio cynhwysion iach sylfaenol.
  • Staff arlwyo hyfforddedig a chymwys a fydd yn gwneud pob ymdrech i annog eich plentyn i ddewis pryd iach.
  • Bwydlen â chylchred 3 wythnos sydd ag amrywiaeth eang o ddewisiadau.
  • Bwydlenni sy'n cydymffurfio â'r safonau maethol ar gyfer prydau ysgol, a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gymeradwywyd gan Ddietegydd Cymunedol.
  • Mae'r pryd ysgol yn cynnig gwerth am arian.
  • Gellir ystyried anghenion dietegol arbennig.
  • Dewisiadau llysieuol ar gael bob dydd.
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol.
  • Bwyd sy'n helpu plant i feddwl ac i dyfu.
  • Mae plant yn gallu canolbwyntio'n well yn y prynhawn ar ôl bwyta pryd ysgol cytbwy.

Bwydlen Prydau Ysgol

Gellir lawrlwytho'r fwydlen ar y ffurfiau canlynol:

Bwydlen Prydau Ysgol - Fersiwn Word 173Kb

Bwydlen Prydau Ysgol - Fersiwn PDF 57Kb

Bwydlen Prydau Ysgol - Fersiwn RTF 1.5Mb

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Adran Addysg ar 01978 29479.


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cysylltiadau i

Prydau Ysgol
Bwydlen
Gwasanaeth Bwyta Di-arian â Cherdyn
Bwyta Di-arian mewn Ysgolion Cynradd
Prydau Ysgol am Ddim
Swyddi Arlwyo
Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint