Mae'r dudalen hon wedi ei hysgrifennu fel canllaw i rieni/gwarcheidwaid sy'n ystyried addsysg feithrin ar gyfer eu plentyn/plant. Y cwestiynau canlynol yw'r cwestiynau a ofynnir fwyaf aml gan rieni. Hyderwn y bydd y dudalen hon yn ddefnyddiol. Os bydd angen cyngor neu wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â chyfeiriad y Swyddfa Derbyniadau isod.
Gall plant ddechrau yn yr ysgol geithrin yn y mis Medi sy'n dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Mae ysgol feithrin yn bump sesiwn hanner diwrnod yr wythnos. Mae rhai ysgolion yn cynnig sesiynau bore ac eraill sesiynau prynhawn.
Cysylltwch â'r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) a fydd yn esbonio're gweithdrefnau ac yn anfon ffurflen derbyniadau atoch. Gellir gofyn i chi ddarparu dogfennaeth swyddogol sy'n dangos dyddiad geni eich plentyn. Bydd ffurflenni ar gael gan bob ysgol feithrin/babanode/cynradd ar ôl y gwyliau Nadolig cyn y mis Medi pan fydd y plentyn yn gymwys i ddechrau yn yr ysgol.
Gall rhieni fynegi dewis am unrhyw ddarpariaeth feithrin ar gyfer eu plentyn. Bydd yr Awdurdod Derbyniadau yn ceisio cydymffurfio â'r dewis hwm. Ond, os bydd nifer y deisiadau yn fwy na nifer y lleoedd ar gael yn yr ysgol, mae'r Awdurdod yn defnyddio ei feini prawf gormod o geisiadau cyhoeddedig i ddosrannu'r lleoedd. Mae hym yn rhoi blaenoriaeth i'r plant hynny sy'n byw agosaf at yr ysgol; y rhai sydd â brodyr/chwiorydd eisoes yn yr ysgol; a'r plant hynny â fogynion arbenning y gellir eu diwallu yn yr ysgol honno yn unig.
Mae rhestrau o ysgolion ym mhob llyfrgell leol (gofynnwch am y 'Canllaw Rhieni i Addysg').
Gall, mae llawer o blant o deuluoedd sy'n siarad Saesneg yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg are lefel feithrin. Er eu bod yn dechrau heb fod yn gallu siarad Cymraeg o gwbl, maent yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dysgu'r iath yn gyflywm iawn. Mae mwyafrif y plant hym yn parhau mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn perfformion cystal â phlant sy'n siarad Cymraeg yn naturiol mewn TASau a TGAU/CGCC.
Mae gweithgareddau meithrin yn darparu cyfleoedd arddechog i ddatblygu iath. Bydd eich plentyn yn dysgu Saesneg drwy chwarae strwythuredig. Cofiwch fod eich pletyn yn dal i ddatblydu ei h/iaith gyntaf yn dair oed. Mae'n bwysid eich bod yn parhau i gynnal iaith eich aelwyd. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i ddysgu Saesneg yn gyflymach a bydd o fudd i ddysgu yn gyffredinol.
Na, nid yw disgyblion meithrin yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim.
Swyddog Derbyniadau,
Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc,
Tŷ Henblas,
Sgwâr y Frenhines,
Wrecsam,
LL13 8AZ.