|
Mae’r datganiad hwn o bolisi yn amlinellu’r ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi penderfynu arfer ei bwerau a’i ddyletswyddau mewn perthynas â darparu cludiant i fyfyrwyr 16-19 oed i’r ysgol neu’r coleg yn unol â deddfwriaeth addysg.
Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion cymwys sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol i’r ysgol neu’r coleg priodol agosaf, ar wasanaethau a gomisiynir i ddarparu cludiant.
Mae’r AALl yn darparu cludiant i’r sefydliad addysgol agosaf sydd, ym marn yr AALl, yn darparu amrywiaeth resymol o gyrsiau sy’n addas ar gyfer galluoedd, tueddfrydau a gofynion disgybl unigol. Dylai’r cyrsiau fod ar lefel uwch na’r cwrs blaenorol, er enghraifft ni fyddai disgybl sy’n ailsefyll arholiadau TGAU fel arfer yn gymwys i dderbyn cymorth. Byddai cludiant ar gael i’r athrofa agosaf sy’n cynnig cyrsiau lefel ‘A’ sy’n cydfynd â phynciau craidd a sylfaenol y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys cerdd a chelf. Dim ond os oes amrywiaeth sylweddol rhwng cwrs dewisol y disgybl a’r cwrs sydd ar gael yn yr athrofa agosaf, ym marn yr AALl, y darperir cludiant i unigolyn i sefydliad addysgol nad yw’r agosaf.
Gallai’r AALl ddarparu cydymaith i ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Darperir cymdeithion ar ôl i’r swyddogion perthnasol ystyried anghenion unigol y disgyblion neu’r grŵp o ddisgyblion a natur y cludiant sydd ar gael.
Gellir darparu cludiant os yw’r AALl o’r farn bod lefel yr anghenion yn ddigon i gyfiawnhau ystyriaeth arbennig, er enghraifft os yw’r myfyriwr neu’r disgybl yn dioddef anhwylder ffobig neu’n agored i niwed.
Gellir darparu cludiant i ddisgyblion neu fyfyrwyr sydd â chyflyrau meddygol dwys sy’n effeithio ar eu symudedd, hyd yn oed os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer pellter neu addysg. Ym mhob achos, rhaid cael tystiolaeth feddygol i ategu at y ceisiadau a fydd yn destun adolygiad gan swyddog meddygol yr ysgol a’r/neu’r Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau.
Ystyrir yr egwyddorion canlynol wrth benderfynu ar y math o gludiant sydd ei angen:
- yr angen ar gyfer cludiant arbenigol;
- anghenion addysgol arbennig y disgybl neu fyfyriwr fel a ddiffinir yn ei (d)datganiad.
Ym mhob un o’r uchod, y defnydd effeithlon o adnoddau a fydd yn penderfynu ar y math o gludiant a ddarparir (yn ddibynnol ar yr amodau uchod). Gellir darparu cludiant trwy gontract cludiant ysgol neu wasanaeth cludiant cyhoeddus a benderfynir, ynghyd â’r math o gludiant, yn ôl pa mor cost effeithiol ydyw.
Os nad yw’r disgybl neu’r myfyriwr yn bodloni’r meini prawf uchod, gallai’r AALl ddarparu cludiant am bris gostyngol drwy ganiatáu iddynt ddefnyddio gwasanaeth cludiant dan gontract sydd â seddi gwag.
Datganiad o'r Polisi Cludiant ar gyfer Dysgwyr 16-19 Oed
Mae'r Polisi ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Datganiad o'r Polisi Cludiant ar gyfer Dysgwyr 16-19 Oed - Fersiwn MS Word 721Kb 
Datganiad o'r Polisi Cludiant ar gyfer Dysgwyr 16-19 Oed - Fersiwn PDF 491Kb 
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
 |
|