



Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 8–17 oed er mwyn ceisio rhwystro troseddu ac aildroseddu. Rydym yn dîm amlasiantaethol o staff proffesiynol sy’n gweithio yn y system Cyfiawnder Ieuenctid, a chawn ein hariannu gan Fwrdd Cyfiawnder Lloegr a Chymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phartneriaethau Strategol lleol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Llysoedd Ieuenctid ac yn gweithredu ystod o orchmynion statudol y mae’r llysoedd yn eu gosod. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc a roir yn y ddalfa.
Mae gennym Agenda Atal gynhwysfawr sy’n amgynnwys Tîm Ymyrraeth Buan. Mae hynny’n golygu gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned ar fentrau sy’n canolbwyntio ar gefnogi plant a’u teuluoedd mewn ardaloedd yn Wrecsam.
Mae gennym nifer cynyddol o wirfoddolwyr, sy’n cynnig cefnogaeth i’r tîm trwy ymgymryd â nifer o swyddogaethau sy’n cynnwys mentoriaid, oedolion priodol ac aelodau o’r paneli atgyfeirio. Anogir pobl o bob oed i gymryd rhan.
Cynigir cyngor ac arweiniad i rieni sy’n cael trafferthion wrth reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol eu plentyn.
Un prif ffocws o’n gwaith yw galluogi pobl ifanc i dderbyn cyfrifoldeb am eu hymddygiad a’u gweithredoedd, a deall y niwed y mae eu troseddu yn ei wneud i eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda dioddefwyr ac anogwn bobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gwella’r niwed i unigolion a’r gymuned ehangach.
Wrecsam sy’n ddiogel ac yn rhydd o drosedd i bawb lle mae pobl ifanc yn ddinasyddion gwerthfawr o fewn eu cymuned.
Pwrpas Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yw gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd, dioddefwyr, a chymdogaethau, gan ddarparu ymyriaethau strwythuredig wedi eu hanelu at ataliad, ailsefydlu a’r rhesymau dros droseddu o fewn sir Gymreig Wrecsam gan ostwng effaith, ofn a maint troseddu.
Yn ymlafnio bob amser i ddarparu’r gwasanaeth mwyaf proffesiynol, aml-ddisgyblaethol gorau, yn ymroddedig i arfer arloesol ac effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn wrth-wahaniaethol.
Rheolwyr Timau Troseddu Ieuenctid Cymru
Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (YJB) yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam
Uned 21 Ystad Ddiwyddiannol Whitegate
Wrecsam
LL13 8UG
Ffôn: 01978 268140
Ffacs:01978 268169
Ebost: youthjusticeService@wrexham.gov.uk
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
Cysylltiadau Defnyddiol |
|
| Mynegai Addysg | |