Ynghlych Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys tref fasnachol a gweinyddol Wrecsam a nifer o bentrefi gwledig a threfol sefydledig. Cyfnewidir galwedigaethau traddodiadol gyda diwydiannau newydd gan gynnwys Parc Technoleg Wrecsam a datblygodd y dref yn ganolfan fasnachu fywiog.

Yn 2002 amcangyfrifwyd bod poblogaeth o 125,750 ac yn 1998 roedd 11,517 yn wryw ac 11,084 yn fenywaidd yn y grwp oedran 11 i 25. Mae'r nifer sy'n iau na 18 mlwydd oed yn y sir yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru, ac yn uwch na hyn eto mewn rhai ardaloedd.

Mae gan yr ardal synnwyr o gymuned ddatblygedig gref ond mae wedi dioddef cyfnodau o ddiweithdra uchel oherwydd dirywiad y diwydiannau glo, dur a bric.

Mae Wrecsam yn cynnwys pedair o'r pum ardal fwyaf dan anfantais yn economaidd yng ngogledd ddwyrain Cymru. Yn 1997, roedd un o bob pump o'r boblogaeth yn hawlio cymhorthdal incwm ac roedd gan 19.6% o'r plant hawl i brydau bwyd ysgol am ddim. Roedd dau gant a saith deg pedwar o blant ar y cyd-gofrestr anabl.

Mae bron iawn i 14% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Mewn pum ardal mae mwy na 20% yn siarad Cymraeg; yn Pant mae 36.2% ac yn Ceiriog Ucha mae 54.3%.

yn ôl i'r brig