Y Datganiad Cwricwlwm ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae'r Datganiad Cwricwlwm a ddatblygwyd yn gorfforedig ar gyfer y Gwasanaethau Ieuenctid yng Nghymru wedi ei fewnosod yn gadarn yn arferion gwaith ieuenctid. Ei amcan datganedig yw darparu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc sy'n

  • Addysgol
  • Gyfrangogol
  • Awdurdodi
  • Fynegiannol

Cyflwynir y cwricwlwm mewn ystod eang o gyd-destunau gan ddefnyddio nifer o weithgareddau amrywiol sy'n cynnwys pobl ifanc yn y canlynol:

  • Rhaglenni addysgol anffurfiol a strwythurol sy'n cyfoethogi ar eu datblygiad personol.

  • Lleoedd a pherthnasau y gallant fwynhau eu hunain, derbyn cefnogaeth a pharch a theimlo'n ddiogel.

  • Trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd, perthnasau, ymddygiad a chyfrifoldebau.

  • Datblygu i fod yn sensitif tuag at eu cymuned, yr amgylchedd leol a byd eang, diwylliant a threftadaeth.

  • Canfod sialens, cydnabyddiaeth a llwyddiant drwy weithgareddau anturus.

  • Derbyn gwybodaeth a chyngor drwy ddeunydd cyhoeddedig sydd ar gael, canllawiau, cwnsela a thrafodaeth grwp.

  • Datblygu sgiliau drwy chwaraeon tîm neu unigol, cymryd rhan mewn gweithgareddau adloniant anffurfiol mewn amgylchedd diogel.

  • Datblygu sgiliau mynegiannol drwy gymryd rhan mewn dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, drama a chwarae rôl.

  • Teithio; cael y profiad o gyfleoedd preswyl a theithiau cyfnewid rhyngwladol

yn ôl i'r brig