INFOSiop i Bobl Ifanc a Clinig Iechyd Rhyw i Bobl Ifanc

INFO i Bobl Ifanc
2 Arcêd y Gogledd
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 88B

Ff: 01978 358900
E: infoshop@wrexham.gov.uk

Yr oriau agor yw dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 11.30 tan 5.30 a dydd Mawrth a dydd Iau 11.30 tan 4.30. Dydd Sadwrn 11.00 tan 1.30.

INFO i Bobl Ifanc

Clinig Iechyd Rhyw Pobl Ifanc Cyswllt

Ffurflen Gais am Cysylltiad â Gweithiwr Iechyd Rhyw

INFO i Bobl Ifanc

Yn y siop Info mae gennym bob math o wybodaeth o dai a budd-daliadau, addysg a chyflogaeth i deulu a chysylltiadau, i enwi ychydig. Os na allwch gael hyd i’r wybodaeth a fynnwch yna ymwelwch â’r Info ac, os na fyddwn yn gwybod, gallwn eich troi i’r cyfeiriad iawn.

Ydych chi eisiau siarad â rhywun yn gydgyfrinachol? Gallwch siarad â’n gweithwyr ieuenctid sydd wedi cael hyfforddiant. Mae’r siop Info’n cymryd cydgyfrinachedd o ddifrif a bydd hyn yn cael ei egluro’n llawnach wrthych pan ddowch i mewn.

Rydym ar agor ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 11.30 tan 5.30 a dydd Mawrth a dydd Iau 11.30 tan 4.30.

Mae pawb yn cael anawsterau ar ryw adeg yn eu bywydau, a gall fod yn ddefnyddiol trafod pethau gyda rhywun fydd yn gwrando heb eich beirniadu.

Mae Outside In yn wasanaeth cynghori cydgyfrinachol am ddim yn y Siop Info. Gallwch alw heibio neu ffonio i wneud trefniant ar 01978 358900.

Gwasanaeth eiriol annibynnol am ddim yw Ail Lais ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae gan Ail Lais dîm o eiriolwyr sydd wedi cael hyfforddiant fydd yn helpu pobl ifanc gael dweud eu dweud ynghylch materion a deimlant sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’n cynrychioli dymuniadau a theimladau pobl ifanc.

Gallwch alw heibio a gofyn am eiriolwr a byddwn yn neilltuo eiriolwr i’ch achos, neu ffoniwch ni ar 0800 032 2630.

Mae’r clinig ar agor ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener o 3pm tan 5.30pm a hefyd ar ddydd Sadwrn 11am tan 1.30pm lle mae nyrsys ar gael i chi siarad â nhw’n gydgyfrinachol. Mae condomau am ddim i’w cael bob amser gan weithwyr ieuenctid yn ystod oriau’r siop, tra bo mathau eraill o atal cenhedlu ar gael hefyd, gan y nyrsys pan fydd y clinig ar agor. Mae’r clinig hefyd yn cynnig gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a phrofion beichiogrwydd.

Mae’n wasanaeth cydgyfrinachol gyda dros 6000 o bobl ifanc rhwng oed 11-25 wedi cofrestru ar hyn o bryd.

 Dolen i Ffurflen Gais Contact Ar-lein ar Faterion Iechyd Rhwiol

I gael rhagor o wybodaeth ymwelwch ag www.wrecsamifanc.co.uk

yn ôl i'r brig