Canolfannau Pobl Ifanc

Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam nifer o ganolfannau a ddefnyddir gan bobl ifanc a grwpiau cymunedol a bydd gan bob un o'r canolfannau ei fforwm ieuenctid ei hun sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau am y gweithgareddau a gynhelir yn y ganolfan ac sydd ynghlwm wrth benodi pob un o'r staff gwaith ieuenctid yn y ganolfan honno.

Mae gan y bobl ifanc bob amser flaenoriaeth o ran mynediad i'r canolfannau hyn - dyna pam y gelwir nhw'n ganolfannau pobl ifanc. Mae gan bob un o'r canolfannau ystafell TG ac wedi eu haddurno a'u rheoli ar y cyd gan bobl ifanc a staff gwaith ieuenctid.

Canolfannau

Canolfan Pobl Ifance Brymbo
Ysgol Brymbo
Brymbo
Wrecsam

Dydd Llun 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Iau 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc Y Waun
Ysgol Ceiriog
Lôn Lwyd
Y Waun
Wrecsam

Dydd Llun 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Iau 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc Coedpoeth
Gan Gynnwys Stiwdio Recordio a Chymysgu
Cerddoriaeth
Bryn Tabor
Coedpoeth
Wrecsam

Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mercher 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Iau 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

"Gafneys"
Canolfan Pobl Ifanc Brynteg a Southsea
Ffordd Bryn Issa
Brynteg
Wrecsam

Dydd Llun 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mawrth 4.00pm - 6.30pm Grwp Anabledd
Dydd Mercher 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Bobl Ifanc Garden Village
Ffordd Clawdd Watts Dyke
Garden Village
Wrecsam

Dydd Mawrth 6.30pm - 9.00pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mercher 7.00pm - 8.30pm Cyrsiau Hunan Amddiffyniad i Ferched Ifanc
Dydd Iau 6.30pm - 9.00pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc Gresffordd
Neuadd Allington
Lôn y Ficerdy
Gresffordd
Wrecsam

Dydd Mawrth 6.30pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mercher 6.00pm - 8.30pm Canolfan Gwobr Awyr Agored Dug Caeredin
Dydd Iau 6.30pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc Holt
Stryd y Capel
Holt
Wrecsam

Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Iau 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     
Canolfan Adnoddau Parc Llai
Gan gynnwys Canolfan Pobl Ifanc Llai Adnoddau Cymunedol ac unedau dechrau busnes i bobl ifanc
Dydd Llun 6.30pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Mawrth 6.30pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Fercher 6.30pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc Maelor
Ffordd Llangollen
Acrefair
Wrecsam

Dydd Llun 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mawrth 6.00pm - 7.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Mercher 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Gwener 6.00pm - 8.00pm Plant (11-13)
     

Canolfan Pobl Ifanc Penycae
Penycae
Wrecsam

Dydd Llun 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mawrth 6.00pm - 7.30pm Plant (11-13)
Dydd Mercher 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     
Canolfan Pobl Ifanc Parc y Frenhines a Siop Un-stop Awyr Agored
Queensway
Wrecsam

Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Mercher 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Iau 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
Dydd Gwener 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc Rhos
Ysgol y Grango
Allt Ty Gwyn
Rhosllanerchrugog
Wrecsam

Dydd Llun

Galw heibio bob amser cinio'r ddydiol

Grwp Ieuenctid 6.30pm - 9.00pm Nos Lun / Nos Fercher / Nos Iau

Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
     

Canolfan Pobl Ifanc Rhiwabon
Llwyn Stanley
Rhiwabon
Wrecsam

Dydd Llun 7.00pm - 9.30pm

Grwp Ieuenctid

Dydd Iau 7.00pm - 9.30pm Grwp Ieuenctid
     

Canolfan Pobl Ifanc "Y Fic"
Gan gynnwys Caffi'r Ieuenctid a Chanolfan TG Digilab
13 Stryt yr Allt
Wrecsam

Dydd Llun 3.00pm - 9.30pm

Caffi Ieuenctid

Dydd Mawrth 3.00pm - 9.30pm Caffi Ieuenctid
Dydd Mercher 3.00pm - 9.30pm Caffi Ieuenctid
Dydd Sadwrn 2.00pm - 3.00pm Galw Heibio
Dydd Sul 6.30pm - 9.00pm Grwp Ieuenctid

 

Canolfan Bobl Ifanc a Chanolfan Adnoddau Parc Llay

Mae Canolfan Adnoddau Parc Llay yn ddatblygiad newydd a chyffrous sydd wedi ei gwblhau'n ddiweddar ac wedi dechrau gweithredu fel rhan o'r gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2004. Lleolir y ganolfan yn Sgwâr y Farchnad, Llay ac mae'n sefyll ar gyn safle Canolfan Ieuenctid CBSW, drws nesaf i Eglwys Sant Martin. Ariennir Canolfan Adnoddau Parc Llay gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd, y Gronfa Adfywio Lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Cymunedol Llay.

Canolfan Adnoddau Parc Llay

Caffi Cymunedol Canolfan Adnoddau Parc Llay

Canolfan Bobl Ifanc Parc Llay

 

Unwaith i'r ganolfan fwrw ati o ddifrif bydd yn cynnal ystod o gyfleusterau cymunedol a fydd yn cynnwys canolfan gwybodaeth ac adnoddau a fydd yn darparu gwybodaeth i'r cyhoedd mewn amrywiol ffurfiau gan gynnwys mynediad i'r Rhyngrwyd am ddim a darpariaeth Ieuenctid a Chymunedol sy'n canolbwyntio'r ddarpariaeth tuag at aelodau iau'r gymuned.

Yn y rhaglen weithgareddau ar hyn o bryd ceir cyfleoedd dysgu anffurfiol, gwaith merched ifanc, chwaraeon a ffitrwydd a chyfranogiad ehangach yn sir Wrecsam. Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys ystafell Dysgu ac Addysgu, ystafell Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg a meithrinfa dros dro rhan amser. Yn y ganolfan hefyd ceir darpariaeth ar gyfer tair uned sefydlu busnes a chaffi cymunedol tra choeth mewn lleoliad delfrydol. Mae gan yr ardal y tu allan gysgodfa ieuenctid ac ym mis Chwefror 2005 bydd ardal gemau amlddefnydd hefyd yn cael ei hadeiladu.

Cyswllt i Ffurflen Ymholiadau Cyffredinol

yn ôl i'r brig