Gwaith Allanol a Gwaith ar y Stryd Bydd prosiectau gwaith allgymorth a gwaith stryd yn annog diddordeb pobl ifanc mewn mannau y byddant yn ymgynnull o'u dewis, gall fod ar gornel stryd, parciau, caffis, canolfannau hamdden neu fannau cyhoeddus. Yn aml bydd gweithwyr ar y stryd yn gallu cysylltu â phobl ifanc sydd heb unrhyw ddarpariaeth ieuenctid arall yn eu hardal neu sydd am ba bynnag reswm yn dewis peidio â defnyddio'r cyfleusterau.
Tîm Allanol Acton Dydd Llun - Dydd Iau 6.30pm - 9.30pm |
Gweithiwr Datblygu Acton |
Tîm Allanol Brynteg a Southsea Dydd Mawrth a Dydd Iau 6.30pm - 9.00pm |
Arweinydd Tîm Ardal |
Tîm Allanol Johnstown Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm |
Arweinydd Tîm Ardal |
Tîm Allanol Penycae Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm |
Arweinydd Tîm Ardal |
Tîm Allanol Rhosllanerchrugog Dydd Mawrth 6.30pm - 9.00pm |
Arweinydd Tîm Ardal |
Gwaith ar y Stryd Canol Tref Wrecsam Ffoniwch am fanylion |
Gweithiwr Ieuenctid Canol y Dref |
| Tîm Allanol Penycae Gwaith ar y stryd |
INFO i Bobl Ifanc 2 Arcêd Porth y Gogledd Stryt Caer Wrecsam |
Cyswllt i Ganolfannau Pobl Ifanc
Cyswllt i wybodaeth am Ganolfan Adnoddau Parc Llai
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnig ystod eang o gyfleodd addysg yn yr awyr agored gyda hyfforddwyr cymwys a chyfleodd i ennill cymwysterau.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnig ystod eang o gyfleodd addysg yn yr awyr agored gyda hyfforddwyr cymwys a chyfleodd i ennill cymwysterau. Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam drwydded Gweithgareddau Antur (Trwydded Rhif. L4724).
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
Mae'r daflen ar gael i'w lawr lwytho yn y fersiynau canlynol:
Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr - fersiwn PDF 93Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Gwobr Dug Caeredin yn Wrecsam Mae Gwobr Dug Caeredin yn rhaglen o weithgareddau gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc sydd rhwng 14 a 25 oed. Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau sy'n cynnwys alldaith dan ganfas, rhoi gwasanaeth i'w cymuned, dilyn sgìl o'u dewis a chymryd rhan mewn chwaraeon. Gallant un ai ddewis gweithgaredd sy'n newydd iddynt neu ddefnyddio'r Wobr i gael achrediad i'w gweithgareddau blaenorol. Mae dros 600 o weithgareddau cymwys yn y wobr.
Yn Wrecsam yn 2003/04 cymerodd, 7.9% o'r boblogaeth oedd yn 14 - 17 oed ran yn y wobr. Gallant gwblhau pethau drwy eu hysgol, sefydliad gwirfoddol canolfan ieuenctid neu un o'r canolfannau gwobrau awyr agored yn yr ardal. Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y wobr yw Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Clywedog, Grango, Rhiwabon, Sant Christopher, Ysgol Maelor a Sant Joseff. Mae gan The Venture , Parc Caia, Grwp Gofal Coedpoeth, y Sgowtiaid Archwilio, Coleg Iâl, Canolfan Ieuenctid Bettisfield, Canolfan Ddatblygu Plant y Coetir a'r Gwasanaeth Prawf hefyd bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y wobr.
Canolfan Gwobrau Agored Wrecsam - cynhelir cyfarfodydd ar nos Fawrth rhwng 7-9pm yn Ysgol Clywedog Wrecsam (adeg tymor yn unig). Mae croeso i bobl ifanc ymweld â ni i gael cyngor, cyfarwyddyd neu sgwrs am wobr Dug Caeredin.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid - Gwobr Dug Caeredin ar cwblhewch ffurflen ymholiadau cyffredinol ar-lein.
Gwybodaeth bellach (cyswllt allanol): www.dofe.org
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam bartneriaeth a threfniant ariannol gyda'r cynghorau cymunedol, grwpiau gwirfoddol mawr a bach ac ag elusennau pobl ifanc cenedlaethol.
Rhaglenni Gweithgareddau Gwyliau Ysgol Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam mewn partneriaethau cymunedol yn gallu darparu rhaglenni gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol. Mae'r partneriaid yn cynnwys:
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
Mae gwasanaethau Prosiect Gweithred Gwledig Wrecsam yn cynorthwyo pobl ifanc o ardaloedd gwledig Wrecsam ac yn cefnogi clybiau ieuenctid gwirfoddol, annog a datblygu fforymau ieuenctid gwledig a datblygu gwaith arloesol gyda phobl ifanc arunig.
Mae Wrap yn gweithredu bob noswaith yn ystod yr wythnos yn ardaloedd Marchwiel, Owrtyn, Bangor Is-coed, Llannerch Banna a Bettisfield yn ogystal ag yn harddwch Dyffryn Ceiriog.
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein