Croeso i'r Ffurflen Gais Ar Lein ar gyfer Cofrestru Eiddo Bwyd.
Mae'r ffurflen ar lein hon yn caniatáu cofrestru eiddo a ddefnyddir ar gyfer busnes bwyd (gan gynnwys stondinau marchnad, cerbydau danfon a strwythurau symudol eraill) ac mae angen cofrestru dan y gyfraith.
Bydd cofrestru yn caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gadw rhestr ddiweddaraf o'r holl eiddo felly yn yr ardal er mwyn medru trefnu ymweliadau. Bydd amlder yr ymweliadau yn dibynnu ar lefel y risg dan sylw.
Gweler Nodiadau ar Gofrestru Eiddo Bwyd
I gofrestru eich eiddo bwyd, cwblhewch y ffurflen isod a chlicio ar y botwm cyflwyno.
Anfonir eich manylion at wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a fydd yn gwirio'r wybodaeth a gyflwynwyd, a chofnodi'r manylion mewn Cofrestr. Bydd cofrestr yn cynnwys enw'r busnes (os oes un), y cyfeiriad, rhif ffôn a'r math o fusnes a ymgymerir gan bob un, a bydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Mae'r blychau lle mae * yn orfodol, a rhaid eu cwblhau.
Ni fydd cofnodion o'r wybodaeth arall a ddarperir ar gael yn gyhoeddus.
Diogelu Gwybodaeth
Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir gennych yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â thelerau Deddf Diogelu Gwybodaeth 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd
Medrwch gysylltu gyda Iechyd yr Amgylchedd:
Cwblhau'r ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein
Ffôn: 01978 292040
Ebost: Contact-Us@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad: Contact Wrexham
Wrexham County Borough Council
16 Lord Street
Wrexham
LL11 1LG







