Mae'r dudalen hon yn delio gyda cherbydau sydd wedi eu gadael, y mae Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn delio gyda hwy.
Gall yr Awdurdod ddelio gydag unrhyw gerbyd wedi ei adael yn yr awyr agored. Os yw wedi ei barcio ar dir preifat, mae angen cael caniatâd y tirfeddiannwr cyn ei symud.
Os yw cerbyd yn achosi rhwystr ar y briffordd, neu os credir ei fod wedi ei ddwyn neu wedi ei ddefnyddio wrth gyflawni trosedd, yna dylech adrodd am y mater i'r Heddlu.
Mae cerbyd wedi ei adael yn un sydd wedi ei adael gan y perchennog heb unrhyw fwriad o ddychwelyd. Ni ddylid adrodd am gerbyd fel un sydd wedi ei adael oherwydd:
NI DDYLID ADRODD BOD CERBYD WEDI EI ADAEL FEL FFORDD O DDATRYS ANGHYDFOD RHWNG CYMDOGION
Medrwch gysylltu gyda'r Adran Gwasanaethau Amgylcheddol i adrodd am gerbyd wedi ei adael - medrwch wneud hyn trwy gwblhau ffurflen adrodd ar lein, neu trwy ffonio 01978 292044, neu e-bost: environmental@wrexham.gov.uk. Gofynnir i chi roddi'r manylion canlynol er mwyn i ni weithredu ar eich cwyn:
Ffôn: 01978 292044
Ebost: environmental@wrexham.gov.uk
Cwblhau'r ffurflen ymholiad cyffredinol ar lein
Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?