Cymdeithas Rhandiroedd A Garddwyr Hamdden

Croeso i’r tymor newydd!

Cymdeithas Garddwyr Rhandir a Hamdden yn Gweithio Mewn Partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol.

2009 Ac Yn Ysu Am Fynd!

Yn 2008 daliodd llwyddiannau’r blynyddoedd blaenorol ac rwy’n rhestru isod dim ond rhai o’n llwyddiannau yn ystod 2008.

Byddwn yn agor siop lôn price eto ar gyfer tymor 2009 ar 7fed Chwefror o 10am tan 12 hanner dydd. Cofiwch alw heibio i weld beth sy’n cael ei gynnig.

Yn ystod 2008 roedd ein siop yn Lôn Price yn atyniad go iawn i bob math o arddwyr, boed yn ddeiliaid rhandir, garddwyr preifat, ifanc, hen, arbenigwyr neu ddechreuwyr, daeth pawb a phrynu llawer iawn gennym a gwneud 2008 yn fwy llwyddiannus na 2007.

Rydym ni yn y siop yn gwybod y bydd 2009 yn amser anodd i bawb ond, gyda’n prisiau a’n gwasanaeth, rydym yn dal yn gystadleuol iawn. Felly galwch heibio i weld.

Fyddwn ni ddim yn rhoi rhestr brisiau ar y wefan eleni ond os ydych angen gwybodaeth benodol yna cofiwch alw heibio Siop Randir Lôn Price neu e-bostio marvellousgardens@btinternet.com

Oriau Agor Siop

Mae‘r siop wedi ei lleoli ar safle Rhandir Lôn Price, Lôn Price, Wrecsam.

  • Chwefror – Hydref – Bob Dydd Sadwrn 10.00am – 12 Canol Dydd
  • Ebrill – Gorffennaf – Pob Nos Fercher 6.00pm – 7.00pm

Ein Llwyddiannau Yn 2008

Y Sioe Flynyddol

cynhaliwyd sioe wych yn Neuadd St Margaret unwaith eto gyda Don Owen yn gwneud gwaith ardderchog eto fel ein beirniad proffesiynol a Gillian a Barbara o Undeb Mamau St Margaret yn beirniadu ein hadrannau newydd siytni a jam. Yn y sioe cyhoeddwyd enillwyr Cystadleuaeth y Rhandir Gorau a gynhaliwyd am y tro cyntaf gan y Gymdeithas ar y cyd â’r Cyngor. Codwyd £100 ar y noswaith a rannwyd rhwng Tŷ Gobaith a Hosbis Tŷ’r Eos.

Diwrnod Cenedlaethol Y Cynllun Gerddi

Am y tro cyntaf agorodd Lôn Price ei adwyau ar 12fed Gorffennaf. Ni welais erioed y safle’n edrych mor ogoneddus ac roedd yn glod i holl ddeiliaid lleiniau, gwirfoddolwyr, Undeb Mamau St Margaret, staff Ysgol Gynradd Rhosddu a staff y Cyngor am wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. 

Wrecsam Yn Ei Blodau – Gwobr Haen Arian 2008

Yn yr ail flwyddyn gwelwyd Wrecsam yn mynd un yn well nag yn 2007 a dyfarnwyd haen arian i’r dref - rhyfeddol - gyda rhai sylwadau cadarnhaol iawn gan ddau feirniad y RHS. Diwrnod y beirniadu oedd un o’r diwrnodau poethaf yn Wrecsam ac, wrth deithio i lawr i gyfarfod y beirniaid yn gynnar yn y bore, roeddwn yn teimlo’n falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd gennym. Cychwynnodd y daith eleni yn yr Orsedd ac aeth drwy Gresffordd i ganol y dref ac yna o gwmpas parc adwerthu Homebase, lle’r oedd y ddwy gylchfan newydd eu plannu i’w gweld, ac yna’n ôl i Barc Gwledig Dyfroedd Alun. Mae RHS Prydain Yn Ei Blodau’n fwy na dim ond blodau, gyda’r beirniaid yn edrych ar gyfranogiad grwpiau cymunedol, ysgolion, ieuenctid, ymdrechion ailgylchu, ysbwriel ac ati. Roedd Rhandiroedd Lôn Price ar y llwybr eleni ac roedd y beirniaid yn falch iawn o weld sut oeddem yn gweithio ein lleiniau gyda’r dewis enfawr o lysiau a ffrwythau ac, wrth gwrs, nifer cynyddol y bobl sy’n cadw cywion. Gyda chymorth plannodd Ysgol Fabanod Victoria'r ddau wely blodau wrth Neuadd y Dref gyda thema felys a sur yn defnyddio plannu bythol a byddwn yn dal i’w helpu gyda’u cyfrifoldeb dros sicrhau eu bod yn edrych yn dda am beth amser i ddod.

2008 - Arian A Godwyd I Elusennau

Fel elusen gofrestredig ein hunain teimlwn yn falch iawn o’n llwyddiannau yn 2008 a chodwyd cyfanswm o bron i £600 i Dŷ Gobaith, Hosbis Tŷ’r Eos ac Elusennau Cancr y Llyfr Melyn. 

Pa Gynlluniau Ar Gyfer 2009?

  • Siop Lôn Price ar agor 7fed Chwefror – 10am – 12 hanner dydd ac yna bob bore Sadwrn tan ddiwedd mis Hydref.
  • Diwrnod cenedlaethol y cynllun gerddi – rhandiroedd Lôn Price
  • Cymryd rhan yn wrecsam yn ei blodau
  • Sioe Flynyddol
  • Dal i godi arian i elusennau lleol
  • Dal i ymwneud â grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol

Dal i weithio’n agos gyda chyngor wrecsam i sicrhau llwyddiant pedwar safle rhandiroedd y cyngor.

Beth Sydd Ar Werth Yn Y Siop Yn 2009!

  • Byddwn yn dal i gadw dewis rhagorol o gynhyrchion prin o fawn a di-fawn. Mae angen i ni fod yn chwilio mwy a mwy am gynhyrchion sy’n fwy cynaliadwy ac mae’r cynhyrchion hyn yn edrych fel yr ateb. Fel garddwyr mae angen i ni fod ar y blaen wrth warchod ein byd rhyfeddol ac mae siop y rhandir yn gweithio’n galed iawn i fynd i’r cyfeiriad hwn. 
  • Byddwn yn dal i werthu ein dewisiadau llwyddiannus eraill o gompost a gwrteithiau gan gynnwys compost grugaidd sy’n ddelfrydol i’r planhigion hynny sy’n hoffi asid fel acers, magnolias, grugoedd a llus wrth gwrs.
  • Mae gennym ddewis gwych o datws had sy’n dod o’r un lle ag y daethant yn 2008.  Roeddent o ansawdd arbennig am bris anhygoel a bydd hyn yn parhau yn 2009. £1.20 Y KILOGRAM YW EIN TATWS - BETH BYNNAG Y MATH.
  • Rhinwedd arall y siop yw y gallwch brynu potash, neu wrtaith tatws a llawer mwy fesul kilogram yn lle gorfod prynu sach anferth sy’n tueddu i ddihoeni yn y cwt a mynd yn galed. Bydd ein gwirfoddolwyr ardderchog yn pwyso faint bynnag a fynnoch. Gallwch brynu cnu, a swigod pacio fesul metr hefyd. 
  • Gall unrhyw un ddod yn aelod o’r SIOP a’r gymdeithas trwy dalu tâl aelodaeth bychan o £3.00. 

Felly, os nad ydych wedi ymweld â’r siop eisoes, galwch heibio i ddweud helo. Gwir fantais ein SIOP yw y byddwch yn cael eich gwasanaethu gan arddwyr go iawn sy’n gwybod i’r dim am beth maent yn sôn ac a fydd yn barod iawn i rannu eu byd o brofiad. Y garddwyr gwybodus hyn sydd wedi dewis y cynnyrch sydd ar werth ac, felly, a oes angen argyhoeddi mwy arnoch?

Hwyl ar y tyfu …

yn ôl i'r brig