Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cwn yn Baeddu

 

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y problemau o gwn yn baeddu.

Cwn yn Baeddu

 

Risgiau Iechyd

Cyfrifoldeb

 

Glanhau

Deddfwriaeth

   

Gweler hefyd: cwestiynau a ofynnir yn aml am gwn>>


Cwn yn Baeddu

Yn ôl arolygon diweddar, y gwastraff sy’n cael ei adael gan gwn yw’r pryder amgylcheddol mwyaf sydd gan bobl am eu hardal leol. Mae’r mwyafrif helaeth (95% o’r rhai a holwyd) yn credu bod gwastraff ci yn annerbynniol. Tybir bod pedair miliwn a hanner o berchnogion cwn yn caniatáu i’w hanifeiliaid faeddu a chynhyrchir 1000 tunnell o wastraff ci bob dydd yn y DU, mae’n amlwg bod angen codi ymwybyddiaeth a rhoi stop ar y broblem.

Adrodd am broblem sy’n perthyn i gwn >>

Risgiau Iechyd

Mae gwastraff ci yn annymunol iawn ond, yn fwy na hynny, mae’n fagwrfa berffaith i facteria (Campylobacter a Salmonella) a heintiau eraill. Y mwyaf niweidiol o’r rhain yw’r llyngeren, toxocara canis. Mae wyau’r paraseit yn bresennol yn y rhan fwyaf o wastraff ci ac, er nad yw’n heintus i ddechrau, unwaith i’r wyau agor, maent yn risg iechyd ddifrifol i unrhyw unigolyn sy’n ddigon anffodus i lyncu pridd wedi ei heintu. Mae effeithiau Toxocariasis yn amrywio o symptomau sy’n debyg i’r ffliw sy’n cael eu hanwybyddu’n aml i ffurf fwy peryglus sy’n effeithio ar y llygaid ac sy’n gallu arwain at ddallineb parhaus. Gallwch gyfyngu’r risgiau hyn drwy olchi eich dwylo ar ôl cyffwrdd ag unrhyw bridd a sicrhau bod cwn yn cael powdwr i gael gwared ar lyngyr yn rheolaidd, yn enwedig cwn bach a giastiau sy’n rhoi llaeth.

Adrodd am broblem sy’n perthyn i gwn >>

^ yn ôl i'r brig

Responsibility

Dylai pob perchennog ci wybod ei fod yn ofynnol gyfreithiol iddynt lanhau unrhyw wastraff sy’n cael ei adael gan eu ci. Y ffordd symlaf o reoli gwastraff ci yw hyfforddi’r ci i fynd gartref. Mae’n well hyfforddi cwn ifainc ond gallwch hyfforddi ci o unrhyw oed. Fel perchennog cyfrifol, ni ddylech adael i’ch ci fynd allan ar ei ben ei hun gan nad yw bod yn anwybodol o’ch ci’n baeddu yn amddiffyniad. Mae hefyd yn bosibl y gallai wardeiniaid cwn y Cyngor afael yn eich ci. Am wybodaeth bellach, ewch i’n cwestiynau a ofynnir yn aml.

Glanhau

Pan fyddwch allan gyda’ch ci, dylech fod yn barod i lanhau os yw eich ci’n baeddu. Mae’n hawdd cario bagiau i ddal gwastraff ci ac maent ar gael o’r rhan fwyaf o siopau anifeiliaid anwes a milfeddygon. Gallwch ailddefnyddio bagiau plastig hefyd. Gallwch gael gwared ar wastraff ci sydd wedi ei lapio fel hyn mewn unrhyw fin sbwriel arferol neu fin gwastraff coch. Os nad oes biniau ar gael, dylech fynd â’r gwastraff adref gyda chi a’i roi gyda’ch gwastraff arferol.

Adrodd am broblem sy’n perthyn i gwn >>

^ yn ôl i'r brig

Deddfwriaeth

Mae Deddf Cwn (Baeddu Tir) 1996 yn galluogi awdurdodau i bennu tir y mae’n drosedd caniatáu i gi faeddu arno. Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae hyn yn golygu unrhyw dir sy’n agored i’r awyr ar o leiaf un ochr y mae gan y cyhoedd fynediad iddo â thâl neu heb dâl. Yn ymarferol, mae’n cynnwys mannau fel parciau, mannau â phalmant, tir hamdden, llochesi bws a bron i bob darn o dir agored o unrhyw fath. Mae yna rai eithriadau, sef:

  • Tir sy’n gorsdir, yn rhostir neu’n waun yn bennaf a thir comin gwledig

  • Tir a ddefnyddir ar gyfer coetir neu amaethyddiaeth masnachol

  • Tir ger ffordd â chyfyngiad cyflymdra o 40 mya neu fwy

Os yw ci’n baeddu ar y tir hwn ac y mae’n unigolyn sy’n gyfrifol amdano’n methu â chael gwared arno ar unwaith, bydd yr unigolyn hwnnw’n euog o drosedd oni bai bod

  • yr unigolyn sy’n gyfrifol am y ci wedi ei gofrestru’n ddall

  • y perchennog neu’r unigolyn sy’n rheoli’r tir wedi caniatáu i’r ci faeddu ar y tir

  • yr unigolyn sy’n gyfrifol am y ci yn symud y gwastraff trwy ei roi wedi ei lapio’n briodol mewn bin sbwriel neu fin gwastraff ci

  • yr unigolyn sy’n gyfrifol am y ci ag esgus resymol dros beidio â’i bigo i fyny

Clywir y datganiadau canlynol yn aml pan fo unigolion yn cael eu dal yn gadael i’w cwn faeddu. Fe’u cynhwysir fel enghreifftiau o’r rhesymau NAD ydynt yn esgusodion rhesymol:

“Dwi’n ei bigo i fyny fel arfer ond does ddim bagiau gen i heddiw”

“Mae fy magiau yn fy siaced arall”

“Dwi ddim wedi gweld unrhyw arwyddion gerllaw”

“Dyw e ddim ar y llwybr felly dyw e ddim yn niwsans”

“Sdim bin gerllaw”

“Welais i ddim y ci yn ei wneud, roedd yn rhy bell i ffwrdd”

“Ni allwch chi ddisgwyl i gi ddarllen yr arwyddion (!)”

“Nid fy nghi i yw hi, dwi jyst yn edrych ar ei hôl hi.”

Nid yw’r rhestr uchod yn derfynol o bell ffordd ond mae’n nodweddiadol o’r rhesymau a roddir gan bobl sy’n cael eu dal yn caniatáu i’w cwn faeddu. Nid ydynt yn ‘esgusodion rhesymol’. Am fwy o wybodaeth, darllenwch y cwestiynau a ofynnir yn aml.

Gall unigolyn sy’n gyfrifol am gi gael ei erlyn a wynebu dirwy hyd at £1,000. Mewn sawl achos, mae’r unigolyn yn cael dewis o dalu cosb sefydlog, sy’n £75 ar hyn o bryd, sy’n ei ryddhau rhag unrhyw atebolrwydd pellach.

Gweler hefyd: www.defra.gov.uk

Adrodd am broblem sy’n perthyn i gwn >>

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Lleol Eraill
Rhifau Argyfwng / Defnyddiol
Cyfleusterau Ar Lein
Ymateb
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint