Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y problemau o ganlyniad i daflu sbwriel.
Yn ôl arolygon diweddar, mae sbwriel yn ein cymdogaeth yn fater o bryder mawr. (www.encams.org). Tra bod yr elfen annifyr a geir gan ardal wedi ei difwyno gan sbwriel yn ddigon o reswm i leihau’r gwastraff sy’n cael ei daflu’n ddiangen, mae problemau mwy difrifol eraill yn cael eu creu gan sbwriel.

Mae llawer o eitemau’n gallu bod yn beryglus iawn i fywyd gwyllt (www.rspca.org.uk). Mae rhai enghreifftiau cyffredin yn cynnwys bagiau plastig, papur lapio a chynhwyswyr eraill a all ddal sawl anifail, gwydr sy’n gallu anafu’n ddifrifol a chaniau aliminiwm sy’n dal ac anafu bywyd gwyllt. Mae sawl peth arall y byddech yn eu hystyried yn ddibwys i ddechrau. Mae pobl yn credu nad yw pethau fel ffrwythau neu fara’n beryglus i fywyd gwyllt ond mae’r math hwn o fwyd yn gallu peryglu iechyd anifeiliaid nad ydynt yn gyfarwydd â’r sylwedddau sydd ynddynt.
Pryder arall sy’n ymwneud â thaflu sbwriel yw’r cynnydd ym mhoblogaeth llygod mawr. Gwelodd arolwg diweddar fod y boblogaeth llygod mawr ym Mhrydain wedi cynyddu 24% rhwng 1998-2000 ac mae nawr oddeutu 60,000 miliwn. Credir bod hyn yn rhannol oherwydd cynnydd yn y sbwriel bwyd y gellir ei weld ar strydoedd ein trefi.
Pryder arall yw’r hyn sy’n digwydd unwaith iddo gael ei daflu. Mae cynnyrch gwneuthuredig yn cymryd amser hir iawn i dorri i lawr yn yr amgylchedd naturiol. Bydd unrhyw beth rydym yn ei daflu i’r amgylchedd nawr yno am amser hir iawn. Dyma pam y dylem gael gwared ar ein gwastraff yn gyfrifol ac ystyried pa un a ellir ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio fel nad yw’n dod yn wastraff yn y lle cyntaf.

Mae sbwriel yn ein hamgylchedd yn difwyno apêl weledol ardal ac mae’n gwneud i ardal edrych yn flêr ac yn frwnt. Mae rhai’n canfod hefyd os oes sbwriel mewn ardal, nid oes pwrpas cael gwared ar sbwriel yn gyfrifol – hynny yw, mae ychydig bach o sbwriel yn creu llawer mwy!
Dyma
rywbeth i chi ei ystyried. Mae’r holl sbwriel rydym yn ei weld o’n
cwmpas yno oherwydd esgeulustod, diogi neu agwedd anghyfrifol rhywun.
Pe bai pawb yn barod i roi eu sbwriel mewn bin neu fynd ag ef adref gyda
nhw, ni fyddai sbwriel o’n cwmpas. Mae mor syml â hynny!