|
Mae'r
dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar wasanaeth Casglu Sbwriel Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Cymunedol.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddyletswydd, dan Ran IV Deddf
Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, i gadw darnau o dir yn ei reolaeth yn glir
rhag sbwriel a gwastraff.
Mae'r awdurdod lleol yn 'Gorff Dyletswydd'. 'Cyrff Dyletswydd' eraill
gyda chyfrifoldeb am sbwriel a gwastraff ar dir dan eu rheolaeth yw ysgolion,
colegau, prifysgolion, ysbytai ac awdurdodau rheilffordd. Mae'r Cyngor
yn glynu at y safonau glendid strydoedd yn y Côd Ymarfer ar Sbwriel
a Gwastraff.
Mae ardaloedd y Fwrdeistref Sirol wedi eu rhannu yn barthau yn ôl
eu defnydd. Parth 1 yw canol y dref, Parth 3 yw'r ardaloedd preswyl llai
dwys tra bo Parth 7 yn cynnwys ffyrdd dosbarth a gwledig.
Mae sbwriel yn hel yn y gwahanol barthau dros amrywiol gyfnodau amser.
Mae glendid ardal yn cael ei asesu trwy gymharu gyda safon. Y safonau
yw Gradd A - rhydd rhag sbwriel, Gradd B - rhai eitemau gychain, Gradd
C - mwy o sbwriel gyda rhai twmpathau bychain a Gradd D - llawer o sbwriel
gyda thwmpathau mawrion.
Caniateir amser gwahanol i lanhau'r ardaloedd a'u dychwelyd i'r safon
briodol. Y syniad yn y Côd yw pa mor lân yw ardal ac nid pa
mor aml y caiff ei glanhau.
Mae'r safonau glendid yn cael eu monitro yn rheolaidd trwy samplo strydoedd
ar hap yn y Fwrdeistref Sirol. Cadarnhaodd archwiliad annibynnol a ymgymerwyd
yn yr hydref 2001 bod y Cyngor yn cynnal safon uchel o lendid strydoedd.
Os yw ardal yn syrthio islaw'r safon ofynnol, mae gan aelodau'r cyhoedd
yr hawl i gwyno'n ffurfiol ac os na chaiff y broblem ei datrys, medrent
gymryd camau cyfreithiol.
Mae gan awdurdodau lleol nifer o hawliau i'w helpu i ddelio gyda sbwriel.
^ yn ôl i'r brig
Rhybuddion Cosbau Sefydlog
Gall cynghorau benodi swyddogion i gyhoeddi rhybuddion cosbau sefydlog i bobl sy’n cael eu dal yn taflu sbwriel. Mae gan dramgwyddwr 14 diwrnod i dalu’r gosb sefydlog o £75. Bydd methiant i dalu’r ddirwy’n arwain at fynd â’r achos i’r llys a mwyafswm dirwy o £2,500 os euogfarnir y tramgwyddwr.
Ardaloedd Rheoli Sbwriel
Gall awdurdod lleol ddynodi ardal o dir preifat lle caniateir mynediad
i'r cyhoedd yn "ardal rheoli sbwriel". Mae gan ddeiliad y tir
wedyn ddyletswydd i gadw'r ardal yn rhydd rhag sbwriel a gwastraff.
Rhybudd Atal Sbwriel
Gellir cyflwyno Rhybudd Atal Sbwriel i unrhyw un sydd â dyletswydd
i gadw tir yn rhydd rhag sbwriel. Mae'r rhybudd yn gofyn i'r deiliad lanhau'r
tir o fewn cyfnod penodol. Byddai methu gwneud hynny yn arwain at ddirwy
a thâl gormodol am bob diwrnod y mae'r sbwriel yn aros ar y tir.
^ yn ôl i'r brig
Rhybuddion Rheoli Sbwriel ar y Stryd
Gall awdurdod lleol gyflwyno rhybuddion rheoli sbwriel ar y stryd i berchennog
neu ddeiliad rhai busnesau os yw'r ardal o gwmpas yr eiddo yn flêr.
Mae'r rhybudd yn eu gwneud yn gyfrifol am gadw'r ardal yn rhydd rhag sbwriel.
Ar ôl cyflwyno rhybudd, gall awdurdodau lleol gasglu trolis siopio
yn yr ardal a chodi tâl ar y perchennog am gael eu dychwelyd.
Mae gwastraff yn cynnwys baw cwn. Gall awdurdodau gyflwyno "is-ddeddfau"
sy'n gwneud perchnogion cwn yn gyfrifol am lanhau baw eu ci. Gellir pennu
dirwy yn-y-fan-a'r-lle o £75 ar droseddwyr.
Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae'r brif ymdrech yn cael ei chanolbwyntio
ar ganol y dref lle mae'r nifer fwyaf o bobl yn gweithio a siopa. Mae
angen llai o ymdrech i gadw ardaloedd mwy pellennig yn lân. Mae
profiad wedi dangos bod mannau penodol ledled yr ardal sydd angen sylw
ychwanegol i'w cadw'n glir rhag sbwriel. Yn ychwanegol at y sgubwr strydoedd
gyda'r ferfa, mae'r cyngor yn defnyddio glanhawyr sugno ac amrywiaeth
o sgubwyr mecanyddol mawr a bach.
Peidiwch â gollwng sbwriel os gwelwch yn dda; os nad oes bin yn
gyfleus ewch â'ch sbwriel gartref gyda chi a'i ddodi yn eich bin
sbwriel os na fedrwch ei ailgylchu.
^ yn ôl i'r brig
Gwybodaeth gyswllt bellach:
Sbwriel a Bywyd Gwyllt >>
Ffôn: 01978 292044
Ebost: wastemanagement@wrexham.gov.uk
Cwblhau'r ffurflen ymholiad
cyffredinol
Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Blwch SP 1297
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE
|