Ar ôl gwneud cynnig llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ailagorwyd Parc y Ponciau’n swyddogol ar ôl gwaith ailwampio helaeth ym mis Mehefin 2009.
Roedd y gwaith ailwampio’n cynnwys:
Gwelliannau i’r ardal fowlio grîn gefngromOs oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am y Parc, ffoniwch Swyddog y Parc ar 01978 844028.
CyfarwyddiadauMae’r Parc yn Rhosllannerchrugog.
Bysiau: 3 Arriva.
Mewn Car: Troi oddi ar yr A483 ar hyd y B5605 i’r Rhos. Troi i’r dde wrth y goleuadau traffig, i fyny Allt y Gwter a Stryt yr Allt. Troi i’r dde ar Stryt y Frenhines wrth y deliwr ceir i Stryt Lydan. Troi i’r dde i Stryt Pedr a’r ail i’r dde ar Stryt y Bedyddwyr. Bydd hyn yn mynd â chi i ben uchaf y Parc. Ewch i mewn i’r Parc i barcio yn y maes parcio uchaf. Mae maes parcio isaf hefyd oddi ar Lôn yr Ysgol / Stryt Clarke.
Bowlio Grîn GefngromMae dwy grîn gefngrom ar y safle. Bydd Clwb Bowlio Parc y Ponciau’n chwarae’n rheolaidd ar y griniau.
Yn ystod y tymor, bydd y tîm yn cystadlu bob yn ail brynhawn dydd Mawrth, er eu bod hefyd yn cyfarfod ar rai prynhawniau Mercher a rhai nosweithiau eraill yn yr wythnos.
Yn 2009, gwnaeth y Clwb gais llwyddiannus i Gronfa’r Gist Gymunedol am ‘offer ar fenthyg’ i’w ddefnyddio gan y gymuned.
Mae’r Clwb yn croesawu holl fowlwyr, yn ddechreuwr, canolradd neu brofiadol.
Ffoniwch Swyddog y Parc i gael rhagor o fanylion ar 01978 844028.
Cyrtiau ChwaraeonMae dau gwrt chwaraeon ym Mharc y Ponciau. Un yn neilltuol ar gyfer tennis, a’r ail wedi’i farcio ar gyfer tennis a phêl-fasged.
Bydd grŵp cerdded yn cychwyn o Barc y Ponciau bob yn ail fore Llun am 10.00am.
Bydd yn cyfarfod wrth adwyau’r Clwb Bowlio (oddi ar Stryt y Bedyddwyr) am 9.45am. Mae arweinwyr profiadol yn arwain y teithiau. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau priodol. Fel arfer bydd y teithiau’n para am 1-2 awr.
Man Chwarae PlantLluniwyd y man chwarae ar gyfer plantos a grŵp oedran iau, ac mae ffens o’i gwmpas i gadw cŵn allan.
Mae’r ardal yn cynnwys siglenni plantos ac iau, trogylch, sbringiau symudol, fframiau dringo, bar troi a sleidiau.
Mae’r cylch meini hirion yn coffáu defnyddio’r Parc i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol.
