


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn awyddus i helpu i leihau'r 8 miliwn o glytiau tafladwy sy'n cael eu claddu mewn safleoedd claddu sbwriel bob dydd yn y DU. Mae'r Cyngor yn y broses o gychwyn ar ymgyrch ymwybyddiaeth o glytiau go iawn i'w darparu ledled Wrecsam.
Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod clytiau ailddefnyddiadwy wedi datblygu tipyn ers amser clytiau terri a phinnau cau. Mae ystod helaeth o glytiau cotwm a leinyn ar gael erbyn hyn yn dibynnu ar oedran a maint eich baban, o'r baban cyn pryd i blant bach prysur.
Mae pob math o glytiau ar gael yn ogystal â'r clytiau terri traddodiadol, yn dibynnu ar anghenion penodol rhieni a'r amser sydd ganddynt.
Mae'r clytiau soffistigedig hyn yn cael eu dal mewn lle gan Velcro, stydiau gwasgu, clymiau neu gydiad tair ffordd o'r enw Nappi Nippa, yn lle'r pin cau traddodiadol. Gallwch gael clytiau gwyn, rhai â lluniau pert ac hyd yn oed rhai â phrint croen llewpard. Mae gan lawer o'r clytiau gwrth-ddwr gotwm ar y tu mewn i greu clwt cyfforddus. Y leinyn pydradwy yw'r unig ddarn sy'n cael ei daflu i ffwrdd. Byddech yn rhoi'r leinyn tu mewn i'r clwt ac yn ei daflu i lawr y toiled unwaith i'r clwt gael ei drochi. Fodd bynnag, ar gyfer y rhai ohonoch sy'n awyddus iawn, gallwch brynu leinyn golchadwy er mwyn gostwng eich gwastraff ymhellach.
Nid yw rhieni'n sylweddoli y gallent arbed rhyw £500 os ydynt yn penderfynu i ddefnyddio clytiau go iawn yn lle clytiau tafladwy ac mae'r arbediadau'n cynyddu wrth i chi gael mwy o blant.
Mae Cewynnau Go Iawn yn Giwt, yn Gÿl ac yn Gyfforddus - pam dewis unrhyw beth arall?
Mae mwy a mwy o rieni yn newid i gewynnau go iawn wrth iddyn nhw sylweddoli nid yn unig eu bod nhw'n medru haneru gwastraff eu teulu ond hefyd eu bod nhw'n medru arbed cannoedd o bunnoedd yn y broses!
Mae yna syniad ar led bod cewynnau go iawn yn 'waith caled' ond does dim rhaid bod felly. Gyda chynlluniau modern heddiw, peiriannau golchi a defnyddio leiners y medrwch chi eu fflysio, fuodd hi erioed yn haws defnyddio cewynnau go iawn. Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu ffasno gyda Felcro neu bopwyr ac mae modd eu golchi nhw ochr yn ochr â dillad eich babi neu, o'u cadw ar wahân, ar 60°C (ddwywaith yr wythnos ar gyfartaledd). Does dim angen socian neu olchi trwy ferwi.
Fod pob babi yn cynhyrchu tua 5,000 o gewynnau mewn cyfnod o 2½ flynedd. Mae hyn yn cyfateb i 156 o fagiau du ac yn pwyso'r un faint â char teulu canolig - ac yn costio rhwng £700 - £1,300 i'r rhieni.
Amcangyfrifir bod 200 miliwn o gewynnau tafladwy yn cael eu taflu i ffwrdd bob blwyddyn yng Nghymru. Golyga hyn fod 38,000 tunnell fetrig o wastraff dianghenraid yn mynd i safleoedd tirlenwi - gan gostio tua £2 filiwn i drethdalwyr Cymru eu gwaredu - ac mae'r ffigur yna ar fin codi hefyd.
Unwaith mae'n cyrraedd safle tirlenwi, bydd cewyn tafladwy yn cymryd tua 300 mlynedd i ddadelfennu, mae'r mwydion papur sy'n pydru yn cynhyrchu methan sy'n nwy tÿ gwydr cryfach na Co2.
Yn costio tua £1 yr wythnos i'w golchi gartref - llai os ydych yn defnyddio peiriannau golchi sy'n arbed ynni ac yn eu sychu ar lein.
Dydyn nhw ddim yn achosi brech cewyn nag yn defnyddio cemegau a all orsychu croen babi.
Yn dda i ymddaliad y babi - trwy gadw'r cluniau ar wahân ar y pellter iawn.
Yn annog babi i gael hyfforddiant poti'n gynt - trwy wneud y cysylltiad rhwng plentyn yn gwagio ei bledren a theimlo'n wlyb.
Bundle of Joy. 36 - 39 Ffordd Caer, Wrecsam. LL13 8AH. Ffôn 01978 313778.
Mae Cotton Tails yn darparu gwasanaeth golchi cewynnau sy'n cynnwys ardal Wrecsam. Byddan nhw'n dod â chyflenwad wythnosol o gewynnau i chi ac unwaith yr wythnos byddan nhw'n dod â chewynnau glân i chi ac yn mynd â'ch cewynnau budr. Mae'r cewynnau a ddarperir yn rhai plyg-parod ac wedi'u cynllunio i ffitio'n dwt y tu fewn i orchudd gwrth-ddŵr allanol. Ar ben hynny, maen nhw'n darparu nifer o frandiau o orchuddion cewynnau wedi'u dewis i roi'r ansawdd, gwydnwch a'r gwerth gorau. Mae modd ffasno pob gorchudd gyda Felcro neu bopwyr.
Mae cewynnau Cotton Tails yn cael eu golchi ar 95°C fel eu bod yn cael eu diheintio'n thermol yn drylwyr. Mae'r broses gyfan gan gynnwys eu rinsio deirgwaith ar y diwedd yn sicrhau nad oes unrhyw gemegau garw ochr yn ochr â chroen eich babi. Mae'r gost yn dechrau o tua £9.25 yr wythnos.
Hefyd, mae Cotton Tails yn cynnig Cit Prawf Golchi Cartref. Am un tâl o £25 (£30 o flaendal ad-daladwy) gallwch ddewis hyd at 21 cewyn a 7 gorchudd allanol i'w defnyddio a'u golchi eich hunan yn eich cartref eich hunan am bythefnos. Does dim rhaid prynu cewynnau ar ôl eu profi ond maen nhw'n cynnig cludiant am ddim gyda phob archeb o fewn eu hardal golchi nhw.
Am fwy o fanylion am naill ai'r gwasanaeth golchi neu'r citiau prawf, ffoniwch 01244 374521 neu ewch i www.cottontails.co.uk.
Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Does dim rhaid i chi gynilo gyda'r undeb credyd cyn gwneud cais am fenthyciad ond mae rhaid i chi gwblhau ffurflen gais a rhoi dogfennau ychwanegol yn rhoi manylion eich incwm a'ch gwariant.
Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.34 yr wythnos. Cyfradd o 2% a dim trefniant na ffioedd setliad cynnar.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei roi gyda phob benthyciad (gydag amodau).
Gallwch ad-dalu eich benthyciad trwy archeb sefydlog, trwy eich cyflogres gyda rhai cyflogwyr (fel Cyngor Wrecsam) neu gyda'ch cerdyn aelodaeth yn Swyddfeydd Cyllid ac Ystadau'r Cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyf, 1 Arcade Gogledd, Stryd Chester, Wrecsam, LL13 8BB. 01978 266843 neu ymweled a www.wrexhamcu.co.uk
Ymgyrch Cewynnau Go Iawn Cymru
Mae'r Ymgyrch Cewynnau Go Iawn yn hyrwyddo'r defnydd o gewynnau golchadwy ar draws Gymru ac yn darparu cyngor amhliediol ar gyfer ydewis a defnyddio cewynnau go iawn.
Cysylltwch â Strydoedd o FriCewch chi ragor o wybodaeth am ddefnyddio a phrynu cewynnau trwy ffonio Strydoedd o Fri 01978 298989 cysylltwch@wrexham.gov.uk
Am wybodaeth a chyngor cyffredinol ynglŷn â defnyddio cewynnau go iawn, ewch i www.realnappies-wales.org.uk neu ffoniwch 0845 4562477.