Ailgylchu yn Wrecsam

Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion y gwasanaethau ailgylchu a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ar gyfartaledd, mae pob cartref yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynhyrchu mwy na thunnell o wastraff bob blwyddyn.

Mae lleihau gwastraff a gwneud ymdrech i ailgylchu yn bwysig, oherwydd ei fod yn rhwystro deunyddiau rhag mynd i safleoedd tirlenwi, yn lleihau llygredd ac yn arbed adnoddau naturiol ac ynni.


Mae caniau alwminiwm yn esiampl - mae ailgylchu caniau yn defnyddio dim ond 5% o'r ynni a gymer i gynhyrchu caniau o ddefnyddiau amrwd.

Dyma beth fedrwch chi ei wneud:

  • Lleihau faint o wastraff sydd angen ei waredu - prynwch nwyddau gyda llai o becynnu a dechrau gwrteithio eich gwastraff gardd a chegin.

  • Ail-ddefnyddio pethau - megis poteli, bagiau plastig a chynwysyddion plastig.

  • Ailgylchu pethau - defnyddiwch eich cyfleusterau ailgylchu lleol.

  • Trwsio pethau - peidiwch â phrynu pethau newydd bob amser - yn aml mae modd eu trwsio.

Cyswllt i gyngor pellach ar ailgylchu

Cyswllt i gynllun peilot 'Ailgylchu gyda Michael'

Cyswyllt i Clytiau Go-Iawn

Cyswllt i restr o Safleoedd Ailgylchu yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyswllt i wybodaeth ar wastraff

Cyswllt i Beth sydd yn eich bin sbwriel?

^ yn ôl i'r brig


Gwybodaeth Gyswllt

Ffôn: 01978 298989

Ebost: contact-us@wrexham.gov.uk

Cwlbhau'r ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein

Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig