Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion am Wasanaethau Gwastraff Masnachol a gynigir gan Gyngor Wrecsam.
Mae gan bob busnes ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y caiff wared ar unrhyw wastraff mae'n ei greu yn y ffordd briodol. Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gynnig y gwasanaeth hwn i chi am y rhan fwyaf o wastraff busnes, ond ni all gasglu na chael gwared ar unrhyw wastraff hylifol neu fathau peryglus o wastraff.
Mae pob busnes yn gyfrifol am gyn-drin (ailgylchu) rhywfaint o'r gwastraff mae'n ei greu yn unol â Rheoliad Tirlenwi 2002. Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal adolygiad o'i Wasanaethau Ailgylchu Gwastraff Masnachol i'n galluogi i helpu cwsmeriaid gyda'r cyfrifoldeb hwn.
Nid yw ardrethi busnes yn cynnwys y taliadau hyn gan y gall cwsmeriaid newid maint eu cynhwysyddion i ddiwallu eu hangenion eu hunain yn yr hinsawdd economaidd gyfnewidiol.
Yn gynwysedig yn y taliadau darperir cynhwysyddion angenrheidiol, casgliadau wythnosol, costau gwaredu trethi gwastraff a thirlenwi, holl waith papur contract a dogfennaeth Dyletswydd Gofal.
240 Litr (Anfoneb Flynyddol)
U. 94cm D.74cm W. 61cm
660 Litr (Anfoneb Flynyddol)
U.1m14cm D.79cm W.1m 24cm
1100 Litr (Anfoneb Flynyddol)
U. 1m 32cm D.94cm 1m30cm
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Strydoedd o Fri ar 01978 298989 neu ebostiwch Contact-Us@wrexham.gov.uk.