Dychwelwyd 8,591 o holiaduron erbyn y dyddiad cau o 31 Gorffennaf 2003, gan gynrychioli cyfradd ymateb o 16%.
| Cwestiwn 1 Pa mor fodlon a fuasech chi i wneud y canlynol er mwyn cynyddu faint o sbwriel a ailgylchir neu a ddefnyddir fel compost? |
|
| A fyddech chi'n fodlon gwahanu eich paurau newydd, poteli plastig a thuniau oddi wrth sbwriel arall? | |
| Bodlon iawn | 83.2% |
| Gweddol fodlon | 12.0% |
| Gweddol anfodlon | 1.4% |
| Anfodlon iawn | 2.2% |
| Wedi ei adael yn wag | 1.2% |
| Os oes gennych ardd, a fyddech chi'n fodlon gwahanu sbwriel o'r ardd oddi wrth sbwriel arall? | |
| Bodlon iawn | 77.8% |
| Gweddol fodlon | 10.8% |
| Gweddol anfodlon | 1.3% |
| Anfodlon iawn | 2.2% |
| Wedi ei adael yn wag | 7.9% |
| Cwestiwn 2 A fyddai unrhyw rai o'r gwasanaethau canlynol yn eich annog i gynyddu faint o sbwriel yr ydych yn ei ailgylchu neu'n ei ddefnyddio fel compost? |
|
| Y Cyngor yn casglu sbwriel yr ydych wedi ei wahanu ar gyfer ailgylchu o'ch cartref (er enghraifft papurau newydd, poteli plastig a thuniau) | |
| Byddai | 92.8% |
| Na fyddai | 4.6% |
| Wedi ei adael yn wag | 2.5% |
| Y Cyngor yn casglu sbwriel o'r ardd yr ydych wedi ei wahanu i'w ddefnyddio fel compost o'ch cartref | |
| Byddai | 78.5% |
| Na fyddai | 13.3% |
| Wedi ei adael yn wag | 8.3% |
| Y gallu i brynu bin gompost gan y Cyngor | |
| Byddai | 41.0% |
| Na fyddai | 44.2% |
| Wedi ei adael yn wag | 14.9% |
| Cyfleusterau ailgylchu mewn Canolfannau Gwastraff y Cartref (Safleoedd Amwynderau Dinesig) | |
| Byddai | 61.1% |
| Na fyddai | 26.9% |
| Wedi ei adael yn wag | 12.0% |
| Cyfleusterau ailgylchu (e.e. banciau papur, gwydr neu ddillad) wedi eu lleoli yn agos i'ch cartref | |
| Byddai | 72.3% |
| Na fyddai | 18.3% |
| Wedi ei adael yn wag | 9.4% |
| Gwybodaeth ar faterion gwastraff | |
| Byddai | 56.7% |
| Na fyddai | 27.0% |
| Wedi ei adael yn wag | 16.3% |
| Cwestiwn 3 Petaech yn gwahanu sbwriel sych ar gyfer ailgylchu yn eich cartref, er enghraifft papurau newydd, poteli plastig a thunia, sut fyddai'n well gennych storio'r gwahanol mathau o sbwriel yn barod i'w casglu? |
|
| Sachau plastig | 30.0% |
| Bocsys | 18.0% |
| Biniau sydd ag olwynion | 49.8% |
| Wedi ei adael yn wag | 2.2% |
| Cwestiwn 4 Petaech yn gwahanu sbwriel o'r ardd i'w ddefnyddio fel compost, sut fyddai'n well gennych ei storio? |
|
| Bin gompost cartref | 34.4% |
| Biniau sydd ag olwynion | 59.4% |
| Wedi ei adael yn wag | 6.2% |
| Cwestiwn 5 I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno ag elfennau canlynol strategaeth arfaethedig y Cyngor ar gyfer ymdrin â'n sbwriel? |
|
Ar ôl ailgylchu a defnyddio gymaint o sbwriel â phosibl i wneud compost |
|
| Defnyddio gweddill y sbwriel i gynhyrchu ynni drwy broses triniaeth thermol megis llosgydd gwastraff modern neu system pyrolosis a nwyeiddiad, cyn claddu unrhyw sbwriel. | |
| Cytuno'n llwyr | 43.2% |
| Yn tueddu i gytuno | 25.6% |
| Yn tueddu i anghytuno | 5.5% |
| Anghytuno'n llwyr | 8.8% |
| Ddim yn gwybod | 10.0% |
| Wedi ei adael yn wag | 6.9% |
| Addysg - Dylai'r Cyngor hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch ailgylchu a lleihau gwastraff | |
| Cytuno'n llwyr | 71.9% |
| Yn tueddu i gytuno | 21.2% |
| Yn tueddu i anghytuno | 1.0% |
| Anghytuno'n llwyr | 0.7% |
| Ddim yn gwybod | 1.0% |
| Wedi ei adael yn wag | 4.4% |
| Gwneud compost gartref - Dylai'r Cyngor annog defnydd biniau compost yn y cartref | |
| Cytuno'n llwyr | 45.9% |
| Yn tueddu i gytuno | 31.4% |
| Yn tueddu i anghytuno | 8.6% |
| Anghytuno'n llwyr | 2.2% |
| Ddim yn gwybod | 5.5% |
| Wedi ei adael yn wag | 6.4% |
| Casglu ger y palmant - Dylair Cyngor gasglu'r defnyddiau ailgychadwy yr wyf wedi eu gwahanu o'm cartref | |
| Cytuno'n llwyr | 83.5% |
| Yn tueddu i gytuno | 11.1% |
| Yn tueddu i anghytuno | 1.1% |
| Anghytuno'n llwyr | 1.0% |
| Ddim yn gwybod | 0.6% |
| Wedi ei adael yn wag | 2.7% |
| Casglu gwastraff o'r ardd - Dylai'r Cyngor gasglu'r gwastraff gwyrdd yr wyf wedi ei wahanu i'w ddefnyddio fel compost | |
| Cytuno'n llwyr | 61.3% |
| Yn tueddu i gytuno | 20.5% |
| Yn tueddu i anghytuno | 6.2% |
| Anghytuno'n llwyr | 2.5% |
| Ddim yn gwybod | 1.9% |
| Wedi ei adael yn wag | 7.5% |
| Darpariaeth - Dylai'r Cyngor ddarparu Canolfannau Ailgylchu Cymunedol | |
| Cytuno'n llwyr | 61.6% |
| Yn tueddu i gytuno | 23.8% |
| Yn tueddu i anghytuno | 4.6% |
| Anghytuno'n llwyr | 1.8% |
| Ddim yn gwybod | 2.8% |
| Wedi ei adael yn wag | 5.4% |
| Gwelliannau - Dylai'r Cyngor wella Canolfannau Gwastraff y Cartref (Safleoedd Amwynderau Dinesig) gan gynnwys gwella mynediad, oriau agor ac ystod y sbwriel y gellir ei ailgylchu | |
| Cytuno'n llwyr | 65.0% |
| Yn tueddu i gytuno | 23.9% |
| Yn tueddu i anghytuno | 2.2% |
| Anghytuno'n llwyr | 0.7% |
| Ddim yn gwybod | 2.7% |
| Wedi ei adael yn wag | 5.5% |
Byddai 95% o atebwyr yn fodlon gwahanu deunyddiau sych ailgylchadwy oddi wrth sbwriel arall.
Credai 95% o atebwyr y dylai’r Cyngor gasglu deunyddiau sych ailgylchadwy ger y palmant.
Byddai 93% o breswylwyr yn cynyddu’r hyn y maent yn ei ailgylchu petai’r Cyngor yn casglu deunyddiau ailgylchadwy o’u cartrefi.
Byddai 89% o gartrefi sydd â gardd yn fodlon gwahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth sbwriel arall.
Byddai 92% o breswylwyr yn cynyddu’r hyn y maent yn ei ailgylchu petai’r Cyngor yn casglu sbwriel o’r ardd o’u cartrefi.
Credai 82% y dylai’r Cyngor gynnig casgliad ar gyfer gwastraff o’r ardd.
Cytunodd 77% o gartrefi y dylai’r Cyngor annog defnydd biniau compost yn y cartref.
Petai’r Cyngor yn gwerthu biniau compost ar gyfer y cartref, byddai hyn yn annog 41% o breswylwyr i gynhyrchu mwy o gompost gartref.
Credai 85% y dylai’r Cyngor ddarparu cyfleusterau ailgylchu cymunedol. Dywedodd 72% o atebwyr y byddent yn ailgylchu mwy petai Canolfannau Ailgylchu Cymunedol yn agosach i’w cartrefi.
Cytunodd 93% y dylai’r Cyngor hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch ailgylchu a gwastraff.
Dywedodd 57% y byddai gwybodaeth ar faterion gwastraff yn eu hannog i ailgylchu mwy.
O ran y cwestiwn ynghylch y cynhwysyddion y byddai’n well gan atebwyr eu defnyddio ar gyfer casglu deunyddiau ailgylchadwy, dengys y canlyniadau bod preswylwyr yn glir o blaid biniau sydd ag olwynion ar gyfer deunyddiau sych ailgylchadwy (50%) a gwastraff o’r ardd (59%).
Cytunodd 69% o atebwyr â’r strategaeth arfaethedig i gynhyrchu ynni drwy broses triniaeth thermol ar ôl ailgylchu, a defnyddio gymaint o sbwriel â phosibl i gynhyrchu compost o’i gymharu â 14% a anghytunodd â’r strategaeth hon.
Cytunodd 89% o breswylwyr y dylai’r Cyngor wella’r Canolfannau Gwastraff y Cartref (Safleoedd Amwynderau Dinesig).
Dywedodd 88% y byddai caffaeladwyedd cyfleusterau ailgylchu yng
Nghanolfannau Gwastraff y Cartref yn eu hannog i gynyddu’r sbwriel
y maent yn ei ailgylchu.