Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Casglu Gwastraff

 

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar y gwasanaethau casglu gwastraff a ddarperir gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pa ddyddiau mae fy nghynwysyddion gwastraff (biniau, blwch a sach ailgylchu) yn cael eu gwacáu?

Dylai eich cartref fod wedi derbyn sticer bin a chalendr Ailgylchwch gyda Michael sy’n dweud wrthych pryd y cânt eu gwacáu. Os nad yw’r rhain gennych gallwch eu lawrlwytho o’n gwefan.

Cynghorir trigolion i wirio eu Diwrnod Bin a’u Calendr, gan y gall eich Diwrnod a’ch Calendr ill dau fod wedi newid ar 4 Awst 2008.

Mae'n Wyl Banc - pryd caiff y bin ei wagio?

Y Haf 2008

Bydd eich sticer yn rhoi’r wybodaeth hon i chi neu fel arall gallwch wirio’r wybodaeth ar y safle hwn - trefniadau gwyl banc.

Nid yw'r bin wedi ei wagio heddiw - pwy ddylwn gysylltu gyda hwy?

Os oedd eich bin yn y man casglu erbyn 7.30 a.m. ac nid oedd unrhyw broblemau mynediad neu rwystrau, ffoniwch 01978 298989.

Ffurflen I Roi Gwybod Am Gasgliad Cymorthedig A Fethwyd

Ffurflen I Roi Gwybod Am Gasgliad Sbwriel A Fethwyd

Rhoi Gwybod I Ni Am Gasgliad Masnach A Fethwyd

Ni fedraf fynd â'r bin i'r man casglu fy hun - beth fedra' i ei wneud?

Mae gwasanaeth cymorth ar gael. Os ydych yn feddygol analluog, yn methu symud eich bin ac os na fedrwch gael cymorth gan aelod o'ch teulu neu gymydog, yna ffoniwch 01978 298989 neu ysgrifennwch at y Prif Swyddog Gwasanaethau Cymunedol, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Amgylcheddol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau'r Goron, Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG.

Ffurflen I Roi Gwybod Am Gasgliad Cymorthedig A Fethwyd

Beth ddylwn ei wneud gyda Gwastraff Gardd?

Cewch roddi gwastraff gardd nad yw'n rhy swmpus, megis gwair, yn eich bin ar olwynion, ond cofiwch y dylech fedru cau caead y bin yn llwyr pan ewch ag o i'r man casglu, am resymau iechyd a diogelwch. Ar gyfer gwastraff gardd na fedrwch ei roddi yn y bin, mae gan y cyngor safleoedd mwynderau dinesig mewn amrywiol leoedd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae gennyf eitemau swmpus sy'n rhy fawr i fynd i'r bin - sut medraf gael gwared ohonynt?

Os na fedrwch fynd â nhw i un o'r safleoedd mwynderau dinesig sydd wedi eu lleoli ledled y Fwrdeistref Sirol, yna ffoniwch 01978 298989 a bydd rhywun yno yn medru eich cynghori. Efallai y codir tâl os bydd y Cyngor yn eu symud ar eich rhan. Cysylltiad i'r ffurflen gais Casglu Gwastraff Swmpus ar lein.

A fedraf ailgylchu fy ngwastraff?

Mae nifer o bwyntiau ailgylchu wedi eu lleoli ledled y Fwrdeistref Sirol. Cysylltiad i wybodaeth bellach ar Ailgylchu.


Gwybodaeth Gyswllt

Ffôn: 01978 298989

Ebost: cysylltwch@wrexham.gov.uk

Cwblhau'r ffurflen ymholiad cyffredinol ar lein

Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Lleol Eraill
Rhifau Argyfwng / Defnyddiol
Cyfleusterau Ar Lein
Ymateb
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint