Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar Fynwent Wrecsam, a reolir gan Wasanaethau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gweler hefyd Cwestiynau a Ofynnir Amlaf ar Farwolaeth
Agorwyd y fynwent ar gyfer claddedigaethau ym mis Ebrill 1876.
Cynlluniwyd y fynwent gan Yeo Strachan, Syrfëwr Bwrdeistref Wrecsam ar y pryd. Yn wreiddiol mewn 10 erw yn union y tu cefn i gapel y fynwent, cynlluniwyd y fynwent fel 'mynwent gardd' i bobl y Fwrdeistref ei mwynhau.
Mae'r rhan fwyaf o'r cynllun gwreiddiol wedi goroesi ac yn cynnwys llawer o'r coed a blannwyd gan Strachan.
Dros y blynyddoedd, mae ffiniau'r fynwent wedi eu hymestyn. Yn gyntaf i'r llinell o Boplys Lombardi, sy'n gwahanu'r rhannau hyn a'r mannau claddu glaswelltog presennol, ac yn ddiweddarach i'r ffin bresennol yn amgáu'r ardaloedd sydd wedi eu defnyddio o'r 1970au ymlaen.
Dyluniwyd capel a phorthordy mynediad y fynwent gan y pensaer William Turner, cyn-Faer y Fwrdeistref. Mae nifer o nodweddion y fynwent, gan gynnwys y capel, porthordy'r fynwent a'r gatiau mynediad pilerog, yn adeiladau a ddynodwyd fel rhai Rhestredig Graddfa II.
Mae meini coffa'r beddau a leolir yn y rhannau Fictoraidd gwreiddiol hefyd wedi eu Rhestru fel rhai o ddiddordeb pensaernïol.
Mae'r fynwent ar agor i'r cyhoedd yn ystod yr oriau canlynol:-
Mae’r giatiau mynediad i’r tir yn cael eu cau 15 munud cyn yr amser cau swyddogol, er mwyn caniatáu i’r staff ddiogelu’r adeiladau a’r tir o’u hamgylch cyn cloi’r giatiau ar yr amser penodedig.
Ar Agor 10.00 am, Ar gau 6.00 pm.
Ar Agor 10.00 am, Ar gau 4.00 pm.
Caiff ymwelwyr barcio cerbydau ar y blaengwrt o flaen capel y fynwent yn ystod oriau agor.
Ar wahân i gerbydau sy'n rhan o orymdaith angladd, ni chaniateir cerbydau yn y fynwent ei hun, oni cheir caniatâd yr awdurdod.
Ac eithrio adegau pan gynhelir neu pan ddisgwylir cynhebrwng angladd ar y safle, caniateir mynediad i 5 cerbyd sy’n arddangos ‘Cerdyn Glas” a gydnabyddir gan yr UE fan bellaf.
Gofynnir i yrwyr pob cerbyd gadw at gyflymder nad yw’n uwch na 5 m.y.a.
Dylai gyrwyr cerbydau fod yn ymwybodol na fydd eu cwmni yswiriant, efallai, yn darparu yswiriant tra bo'r cerbyd ar dir y cyngor.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y sawl sy'n trefnu angladd anwylyd yn gwneud hynny trwy ddefnyddio gwasanaethau Trefnwr Angladdau proffesiynol.
Serch hynny, bydd Goruchwyliwr y Fynwent (gweler gwybodaeth ar gysylltu), yn falch o gynorthwyo a chynghori'r sawl sydd eisiau gwneud trefniadau preifat.
Gellir prynu 'Hawl Neilltuedig i Gladdu' gan yr awdurdod fel rhan o'r trefniadau angladd, neu gellir prynu llain ymlaen llaw i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r Hawl i Gladdu yn parhau am 99 blwyddyn o'r dyddiad prynu.
Mae Hawliau Claddu ar gyfer y mathau canlynol o leiniau ar gael:-
Llain bedd maint llawn, i gladdu hyd at 3 pherson
Llain Olion ar ôl Amlosgi, i gladdu hyd at 4 casged
Llain Baban, ar gyfer claddu un plentyn bychan
Gellir parhau i ddefnyddio llain maint llawn, ar ôl defnyddio'r lle ar gyfer y claddedigaethau, ar gyfer claddu olion sydd wedi eu hamlosgi.
Mae prynu Hawl Neilltuedig i Gladdu yn cynnwys Hawl i Osod Maen Coffa ar y bedd (yn ddarostyngedig i reolau meini coffa yr awdurdod).
Mae'r awdurdod hefyd yn darparu claddedigaethau am ddim mewn bedd 'cyhoeddus' ar gyfer oedolion a phlant. Lleolir beddau 'cyhoeddus' plant mewn rhan o'r fynwent sydd wedi ei dynodi yn benodol ar gyfer claddu plant.
Mae llawer o'r meini coffa yn rhannau hyn y fynwent yn enghreifftiau da o grefft y saer maen, ac yn cynnwys cerfwaith ac addurniadau hardd.
Yn y rhannau newydd, glaswelltog, nid yw'r awdurdod yn pennu unrhyw gyfyngiad ar y dyluniad ar wahân i'r uchder cyffredinol a thrwch y garreg.
Mae maen coffa o garreg naturiol yn goffadwriaeth a fydd, os caiff ei osod a'i gynnal yn briodol, yn goroesi am nifer o genedlaethau.
Dylid gwneud a gosod meini coffa gan saer maen proffesiynol, sy'n medru gwarantu ei waith/gwaith. Argymhellir bod perchnogion beddau yn yswirio eu meini coffa yn erbyn lladrad, colled neu niwed.
Unwaith y caiff ei osod, dylid archwilio a glanhau'r maen coffa o leiaf unwaith y flwyddyn. Efallai y bydd angen talu sylw i arysgrifiadau bob rhyw 4 neu 5 mlynedd. Argymhellir bod perchnogion yn cyflogi cyflenwr meini coffa i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a glanhau.
Mae gan berchnogion beddau gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw faen coffa neu eitem arall a roddir ar y bedd yn cydymffurfio gyda rheolau meini coffa y cyngor, ac nad yw'n achosi perygl.
Yn benodol, ni ddylai perchnogion meini coffa ddefnyddio cynwysyddion gwydr neu borslen, sy'n medru torri, nac amgáu wyneb y bedd gyda phethau a allai achosi i bobl faglu megis ffens plastig neu bren.
Os ystyrir bod cofeb neu eitem arall ar fedd, oherwydd ei gyflwr, y deunydd a ddefnyddiwyd, neu sut mae wedi ei adeiladu, yn cynrychioli perygl, mae gan y cyngor gyfrifoldeb dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, i leihau'r perygl hwnnw.
Yn anffodus, mae hyn yn aml yn golygu bod rhaid symud yr eitem neu osod y maen coffa i lawr ar wyneb y bedd, lle bydd yn llai peryglus. Bydd yr awdurdod bob amser yn ceisio cysylltu gyda pherchnogion beddau i'w hysbysu o'r hyn a wnaed a pham. Oherwydd hyn, gofynnir i berchnogion hysbysu'r Awdurdod os byddant yn newid cyfeiriad.
Cedwir cofnod cyfrifiadurol o'r holl gladdedigaethau o 1876 hyd heddiw yn swyddfa'r fynwent ac, yn ystod oriau gwaith arferol, bydd staff y fynwent yn ceisio cynorthwyo ymwelwyr sy'n ceisio cael hyd i feddau penodol.
I ddibenion ymchwil manylach, gellir archwilio cofnodion a chofrestri gwreiddiol trwy drefnu gyda'r Goruchwyliwr ymlaen llaw.
Gellir hefyd gweld copi o'r cofnodion claddu cyfrifiadurol ar gyfer y cyfnod 1876 i 1989 yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd hefyd yn rhedeg uned hanes teulu i gynorthwyo pobl sy'n ceisio canfod ffynonellau gwybodaeth ar enedigaethau a marwolaethau.
Mae dwy gofeb yn coffáu dinasyddion Wrecsam a fu farw o anafiadau tra'n gwasanaethu gyda lluoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad. Hefyd, mae adran benodol a gynhelir ar ran Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, yn cynnwys beddau personél y lluoedd arfog unigol wedi eu marcio.
At hyn, mae cofeb a leolir ger y fynedfa i'r fynwent yn coffáu'r nifer o filwyr o wlad Pwyl sydd wedi eu claddu yn y fynwent ac a ymladdodd gyda'r lluoedd Prydeinig yn yr Ail Ryfel Byd.
Nid yw'r awdurdod eisiau pennu cyfyngiadau di-angen ar ddefnyddwyr y fynwent. Serch hynny, gofynnwn i berchnogion beddau ac ymwelwyr gadw at y rheolau canlynol, er budd pawb:-
Dodwch holl sbwriel, ac unrhyw hen dorchau a blodau yn y biniau a ddarperir.
Cofiwch bod holl rannau glaswelltog y fynwent yn cynnwys beddau - hyd yn oed os nad oes maen coffa - felly peidiwch â gadael i anifeiliaid anwes grwydro'n rhydd neu faeddu'r fynwent.
Mae llawer o'r meini coffa yn hen ac efallai angen eu hatgyweirio. Peidiwch â gadael i blant gerdded ar a dringo'r cerrig beddau.
Parchwch anghenion ymwelwyr eraill. Peidiwch â gwneud swn di-angen.
Darpariaethau Mynwent, Trefnu Angladdau ac ati
Cofrestrydd Mynwentydd & Amlosgfa
Mynwent Wrecsam
Pentrebychan
Wrecsam Ffôn: (01978) 840068
LL14 4EP Ffacs: (01978) 846211
e-bost:crematorium@wrexham.gov.uk
Mae'r awdurdod yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella'r fynwent, a gwasanaethau mynwent y cyngor. Cysylltwch gyda'r uchod.
Lleolir y swyddfa ar lawr cyntaf Porthordy'r Fynwent ger prif gatiau'r fynwent ar Ffordd Rhiwabon, Wrecsam.
Ffôn: (01978) 263159
Os nad yw'r staff ar gael i dderbyn eich galwad, neu os ydych yn ffonio y tu allan i oriau arferol, bydd peiriant ateb yn derbyn eich neges. Os gadewch eich enw a'ch rhif ffôn, bydd rhywun yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag y bo modd.
Gofynnir i ymwelwyr nodi bod tenantiaid preifat yn byw ym Mhorthordy'r Fynwent, ger y brif fynedfa ar Ffordd Rhiwabon, ac nid ydynt yn cael eu cyflogi gan wasanaeth y fynwent. Os gwelwch yn dda peidiwch â'u haflonyddu, oni fo argyfwng.
Prif Swyddog yr Amgylchedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran yr Amgylchedd
Adeiladau’r Goron
Wrecsam
LL13 8BZ